Manylion
Adeiladu dyfodol mwy disglair i’r diwydiant bwyd a diod

Adeiladu dyfodol mwy disglair i’r diwydiant bwyd a diod

The Wales Food & Drink Upskilling Business of the Year category is sponsored by Food & Drink Skills Wales/Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, a new Welsh Government funded programme that works with the food and drink industry to develop a skilled and capable workforce to increase productivity and efficiency, and to fuel innovation and sustainable growth in Wales.

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn falch o gyhoeddi llwyddiant y digwyddiad Sgiliau ’Sgolion cyntaf a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yn ddiweddar.

Daeth bron i 100 o ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sy’n astudio Arlwyo, Busnes neu gyrsiau tebyg i’r digwyddiad i ddarganfod yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno, yn cynnwys sgyrsiau, cyflwyniadau a sesiwn gyda’r Dylanwadwr a’r bersonoliaeth deledu, Ameer Davies-Rana, a ddaeth yn enwog gyntaf fel ‘Sgrameer’ ar Hansh ar S4C.

Cafodd disgyblion gyfle i roi cynnig ar wneud selsig gyda Choleg Cambria, ffotograffiaeth bwyd gyda Ceri Llwyd, profi datblygu cynnyrch newydd gyda Swig Smoothies, archwilio byd creadigol dylunio graffig a sesiwn rithrealiti ryngweithiol gyda’r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC).

Nod y digwyddiad oedd arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn niwydiant bwyd a diod Cymru. Roedd y digwyddiad wedi’i dargedu at ddisgyblion sy’n ystyried gyrfa yn y sector, a dangosodd fod y cyfleoedd cyflogaeth yn amrywiol, ac yn gymaint mwy na chynhyrchu bwyd yn unig, gyda rolau fel Cyfrifeg, Adnoddau Dynol, Gweithgynhyrchu, Dylunio Graffig, Peirianneg, Marchnata, Dosbarthu a llawer mwy.

Dywedodd Ameer Davies-Rana:

“Roedd yn wych bod yn rhan o’r digwyddiad hwn ac i ymwneud â chymaint o bobl ifanc a helpu i’w hysbrydoli i feddwl am ba yrfa y maen nhw am ei dilyn ar ôl gadael yr ysgol. Mae cymaint o gyfleoedd ac roeddwn i’n falch o gael y cyfle i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw’r Gymraeg fel sgìl i’w chael yn y gweithle. Roeddwn i’n falch iawn o fod wedi cymryd rhan, yn enwedig gan ei fod wedi helpu i gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i ddatblygu gweithlu medrus a galluog i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, wrth annog arloesedd a thwf cynaliadwy yng Nghymru.

Dywedodd Nia Griffith, Rheolwr Ymgysylltu’r prosiect yng ngogledd Cymru a arweiniodd ar y digwyddiad:

“Rydym wrth ein boddau gyda’r nifer a ddaeth i’r digwyddiad a brwdfrydedd y disgyblion. Ein nod oedd ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol bwyd a diod ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gyflawni hynny, a helpu disgyblion i feddwl ychydig yn wahanol am yrfaoedd yn y diwydiant.

“Cawsom raglen arbennig o weithgareddau ac roedd cael Ameer Davies-Rana yn cymryd rhan yn wych. Roedd ei bresenoldeb a’i frwdfrydedd yn tynnu sylw’r disgyblion ac yn dangos sut y gall y Gymraeg fod yn sgìl ddefnyddiol o ran dilyn gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod. Rwy’n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi annog pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y sector cyffrous a deinamig hwn, ac edrychaf ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg ledled gogledd a chanolbarth Cymru dros y 12 mis nesaf.”

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru bellach yn bwriadu cynnal digwyddiadau tebyg mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.
Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.

Looking for more?