O’r fro i’r byd
Mentera 2024-2030
Cyflwyniad
Mae Mentera wedi bod yn ysbrydoli a chefnogi pobl a busnesau ledled Cymru ers 1989. Dros y cyfnod hwnnw, rydym wedi ennill enw da am greadigrwydd a rhagoriaeth. Rydym yn cael ein cydnabod fel arbenigwyr, ac yn ddarparwr blaenllaw o gyngor a chymorth i entrepreneuriaid a busnesau.
Rydym yn ddigyffelyb yn ein gallu i ddarparu ystod eang o wasanaethau yn ddwyieithog. Yn ogystal, mae ein staff, sy’n wybodus ac egnïol, wedi eu gwreiddio’n lleol, sy’n ein galluogi i ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd darpar entrepreneuriaid a pherchnogion busnes yn eu milltir sgŵar eu hunain.
Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein hanes o weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a darparu gwasanaethau, gan gynnwys rheoli ymyriadau eang ar ran arianwyr mewn ffordd drylwyr.
Yn dilyn penodi aelodau newydd i’r Bwrdd, penodi prif weithredwr newydd, a newidiadau sylweddol i’r dirwedd ariannu, dyma gyfle i osod cyfeiriad clir i’n cwmni ar gyfer y cyfnod nesaf. Gyda hyn mewn golwg, cynhaliwyd adolygiad o hyd a lled ein gwaith, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n berthnasol i’n cleientiaid, ac yn parhau i feithrin a chefnogi busnesau gwydn a chynaliadwy ledled Cymru.
O ganlyniad, mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein pwrpas, ein gweledigaeth a’r egwyddorion craidd hynny a fydd yn sail i’n holl waith dros y chwe blynedd nesaf.
Pwrpas
Pwrpas
Rydym ni’n ysbrydoli busnesau a chymunedau i fod yn fentrus, ac yn eu galluogi i ffynnu – yn lleol ac yn rhyngwladol.
Rydym yn helpu busnesau bach a mawr i dyfu a ffynnu wrth annog a chefnogi pobl i sefydlu busnesau newydd, arloesol. Rydym yn cyflawni hyn ledled Cymru wrth deilwra gwasanaethau o safon uchel, a chan fanteisio ar arbenigedd ein pobol, ein presenoldeb daearyddol a’n cysylltiadau cryf ag arweinwyr diwydiant, llywodraeth a phartneriaid eraill.
Gweledigaeth
Gweledigaeth
Economi lewyrchus i Gymru sy’n cael ei gyrru gan gymuned gref o fusnesau llwyddiannus, o safon ryngwladol.
Wrth ddarparu cefnogaeth fusnes o’r radd flaenaf, byddwn yn ysbrydoli a chefnogi pobl i sefydlu ac arwain busnesau llwyddiannus, arloesol ac uchelgeisiol. Bydd llwyddiant y busnesau hyn yn arwain at dwf economaidd cynaliadwy yng Nghymru, gan godi safonau byw, creu cymunedau mwy cydlynus a gwarchod yr amgylchedd.
Ymrwymo i ragoriaeth a gwella’n barhaus
Rydym yn ymrwymo i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol a fydd yn ysgogi newid cadarnhaol o fewn ein cwmni, er mwyn ei wneud yn weithle mwy effeithiol ac effeithlon. Credwn fod ein gallu i weithredu’n effeithiol yn seiliedig ar y canlynol:
Llywodraethiant
Rydym yn sefydliad sy'n gweithredu ar sail gwerthoedd, ac yn anelu i fodloni'r safonau proffesiynol a moesegol uchaf bob amser. Rydym yn gwerthuso ac yn diweddaru ein strwythurau a’n ffordd o weithio yn rheolaidd, ac yn datblygu systemau llywodraethu cadarn a thryloyw sy’n golygu bod gennym ganllaw gref ar gyfer ymddygiad a gwneud penderfyniadau. Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn yn datblygu dull gweithredu sy’n mynd ar drywydd cynaliadwyedd, cynhwysiant, a thwf economaidd.Pobl
Rydym yn ymwybodol bod llwyddiant yn dibynnu ar ein hadnodd mwyaf hanfodol, sef ein pobl, ein staff. Ein pobl sy’n cael syniadau, yn datrys problemau, yn gwneud penderfyniadau ac yn gweld cyfleoedd i wella’r sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd datblygu i staff er mwyn creu gweithlu sydd, nid yn unig â sgiliau cryf, ond hefyd yn meddu ar brofiad ymarferol yn eu maes gwaith. Bydd gweithlu amrywiol, a gwasgariad daearyddol staff, hefyd yn allweddol wrth i ni gefnogi twf busnesau a chleientiaid.Technoleg
Ein nod yw gwreiddio technoleg ddigidol ym mhob maes o'n cwmni, gan newid yn sylfaenol sut rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau i'n cleientiaid. Byddwn yn gwneud hyn wrth herio’r drefn yn barhaus, ac wrth arbrofi â dulliau newydd a gwahanol er mwyn dod yn sefydliad mwy effeithlon ac effeithiol. Rydym yn awyddus i ddatblygu’r sgiliau, y systemau a'r bobl angenrheidiol er mwyn addasu i ddatblygiadau technolegol a thueddiadau'r dyfodol.Delwedd
Wrth i ni osod sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol economi Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio mewn modd cydweithredol i ddatblygu delwedd ein cwmni a delwedd Cymru. Mae sicrhau delwedd allanol bositif ymysg y cyhoedd, cleientiaid, ymwelwyr a rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd. Byddwn yn cyfoethogi a chryfhau delwedd y cwmni ac yn gweithredu ar ran y gymuned fusnes i ddylawnadu ar gefnogaeth y dyfodol.Cyd-destun Strategol
Dros y chwe blynedd nesaf, bydd amryw o ddatblygiadau byd-eang yn effeithio ar gymdeithas ac economi Cymru. Bydd rhai datblygiadau yn cynnig cyfleoedd cyffrous i unigolion a busnesau, tra bod eraill yn debygol o greu heriau.
Dyma rai o’r datblygiadau a all effeithio ar fusnesau ac, felly, ar ein gwaith ni:
Cymdeithasol-Economaidd
- Poblogaeth sy’n heneiddio, sydd wedyn â goblygiadau o ran maint a sgiliau’r gweithlu.
- Amodau economaidd ansicr, megis effeithiau Brexit, pandemig Covid, tensiynau gwleidyddol byd-eang, chwyddiant a chostau benthyg uchel.
Technolegol
- Mae technoleg yn arf a all drawsnewid y ffordd y mae busnesau'n gweithredu. Gall leihau costau, gwella cynhyrchiant, cynnig mynediad at farchnadoedd newydd, a gwella profiad y cwsmer.
- Nid ydym eto wedi deall yn llawn oblygiadau dyfodiad Deallusrwydd Artiffisial (AI), ond mae’n debygol o gynnig cyfleoedd a heriau i fusnesau.
- Mae’r galw a’r gystadleuaeth am sgiliau technolegol yn debygol o gynyddu.
Amgylcheddol
- Yn gynyddol, mae materion amgylcheddol yn dod i’r amlwg ac yn dylanwadu fwyfwy ar benderfyniadau ac ymddygiad busnesau ac unigolion.
- Mae sectorau amaethyddiaeth, prosesu bwyd a diod, ac ynni gwyrdd yn sectorau allweddol bwysig i economi Cymru, ac wedi eu nodi fel rhai a all chwarae rhan bwysig wrth helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Iaith
- Mae posibilrwydd y bydd yn dod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau bod eu staff yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwleidyddol
- Llywodraeth Cymru o dan bwysau ariannol ac, yn sgil hynny, yn gorfod blaenoriaethu, a hynny o bosib mewn meysydd lle nad ydym yn gweithredu.
- Gostyngiad yn yr arian cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi busnesau a chymunedau.
- Gostyngiad sylweddol yn y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fusnesau a chymunedau gwledig
Dyma sut byddwn yn gwneud hyn:
- Ymyrryd ar ran busnes trwy rannu adborth a gwybodaeth am faterion sy'n effeithio arnynt gyda llunwyr polisi.
ei
gyflawni
ar
waith cwblhawyd
- Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i helpu i lunio polisïau a rhaglenni sy'n mynd i'r afael ac anghenion busnesau.
ei
gyflawni
ar
waith cwblhawyd
- Gweithio gyda’n partneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol i adnabod a rhannu arferion da o ran cynghori a chefnogi busnesau er mwyn gwella gwasanaethau a darparu’r hyn mae busnesau ei angen.
ei
gyflawni
ar
waith cwblhawyd
- Cyhoeddi asesiad o effaith economaidd a chymdeithasol y cwmni.
ei
gyflawni
ar
waith cwblhawyd
Mesur Llwyddiant
Rydym yn ymrwymo i adolygu ac adrodd ar ein perfformiad yn flynyddol. Byddwn hefyd yn mesur effaith ein gweithgareddau ar yr unigolion a’r busnesau rydym yn eu cefnogi.Dyma’r prif fesurau y byddwn yn eu defnyddio i asesu ein perfformiad rhwng nawr a 2030, gyda fframwaith perfformiad llawnach i olrhain effeithiolrwydd ac effeithiau rhaglenni a gweithgareddau unigol.
Gwasanaethau
Darparu gwasanaeth o ansawdd aruchel i'n cleientiaid a'n cwsmeriaid.Perfformiad
Cryfhau ein perfformiad masnachol fel cwmni.Cynaliadwyedd
Sicrhau dyfodol ffyniannus i'r cwmni - a gorged y gellid ei ail-fuddsoddi er lles.Delwedd
Codi ein statws fel prif ddarparwr gwasanaethau busnes Cymru. Cwmni y gellid ymddiried ynddo.Dylanwad
Cynyddu ein impact economaidd a chymdeithasol