Manylion
Busnesau Bwyd a Diod yn rhannu straeon llwyddiant ym mrecwastau busnesau yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaid

Busnesau Bwyd a Diod yn rhannu straeon llwyddiant ym mrecwastau busnesau yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaid

Darganfyddodd berchnogion busnes fuddion presintiaethau yn niwydiant bwyd a diod Cymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaid (Chwefror 5-11), mewn dau frecwast busnes; un yn Sanclêr a’r llall yn Abergele.

Galluogodd y brecwastau busnes, a drefnwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales, i gyflogwyr â diddordeb mewn cynnig presintiaethau i glywed gan gyflogwyr eraill sut mae presintiaethau wedi gweithio iddyn nhw, a gan brentisiaid sydd wedi elwa o gynlluniau tebyg.

Un o’r siaradwyr oedd Sally Sellwood, Rheolwr Marchnata ac AD ar gyfer distyllfa ‘In The Welsh Wind’ yng Ngheredigion, sydd wedi cynnig presintiaethau ers ddechrau 2021.

Mae hi wedi gweld buddion sylweddol o gynnig presintiaethau. Dywedodd:

“Mae presintiaethau yn ffordd agored i recriwtio rhywun sydd yn awyddus i ddysgu o fewn ein busnes, sydd yn rhywbeth rydym yn ei werthfawrogi. Mae’r system hefyd yn gweithio i ni drwy roi strwythur i elfennau sylfaenol hyfforddiant y gallwn ychwanegu ac adeiladu arno.

“Fel busnes ifanc, rydym wedi gallu defnyddio’r fframwaith presintiaethau i ddatblygu a dod a thalent lleol i mewn i’r busnes a darparu swyddi o fewn ein cymuned – i bobl ifanc ac i’r rhai sydd am newid gyrfa.

“Mae ein profiad ni wedi bod yn gadarnhaol dros ben a byddem yn annog pob busnes i ystyried presintiaethau fel ffordd o recriwtio – boed eich bwriad i gynnig mwy o gyfleoedd a hyfforddiant mewn swydd i aelodau newydd o staff, ond ddim yn hyderus sut i wneud hynny, neu os ydych am gyfrannu at adeiladu llwybr gyffrous i ymadawyr ysgol sydd ddim yn cynnwys prifysgol.”

Roedd cyfle yn y sesiynau i gyfarfod darparwr hyfforddiant i ddarganfod y cyrsiau a’r gefnogaeth sydd ar gael a thrafod sut i ddenu’r person cywir ar gyfer eu busnes.

Mae cyrsiau prentisiaeth wedi eu cyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru gyda sawl darparwr hyfforddiant led-led Cymru yn cynnig cyrsiau ar lefelau gwahanol, yn addas i bobl o bob oedran (16+) a gallu. Atyniad ychwanegol yw fod prentisiaid yn derbyn cyflog tra’n gweithio tuag at eu achrediad.

 

Dywedodd Elen Rebeca Jones, Rheolwr Ymgysylltu Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales:

“Rydym yn falch o fod wedi cynnal y brecwastau busnes yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau i amlygu’r buddion i gyflogwyr yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Gall gynnig presintiaethau helpu cyflogwyr i ddenu staff, neu gyfarparu sgiliau newydd i staff presennol. Drwy gyfuno gwaith ac addysg ar yr un pryd, bydd eich prentis yn dysgu drwy wneud, ac yn datblygu sgiliau sydd yn benodol ar gyfer eich busnes. Mae 90% o unigolion sydd yn dilyn prentisiaeth wedi cael mynediad i waith llawn amser o fewn blwyddyn o gymhwyso, gyda llawer yn aros efo’r cwmni lle cwblhawyd y prentisiaeth.”

Cynhaliwyd y brecwastau busnes yn:

Llety Cynin, Sanclêr ar Chwefror 7

Gwesty’r Kinmel, Abergele ar Chwefror 7

Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.
Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.