Manylion
Nodau SERO NET: Gwella cyfleoedd uwchsgilio i gwmnïau bwyd a diod o Gymru

Nodau SERO NET: Gwella cyfleoedd uwchsgilio i gwmnïau bwyd a diod o Gymru

Gall gweithgynhyrchwyr bwyd a diod a busnesau prosesu yng Nghymru ennill sgiliau a gwybodaeth am sut i adeiladu cynlluniau ymarferol sy’n ymateb i newid hinsawdd a herio targedau SERO NET mewn cyfres o weithdai a gynhelir ym mis Ionawr 2024.

Caiff y rhaglen ei rheoli gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog; bydd y cyrsiau hyfforddi a’r gweithdai ar-lein rhad ac am ddim, dan arweiniad tiwtoriaid, yn helpu busnesau cymwys i weithredu ar eu nodau cynaliadwyedd a datgarboneiddio. Gall busnesau hefyd archebu sesiwn un-i-un am ddim gyda’r tiwtor ar ôl cwblhau’r hyfforddiant.

Wedi’i ddylunio a’i arwain gan brif hyfforddwyr cynaliadwyedd a diwydiant Cymru, EcoStudio a Cynnal Cymru, bydd y cwrs hyfforddi cynaliadwyedd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar fynychwyr i roi eu dewis o newidiadau cynaliadwyedd ar waith o fewn eu busnes.

Bydd y gweithdai datgarboneiddio, a ddarperir gan GEP Environmental, yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at SERO NET ar gyfer y sector.

Mae dros 50 o gwmnïau bwyd a diod wedi cwblhau’r cwrs hyfforddi cynaliadwyedd yn llwyddiannus hyd yn hyn, ac, fel y gweithdai datgarboneiddio, oherwydd y galw mawr, mae carfan bellach o gyrsiau a gweithdai wedi’u hamserlennu ar gyfer y flwyddyn newydd.

Un o’r cwmnïau a fynychodd y cwrs cynaliadwyedd eleni yw MamGu Welshcakes o Sir Benfro.

Wrth siarad am ei phrofiad o’r cwrs, dywedodd Laura Barthorpe o MamGu Welshcakes:

“Fel busnes bach, rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd o wella a thyfu ein busnes fel y gall fod yn fwy cynaliadwy, felly roedd yr hyfforddiant hwn yn apelio’n fawr aton ni.

“Roedd y gweithdai’n addysgiadol iawn. Roedd y ffaith eu bod yn cael eu darparu ar-lein yn ein galluogi i gynllunio ein hamser yn effeithiol, ac eto gyda’r fformat hwn, roedden ni’n dal i deimlo’n rhan o grŵp ehangach. Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â busnesau eraill fel ein un ni a rhannu profiadau.

“Gwnaethon ni elwa cymaint o’r cwrs, gan gynnwys sesiwn un-i-un ychwanegol lle cafodd Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ei greu ar ein cyfer, sydd bellach yn rhan allweddol o’n cynllun busnes ehangach.”

Gall busnesau elwa o’r cyrsiau mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr a rhoi newidiadau i’w strategaethau busnes, technoleg a dylunio prosesau ar waith mewn arferion gwaith o ddydd i ddydd.

Mynychodd Peter Rice, Rheolwr Gyfarwyddwr Prima Foods yn Llanelli y cwrs cynaliadwyedd hefyd. Dywedodd:

“O ganlyniad i’r cwrs, rydyn ni wedi gweithredu archwiliadau amgylcheddol a phobl, wedi integreiddio polisi cynaliadwyedd i’r busnes ac wedi diffinio ein nodau cynaliadwyedd, a’r pwysicaf o’r rhain efallai yw cyrraedd Carbon Sero Net erbyn 2030.

“Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gynyddu ein hymrwymiad i leihau gwastraff ar bob lefel o fewn y busnes a’r cyflenwyr hynny rydyn ni’n prynu nwyddau a gwasanaethau ganddynt, cyn dechrau edrych ymhellach ar ein cadwyn gyflenwi ehangach.

“Mae llawer o’r nodau cynaliadwy yn mynd law yn llaw ag arfer busnes da ac yn helpu i gynnal proffidioldeb; mae’r cwrs wedi ein helpu i ailffocysu’r effaith mae ein busnes yn ei chael ar y gymuned leol a’r amgylchedd a sut i fesur hyn a gwneud cynlluniau i wella’n barhaus.

“Mae dau aelod o staff wedi cwblhau’r cwrs ac mae un arall wedi cofrestru ar ei gyfer y flwyddyn nesaf.”

Mae busnesau bwyd a diod ar raddfa fawr a bach o Gymru wedi gweld manteision y cwrs, gan gynnwys Peter’s Food Service ym Medwas, Caerffili.

 

Dywedodd Dafydd Davies, Rheolwr Iechyd, Diogelwch, yr Amgylchedd a Hyfforddiant gyda Peter’s Food Service: “Yn fuan ar ôl y cwrs, gwnaethon ni roi’r hyn roedden ni wedi’i ddysgu ar waith. Rhoddodd sylfaen dda inni ynghylch sut y dylai cynllun cynaliadwyedd edrych wrth symud ymlaen.

 

“Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr iawn i fanteisio ar arbenigedd yn y maes – roedd llawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gael.

 

“Roedd y cwrs wedi’i drefnu’n dda, gyda rhyngweithio gwych rhwng mynychwyr y cwrs. Mae pawb yn ymroi, ac mae’r cwrs yn eich gwneud yn ymwybodol o’r hyn mae busnesau eraill yn ei wneud. Am bwnc mor eang, roedd yn cael ei gyflwyno mewn modd oedd yn ei gwneud hi’n hawdd i chi weithio’n ddygn.”

Dywedodd Nerys Davies, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:

“Mae’r cwrs hyfforddi Cynaliadwyedd wedi’i gynllunio i helpu cwmnïau bwyd a diod Cymru i roi cynaliadwyedd ar waith. P’un a yw eich busnes yn fawr neu’n fach, p’un a ydych yn newydd i gynaliadwyedd neu os ydych eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau i’ch busnes. Mae’n wych clywed yr adborth cadarnhaol gan gwmnïau a gweld sut mae mynychu’r cwrs wedi helpu eu busnes i roi ymyriadau cynaliadwyedd ar waith.”

Er bod y rhaglen hyfforddi cynaliadwyedd yn cael ei chyflwyno fel cyfres o bum modiwl dan arweiniad tiwtor, mae’r gweithdai datgarboneiddio yn rhoi’r dewis i fynychwyr fynychu cynifer neu gyn lleied o’r gweithdai ag sydd angen.

Mae’r gweithdai’n ymdrin â phum pwnc penodol, ac maent yn hanfodol i fusnesau sy’n ceisio symud tuag at sero net. Mae’r pynciau’n cynnwys effeithlonrwydd ynni a rheolaeth; ynni adnewyddadwy; datgarboneiddio systemau gwresogi, oeri a rheweiddio; a datgarboneiddio gwastraff bwyd a phecynnu.

Mynychodd y ddistyllfa arobryn, The Welsh Whisky Co Ltd, sydd wedi’i lleoli ym Mhenderyn, Bannau Brycheiniog, y gweithdai datgarboneiddio yn ddiweddar. Dywedodd Neil Quigley, Cyfarwyddwr Cynhyrchu yn The Welsh Whisky Co Ltd.: “Roedd y gweithdai’n werthfawr ac yn addysgiadol iawn. Er bod y wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer pob pwnc yn gynhwysfawr iawn, roedd yn wych ein bod yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau â busnesau eraill a gofyn cwestiynau.

“Fel dilyniant i’r hyn roedden ni wedi’i ddysgu yn y gweithdai, a ninnau’n awyddus i gael rhagor o gymorth i’n busnes, cawson ni sesiwn un-i-un gydag ymgynghorydd, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Byddem yn argymell yn gryf fod busnesau eraill yn mynychu’r gweithdai.”

Wrth edrych ymlaen at weithdai datgarboneiddio’r flwyddyn nesaf, dywedodd Peter Schofield, Cyfarwyddwr a Phrif Ymgynghorydd GEP Environmental: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod i’n gweithdai ar-lein yn y Flwyddyn Newydd. Mae’n galonogol gweld cymaint o fusnesau yn y sector bwyd a diod yn croesawu datgarboneiddio a’r holl gyfleoedd a ddaw yn ei sgil, megis lleihau ynni, arbed costau a lleihau allyriadau carbon, ar y daith i Garbon Sero Net.

“Yn GEP, rydym yn ymwybodol bod y daith i Sero Net yn unigryw i bob busnes, ac mae’r gweithdai’n cynnig awgrymiadau ymarferol, diriaethol wedi’u teilwra i’r sector bwyd a diod. Mae’r gweithdai’n canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau, o ostyngiadau diriaethol iawn mewn gwastraff bwyd a phecynnu i nodi’r agweddau ar fusnes sy’n llai gweladwy, ond yr un mor bwysig, o ran arbedion ynni, cost a charbon – gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, systemau gwresogi, oeri a rheweiddio.

“Byddwn yn helpu’r busnesau hyn, drwy’r gweithdai a chyfarfodydd 1:1, i nodi cyfleoedd yn eu sefydliad eu hunain a rhoi’r sgiliau cywir iddynt wneud penderfyniadau fel y gallant gymhwyso newidiadau i’w strategaethau busnes yn unol â hynny.”

 

Explore our latest postsMentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024. Blog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024
Explore our latest postsMentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024. Blog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024