Manylion
Prosiect newydd Sgiliau Bwyd a Diod yn cefnogi digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru o fewn ysgolion

Prosiect newydd Sgiliau Bwyd a Diod yn cefnogi digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru o fewn ysgolion

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru drwy ddarparu adnoddau dwyieithog i godi ymwybyddiaeth a helpu annog trafodaeth o amgylch newid hinsawdd.

Mae holl ysgolion uwchradd Cymru wedi derbyn Pecyn Syniadau Digwyddiadau Ysgolion, yn cynnwys syniadau bachog i annog myfyrwyr i ystyried tarddiad cynnyrch er mwyn cyfrif milltiroedd bwyd, ymchwilio i ddeunyddiau pacio y defnyddir, creu rysait cynaliadwy, ceisio creu reel TikTok yn canolbwyntio ar fod yn greadigol gyda gwastraff bwyd, a llawer mwy.

Mae’r pecynnau wedi cael adborth cadarnhaol gan ysgolion, gyda llawer yn defnyddio’r syniadau i gefnogi dysgu yn seiliedig ar y tasgau yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Jane Pettit, Arweinydd Pwnc ar gyfer Bwyd, Maeth a Garddwriaeth yn Ysgol Uwchrwadd Llanishen ger Caerdydd

“Rydym yn hynod gyffrous i gymeryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru. Diolch i’r Pecyn Syniadau gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, rydym wedi datblygu gweithgareddau sydd yn cynnwys cwis Newid Hinsawdd a thasg ar gyfer yr ystafell ddosbarth i edrych ar darddiad a milltiroedd bwyd.

Rydym yn ychwanegu elfen gystadleuol drwy redeg y sesiwn fel cystadleuaeth i weld pa grŵp fydd yn ennill! Yn ogystal, rydym yn ffodus iawn i gael gardd a polytunnel dim gwastraff yn yr ysgol, sydd yn ffordd wych o gael disgyblion i ymddiddori mewn materion amgylcheddol a chysidro o ble daw eu bwyd.”

Dim ond un elfen yw hon o brosiect newydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyllid i fusnesau cymwys o fewn y sector, gyda ffocws ar ddiwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru. Mae gweithdai wedi’u hariannu’n llawn ar Ddatgarboneiddio a Chynaliadwyedd ar gael ar hyn o bryd.

Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.
Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.