Datgelu enwau’r deuddeg ar brosiect SBARC Ceredigion
Mae ffermwr, darlunydd, cynhyrchydd teledu a cherddor ymysg y deuddeg sydd wedi eu dewis ar gyfer rhaglen hyfforddi SBARC Ceredigion Menter a Busnes.
Mae’r fenter newydd sbon sy’n cael ei hariannu gan Llywodraeth y DU, wedi ei gyrru gan Ffyniant Bro a’i rheoli gan y cwmni datblygu economaidd blaenllaw Menter a Busnes yn rhoi cyfle i 12 unigolyn fanteisio ar ystod o brofiadau dysgu gan gynnwys seminarau, gweithdai a chyfleoedd mentora.
“Pan weles i SBARC Ceredigion, ro’n i’n weld e’n gyfle da i glywed gan bobl busnes sydd wedi llwyddo, pobl busnes o wahanol feysydd,” meddai Steff Rees sydd ymysg y 12, cerddor, ac Arweinydd Tîm gyda Menter Iaith Ceredigion, sydd â nifer o syniadau busnes posib.
Yn ymuno â Steff mae Sophia Morgan-Swinhoe, cyd-berchennog Dyfi Dairy, a’r Anogwr Dysgu ac athletwr brwd, Jac Ifan Davies. A hithau wedi dechrau gyda chwe acer o dir a dwy afr, mae fferm Sophia bellach yn gartref i 60 o eifr a 13 buwch, ac mae’n gobeithio y bydd SBARC Ceredigion yn ei helpu i dyfu’r busnes a’u cwsmeriaid. Mae syniad busnes Jac eisoes ar waith; ap rhyngweithiol sy’n cefnogi plant ac oedolion i ddysgu Cymraeg trwy straeon. “pan weles i gynllun SBARC Ceredigion ro’n i’n benderfynol o fynd amdani – mae’n gyfle ffantastig!”Meddai’r entrepreneur ifanc, a lwyddodd i gwblhau’r her heicio GR20 Ewrop y llynedd.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus, sy’n amrywio o ran oedran, cefndir a phrofiad, oll yn treulio dau benwythnos preswyl yng Ngheredigion, a thri diwrnod yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, yn clywed gan arbenigwyr o fyd busnes. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i’r unigolion i gwblhau tystysgrif ôl-radd lefel 7 ar Arwain Newid drwy Brifysgol Aberystwyth.
Roedd y cyfle hwn am ddatblygiad personol yn apelio at Rebekah Stuart a ddaw yn wreiddiol o County Clare yn Iwerddon. “Roedd y cwrs arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n rhan o raglen SBARC Ceredigion yn apelio ata i; mae’n gyfle da ar gyfer datblygiad personol ac mi fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol beth bynnag ddaw i’m rhan.”
Gan weithio ar brosiect Arwain DGC, ac yn helpu ar fferm deuluol ei phartner, mae Rebekah hefyd yn gobeithio am syniadau ar arallgyfeirio. “Mae gen i ddiddordeb wedi bod mewn sefydlu busnes erioed, ac fe fydden ni’n hoffi arallgyfeirio’r fferm, gyda phodiau glampio ella.”
I Ren Skalka, darlunydd o Lanon, roedd y rhaglen yn gyfle i ddysgu sut i sefydlu gofod cymunedol newydd. “Dwi wir isio sefydlu gofod cwiar yn Aberystwyth. Rhywle rhwng caffi a gofod gwerthu, gydag ongl gymunedol hefyd. Gofod fydd yn gallu darparu cymorth i’r gymuned LGBTQIA+ yn Aberystwyth.”
Rhoi yn ôl i’w chymuned yw’r hyn wnaeth ysgogi Llinos Hallgarth i ymgeisio hefyd. “Mae criw ohonom ni yn y broses o brynu Capel Bethel yma yng Nghapel Dewi,” esbonia Llinos, sydd hefyd yn rhedeg busnes gyda’i chwaer. “A beth bynnag ddigwyddith gyda’r Capel, bydd yn rhaid iddo fod yn fusnes sy’n talu am ei hunan. Mae mor bwysig i fi fod y gymuned yn ffynnu.”
Mae Alaw Rees a Siwan Mair Hughes wedi dychwelyd i Geredigion yn ddiweddar wedi cyfnod yn teithio, a’r ddwy â’u bryd ar sefydlu busnes eu hunain o fewn eu milltir sgwâr.
“Ar hyn o bryd dwi jest eisiau datblygu fy sgiliau proffesiynol, cael cyfle i gwrdd â mwy o bobl, cael cyfle i rwydweithio a chael ysbrydoliaeth hefyd,” meddai Alaw, sydd wrth ei bodd yn treulio amser gyda’r cŵn a’r ceffylau adref ar y fferm deuluol yn Llanarth.
Mae Siwan Mair Hughes, sydd ar hyn o bryd yn gofalu am y gwaith Marchnata a Chyfathrebu yn Fferm Bargoed ger Aberaeron, hefyd yn awyddus i ddysgu: “Mae gen i ddiddordeb yn y posibilrwydd o sefydlu busnes yn y dyfodol, o bosib yn gwneud gwaith marchnata, hyrwyddo a chreu cynnwys ar gyfer busnesau lleol.”
Y syniad o greu gwaith i’w hun ac eraill yn y maes wnaeth ysbrydoli’r cynhyrchydd ffilmio teledu a rhaglenni dogfen Rhys Jones i ymgeisio ar gyfer SBARC Ceredigion : “Mae pawb yn gwybod bod rhedeg busnes yn anodd, felly dwi’n edrych ymlaen at glywed gan berchnogion busnes am sut maen nhw wedi ymdopi pan mae pethau wedi bod yn anodd,” meddai’r tad i ddau o Aberystwyth. “Dwi’n gobeithio cael cyngor am arwain, bod yn wydn ac yn hyblyg, elfennau allweddol gan fod pethau’n newid yn gyson yn ein maes ni.”
Mae un arall o’r criw, y dylunydd tecstilau Sara Lleucu Griffith o Langwyryfon yn prysur wneud enw i’w hun gyda’i dyluniadau tecstilau. “Mae pob darn yn unigryw,” esbonia Sara, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth bedwar diwrnod yr wythnos. “Mae fy ngwaith wedi ei ysbrydoli gan gefn gwlad Cymru, y lliwiau a’r patrymau.” Hoffai Sara agor siop yn lleol i arddangos a gwerthu ei gwaith.
Y syniad o wneud yr hyn mae’n angerddol amdano yn llawn amser sy’n sbarduno’r dylunydd colur o Aberteifi, Carys Jukes. Ers dychwelyd adref ar ddechrau’r pandemig, mae Carys wedi bod yn gweithio mewn maes gwahanol, gan ganolbwyntio ar y colur a’r harddwch yn ei hamser sbâr wrth i gyfyngiadau covid lacio. Ond y gobaith yw agor lle ei hun, gan gynnig amrywiaeth o driniaethau harddwch. “Y freuddwyd yw cael lle fy hunan, a gweithio’n llawn amser yn gwneud y peth dwi’n joio fwyaf.”
Mae Siwan Richards, sef yr wyneb tu ôl i’r cyfrif ‘Twtio’ ar Instagram, hefyd yn barod i gymryd y cam nesaf gyda’i busnes ac yn gobeithio y gall SBARC Ceredigion arwain y ffordd iddi. “Y bwriad yw datblygu’r busnes er mwyn cynnig gwasanaeth ble rwy’n mynd i mewn i dai pobl i helpu, o bosib gyda thacluso un ardal o’r tŷ, y tŷ cyfan, efallai wrth i rywun symud tŷ neu os yw rhywun wedi colli aelod o’r teulu ac angen help i glirio’r tŷ.”
Mae disgwyliadau mawr ar gyfer y 12 cyntaf ar y rhaglen yn ôl Cyfarwyddwr Datblygu a Gwledig Menter a Busnes, Eirwen Williams. “Mae’r deuddeg cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen SBARC Ceredigion yn griw grêt. Maen nhw i gyd o gefndiroedd cwbl wahanol ond yn awyddus iawn i ddysgu, nid yn unig gan yr arbenigwyr profiadol y maent yn eu cyfarfod, ond gan ei gilydd hefyd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddilyn eu gyrfaoedd wedi hyn.”
Bydd criw o 12 arall yn cael eu dethol ar gyfer ail rownd rhaglen SBARC Ceredigion yn 2024.
Am ragor o wybodaeth am brosiect SBARC Ceredigion a manylion ymgeision, neu cysylltwch â sparc@menterabusnes.co.uk.