Manylion
Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf

Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cydweithio’n ddiweddar ag AMRC Cymru i roi cyfle unigryw i gael profiad ymarferol o weithgynhyrchu uwch, yn ystod wythnos o brofiad gwaith i bedwar darpar beiriannydd rhwng 16 a 18 oed.

Canfu ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan y rhaglen fod diffyg sgiliau yn bodoli ym meysydd technegol a pheirianneg, gyda’r galw am rolau o’r fath yn debygol o fod ar gynnydd yn y dyfodol.

Dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, a arweiniodd at roi cyfle i bedwar unigolyn wella eu dealltwriaeth o dechnolegau diwydiant o fewn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Wedi'i lleoli yn AMRC Cymru, Sir y Fflint; cyflwynwyd heriau gweithgynhyrchu o’r byd go iawn i Adam Agrane o Ysgol Uwchradd yr Esgob Heber, Malpas; Bianca Ambata o Ysgol y Santes Ffraid, Dinbych; Daniel Davies Ysgol Alun, Yr Wyddgrug; a Dylan Blackwell Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd St Joseph, Wrecsam, gan osod y llwyfan ar gyfer profiad dysgu ymdrochol.

Dywedodd Adam Agrane:

“Mae cael y cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol profiadol wedi gwella fy sgiliau datrys problemau ac wedi darparu gwersi gwerthfawr y gallaf eu cymhwyso ar draws unrhyw lwybr gyrfa y byddaf yn dewis ei ddilyn.”

Drwy integreiddio heriau’r byd go iawn a gwybodaeth arbenigol, nod y rhaglen oedd pontio’r bwlch sgiliau yn y diwydiant a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.

Dywedodd Bianca Ambata:

“Y nod rydw i eisiau ei gyflawni fwyaf mewn bywyd yw dod yn beiriannydd. Rwy’n angerddol iawn am beirianneg, ffiseg a mathemateg ac roeddwn wrth fy modd i gael fy newis ar gyfer y cyfle gwych hwn.”

Penllanw’r prosiect oedd cyflwyniad lle bu’r myfyrwyr yn arddangos eu datrysiadau a’u methodolegau. Gwerthuswyd cymhwysiad y myfyrwyr o wybodaeth y diwydiant mewn senarios byd go iawn, gan asesu eu sgiliau arloesi, gwaith tîm a datrys problemau.

Dywedodd Daniel Davies:

“Rwy’n gobeithio dilyn gyrfa mewn peirianneg ynni adnewyddadwy. Mae’r cyfle profiad gwaith hwn wedi rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i mi ac wedi fy ngalluogi i gael gwell gwybodaeth am y byd peirianneg a’r hyn y mae’r swydd yn ei olygu mewn gwirionedd.”

Dywedodd Dylan Blackwell:

“Mae’r cyfle hwn wedi rhoi profiadau gwerthfawr i mi a blas o’r sector bwyd a diod. Bellach mae gen i fewnwelediad dyfnach i’r llwybrau amrywiol o fewn peirianneg a fydd yn ei dro yn fy nghynorthwyo gyda fy newisiadau gyrfa yn y dyfodol.”

Dywedodd Lucy Morley, Peiriannydd Ymchwil Gweithgynhyrchu yn AMRC Cymru:

“Cafodd y myfyrwyr eu paru â pheirianwyr arbenigol ar gyfer gweithgareddau cydweithredol, amlddisgyblaethol a oedd yn efelychu problemau peirianneg a wynebir yn rheolaidd gan y diwydiant bwyd a diod. Rhoddodd sesiynau ymarferol brofiad iddynt o ddefnyddio technoleg peirianneg megis meddalwedd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, rhaglennu SMART Workbench a Robotics. Dangosodd y pedwar frwdfrydedd mawr a phleser oedd eu croesawu a gweld y cynnydd a wnaed ganddynt. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ac yn gobeithio y bydd eu hangerdd am beirianneg yn datblygu i fod yn yrfa lwyddiannus yn y diwydiant bwyd a diod.”

Dywedodd Elen Rebeca Jones, Rheolwr Ymgysylltu Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:

“Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth berthnasol am y cyfleoedd gyrfa helaeth yn y diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru yn hollbwysig i’m gwaith ac roedd gallu cynnig y cyfle hwn i’r pedwar myfyriwr llwyddiannus yn wych.Mae peirianneg yn rhan annatod o bob cwmni gweithgynhyrchu bwyd a diod ac mae cyflwyno myfyrwyr i fyd arloesi, awtomeiddio a’r llwybrau amrywiol i’r sector wedi bod yn werthfawr ac yn werth chweil. Y gobaith yw y bydd yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau pan ddaw’n fater o ddewis gyrfa.”

Explore our latest postsMentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024. Blog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024
Explore our latest postsMentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024. Blog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024