Cronfa Her Datgarboneiddio a Covid
Cronfa Her Datgarboneiddio a Covid
Cafodd Mentera ei gomisiynu gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru i reoli’r prosiect ac i ddosbarthu cyllid grant i’r sector bwyd a diod yng Nghymru, rhaglen a elwid yn Gronfa Datgarboneiddio ac Adfer ar ôl Covid.
Nod y grant oedd ariannu prosiectau cydweithredol sy’n cynnig atebion arloesol o safbwynt yr agenda datgarboneiddio, gan helpu i adfer y sector bwyd a diod Cymreig y mae’r pandemig wedi cael effaith niweidiol arno.
Nod y gronfa her oedd cyflawni’r weledigaeth ar gyfer Bwyd a Diod Cymru;
Creu sector bwyd a diod Cymreig cadarn a llewyrchus sydd ag enw da ar draws y byd am ragoriaeth, ac sy’n meddu ar un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd ar lefel amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae amcanion y Gronfa Datgarboneiddio ac Adfer ar ôl Covid wedi’u hamlinellu isod;
- Creu sector bwyd a diod Cymreig cadarn a llewyrchus sydd ag enw da ar draws y byd am ragoriaeth, mewn ffordd gyfrifol ar lefel amgylcheddol a chymdeithasol
- Annog newid meddwl gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy o gynhyrchu
- Cefnogi busnesau mewn ffordd arloesol i dyfu’n fasnachol y tu hwnt i’w lefelau cyn y pandemig
- Ysgogi twf ychwanegol ym marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac mewn marchnadoedd allforio allweddol
- Ysgogi gwariant ar ddatblygiadau arloesol ac ymchwil a datblygu ymysg busnesau Bwyd a Diod yng Nghymru
- Datblygu prosesau a chynhyrchion arloesol y gellir eu defnyddio i ddatgarboneiddio’r sector Bwyd a Diod
- I’r sector bwyd a diod fod ar flaen yr ymgyrch i adfer ar ôl Covid yng Nghymru
Daeth cyfanswm o 39 o geisiadau i law a dyfarnwyd grantiau i 22 o brosiectau llwyddiannus. Roeddent yn cynnwys amrywiaeth eang o ran maint, sectorau a lleoliadau daearyddol yng Nghymru. Roedd costau llawn prosiectau’r 22 ymgeisydd llwyddiannus yn £1,559,122.36 tra bod gwerth £1,353,919.31 o grantiau wedi’u dyfarnu.
Mae rhagor o fanylion am y gronfa a’r prosiectau unigol yn yr adnoddau canlynol: