Manylion

Cyfle – Interniaeth Mentera

person-laptop.svg
Wyt ti'n cwblhau dy addysg llawn amser eleni?

people-cow.svg
Hoffet ti gael profiad gwaith cyflogedig o fewn y diwydiant amaeth?

person-tractor.svg
Os wyt ti am gael dechrau da i dy yrfa, gwna gais!

Carys Evans, 2024 Intern

Quote

“Roedd y cyfleoedd a gefais wrth fod yn rhan o Cyfle yn amhrisiadwy. Yn sicr, roedd y profiadau wedi fy helpu i benderfynnu fy mod am weithio o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â ffermydd ar hyd a lled Cymru yn gwneud gwaith ymarferol. Yn ogystal, roedd cael y profiad o fod yn rhan o dîm gweithgar yn un positif, fe wnes i fwynhau pob eiliad.”

Quote

Cyfle arbennig...

Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf a/neu fis Medi a mis Hydref 2025, byddwn yn cynnig cyfle i ddau unigolyn ifanc gael profiad ymarferol yn y meysydd canlynol o dîm Cyswllt Ffermio:

  • Y Ganolfan Wasanaeth: Ennill profiad ym meysydd gweithrediadau craidd a gweinyddol Cyswllt Ffermio.
  • Swyddogion Datblygu: Cydweithio ar brosiectau sy'n anelu at wella arferion ffermio a chynaliadwyedd.
  • Swyddogion Marchnata a Digwyddiadau: Cynorthwyo i hyrwyddo a gweithredu mentrau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys digwyddiadau Ein Ffermydd.
  • Swyddogion ac Arbenigwyr Sector: Gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr ar draws rhwydwaith o ffermydd, gan gasglu data a monitro prosiectau arloesol.
  • Casglu Data ar Ffermydd a Monitro Prosiectau: Cynnal gwaith maes, casglu gwybodaeth hanfodol, ac arsylwi gweithrediad prosiectau ar ffermydd amrywiol.
  • Paratoi ar gyfer Digwyddiadau Ein Ffermydd: Cyfrannu at y gwaith cynllunio a logistaidd ar gyfer digwyddiadau Ein Ffermydd, sydd i'w cynnal ledled Cymru ym mis Medi.
  • Mentora: Dysgu wrth i chi weithio gyda mentor dynodedig i ddarparu cefnogaeth barhaus.
  • Datblygu Gyrfa: Datblygwch eich rhagolygon gyrfa gydag adborth rheolaidd ar interniaeth wedi'i theilwra ar eich cyfer chi.
person-laptop-2.svg
Hyd at 200 awr

person-gardening-2.svg
£12.30 yr awr

Gwenan Owen, 2023 Intern

Quote

"Wedi graddio o Aberystwyth, bu interniaeth Mentera gyda Cyswllt Ffermio yn drawsnewidiol. Cynigiodd gyfleoedd amhrisiadwy yn y sector amaethyddol, gan ddarparu gwybodaeth ddofn o'r diwydiant a chysylltiadau proffesiynol hanfodol. Cyfrannodd y profiad hwn yn uniongyrchol at fy llwyddiant yn fy rôl bresennol gyda’r cwmni. Rwy'n argymell yr interniaeth hon yn fawr i unrhyw un sy'n angerddol am amaethyddiaeth - gall siapio'ch llwybr gyrfa yn sylweddol."

Quote

Ymgeisia nawr!

Ffenest ymgeisio yn cau ar 25.04.2025

Apply