Manylion
Y Gymraeg: Ased Busnes, Nid Rhwystr

Y Gymraeg: Ased Busnes, Nid Rhwystr

I lawer o gwmnïau yng Nghymru, mae’r Gymraeg yn parhau i gael ei thrin fel cost ychwanegol, neu rywbeth a wneir ar ôl oriau gwaith – hobi cenedlaethol. Mae hon yn agwedd gostus, ac mae’n bryd i ni gael sgwrs onest am y Gymraeg fel ased busnes cystadleuol.

 

Y gwir am y Gymraeg a’r economi

  • Mae bron i 30% o’ch marchnad yn Gymraeg: Gan fod dros 892,000 o bobl yng Nghymru yn siarad neu’n deall Cymraeg, mae busnesau sy’n anwybyddu’r iaith yn dewis yn fwriadol fod yn amherthnasol i bron i 30% o’u marchnad bosibl. Ydy hyn yn strategaeth fusnes gadarn?
  • Teyrngarwch cwsmeriaid: Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu bod cwsmeriaid dwyieithog yn dangos lefelau uwch o ddiddordeb a theyrngarwch i frandiau sy’n defnyddio’r iaith. Drwy esgeuluso’r Gymraeg, rydyn ni’n gadael oddeutu £50 miliwn mewn refeniw teyrngarwch a diddordeb posibl ar y bwrdd, bob blwyddyn.
  • Dim ond hobi? Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, faint o gwmnïau amlwladol mawr sy’n gweithredu yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu’r Gymraeg fel iaith fusnes weithredol? Yr ateb yw ‘dim’. Pam ydyn ni’n gadael i’n hiaith ddod yn hobi ar ôl oriau gwaith yn hytrach nag ased busnes cystadleuol?

Sut mae Mentera’n gwneud y mwyaf o’i Gymreictod?

Mae Mentera yn gwmni nid-er-elw a chanddo tua 170 aelod o staff, gyda 92% ohonyn nhw’n siaradwyr Cymraeg. I Mentera, mae’r Gymraeg yn sylfaen i’n brand. I ni, nid baich yw’r Gymraeg, ond rhywbeth sy’n ychwanegu gwerth.

 

Cryfder i’n Brand

  • Ym Mentera, rydyn ni’n gweld ein dwyieithrwydd naturiol a’n Cymreictod balch fel cryfder i’n brand.
  • Mae’n ein galluogi ni i ddarparu gwasanaeth hollol ddwyieithog i’n cleientiaid, sy’n cael ei ystyried yn gryfder.
  • Mae enw’r cwmni, er ei fod yn air newydd, yn swnio’n Gymraeg, ac mae hyn o fwriad.

Diwylliant Mewnol Gweithredol

  • Mae busnes y cwmni yn cael ei gynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae’r Bwrdd hefyd yn gweithredu yn Gymraeg, gan ddangos mai o frig y cwmni y daw’r diwylliant.
  • Rydyn ni’n creu deunydd yn Gymraeg yn naturiol, ac nid yn cyfieithu o’r Saesneg yn unig.
  • Rydyn ni’n cefnogi staff i ddysgu Cymraeg trwy gynnig gwersi a grwpiau mentro iddyn nhw.

Denu Talent

  • Mae Cymreictod yn helpu Mentera i ddenu talent wrth recriwtio, gan fod ein diwylliant yn ddeniadol i Gymry Cymraeg.
  • Mae’r diwylliant hwn hefyd yn groesawgar a chynhwysol i’r rheini sy’n ddysgwyr neu’n ddi-Gymraeg.
  • Yn ddiweddar, fe wnaethon ni recriwtio dau aelod newydd i’r Bwrdd sydd ddim yn hyderus iawn yn siarad Cymraeg, ond maen nhw’n medru ei deall. Er bod busnes y Bwrdd yn dal i gael ei gynnal yn Gymraeg, mae croeso i’r ddau gyfrannu yn Saesneg pan fo angen, sy’n ein galluogi i fanteisio ar eu profiad heb darfu ar ddiwylliant y Bwrdd.

Y Ffordd Ymlaen

Mae agweddau negyddol ynglŷn â’r iaith wedi bodoli ers canrifoedd. Ystyriwch y dyfyniad hwn o’r Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales yn 1847:

“The Welsh language is a vast drawback to Wales, and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people. It is not easy to over-estimate its evil effects.”

Os ydych chi’n credu bod yr agwedd honno wedi diflannu o ystafelloedd bwrdd Cymru yn yr 21ain ganrif, rydych chi’n anghywir. Rydyn ni’n dal i drin ein hiaith fel ‘anfantais,’ ac mae angen i ni newid hynny.

Mae rhai’n dadlau bod angen i ni ganolbwyntio ar ieithoedd busnes rhyngwladol fel Mandarin a Sbaeneg – dadl y ‘byd-eang yn erbyn y lleol’. Ond pam fod angen dewis? Pam na allwn weld y Gymraeg fel gwahaniaethwr gwerthfawr yn y farchnad fyd-eang, wrth hefyd ddatblygu’r gallu i weithredu trwy gyfrwng ieithoedd mawr y byd?

Yn lle gweld y Gymraeg fel ‘gwastraff llwyr o arian ac adnoddau’, mae Mentera yn ei gweld fel gwahaniaethwr gwerthfawr, yn gryfder i’n brand, ac yn rhan greiddiol o’n diwylliant. Rydyn ni’n falch o allu teithio’r byd i arddangos byd busnes deinamig – a dwyieithog – Cymru.

Mae’n bryd i fusnesau Cymru ymfalchïo yn ein hiaith a rhyddhau ei photensial fel ein Pwynt Gwerthu Unigryw mwyaf.

 

 

Explore our latest postsGolwg o Gymru: Beth Mae Busnes Cymru Ei Angen o Gyllideb y DU SBARC Ceredigion yn croesawu 20 o entrepreneuriaid newydd Blog Llio: Fy mhrofiad i fel intern Cyswllt Ffermio
Explore our latest postsGolwg o Gymru: Beth Mae Busnes Cymru Ei Angen o Gyllideb y DU SBARC Ceredigion yn croesawu 20 o entrepreneuriaid newydd Blog Llio: Fy mhrofiad i fel intern Cyswllt Ffermio