Manylion
Treialon IOT Amaethyddiaeth Glyfar

Treialon IOT Amaethyddiaeth Glyfar

Mae 16 fferm ledled gogledd Cymru wedi cael cyfle i dreialu’r technolegau digidol diweddaraf sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael â rhai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Bydd pŵer y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thechnolegau LoRaWAN (Long Range Wide Area Network) yn ganolog i’r rhwydwaith cyffrous newydd hwn i ffermwyr. Ariennir y prosiect Treialon IoT Amaethyddiaeth Glyfar yn llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac fe’i darperir gan gwmni Mentera ar ran Uchelgais Gogledd Cymru drwy ei Raglen Ddigidol. 

Trwy ddefnyddio pŵer technolegau amaethyddol clyfar, mae ffermwyr sy’n rhan o’r rhwydwaith yn gobeithio gwella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd eu ffermydd, gan eu helpu i gyrraedd eu nodau busnes. Bydd treialon sy’n canolbwyntio ar fabwysiadu technolegau a phrosesau newydd ar ffermydd yn cael eu cynnal ledled gogledd Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd y treialon yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd ar draws y sectorau llaeth, cig coch, dofednod a garddwriaeth. 

Mae LoRaWAN yn system rwydwaith dros ardal eang a’i nod yw cysylltu dyfeisiau IoT a chyfathrebu data dros bellteroedd maith gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl o ynni. Felly, ystyrir LoRaWAN yn ffordd benodol i synwyryddion syml, wedi’u pweru gan fatris, siarad â’r rhyngrwyd dros ardaloedd eang heb ddibynnu ar rwydweithiau cellog na Wi-Fi. Mae LoRaWAN, felly, yn dod yn fwyfwy poblogaidd ym maes amaethyddiaeth a ffermio. Yn ei dro, nod y prosiect yw adeiladu ar y rhwydwaith mynediad agored presennol sydd wedi’i ddatblygu gan gynghorau yng ngogledd Cymru i gynyddu hygyrchedd LoRaWAN i’r sector amaethyddol ehangach.   

 

I wybod mwy am y 16 fferm, cliciwch yma.