
Mentera yn lansio Cyfle+ i gefnogi llwybrau newydd i gyflogaeth yng Nghymru
Mae Mentera wedi lansio Cyfle+, rhaglen profiad gwaith â thâl newydd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi pobl sydd wedi wynebu rhwystrau i gyflogaeth i gymryd camau hyderus tuag at waith.
Mae’r cynllun yn cynnig 200 awr o brofiad gwaith â thâl, ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth fentora strwythuredig, gan ganolbwyntio ar botensial unigolion yn hytrach na phrofiad blaenorol neu CV perffaith.
Mae pob cyfnod Cyfle+ yn cynnig hyd at bum cyfle profiad gwaith â thâl, gan alluogi cefnogaeth bersonol a mentora ystyrlon i bob cyfranogwr.
Mae Cyfle+ wedi’i hanelu’n benodol at: bobl ifanc 20–24 oed nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant; pobl dros 50 oed; pobl anabl; cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig; menywod (yn enwedig rhieni sengl); gofalwyr; a phobl sydd heb fod mewn gwaith rheolaidd yn ddiweddar.

Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau (Gwledig) yn Mentera:
“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl â’r sgiliau, yr ymrwymiad a’r awydd i weithio, ond nad yw’r system draddodiadol bob amser yn gweithio iddyn nhw. Mae Cyfle+ yn ymwneud â rhoi cefnogaeth wirioneddol, profiad ymarferol a hyblygrwydd i bobl fel y gallant symud ymlaen gyda hyder.”
Bydd cyfranogwyr Cyfle+ yn cael:
- profiad gwaith ystyrlon ar draws gwahanol dimau o fewn Cyswllt Ffermio
- mentor hyfforddedig gyda chyfarfodydd rheolaidd,
- hyfforddiant ar sgiliau cyflogadwyedd fel CV a chyfweliadau,
- a chyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae Mentera hefyd yn cynnig trefniadau gwaith hyblyg ac yn sicrhau bod y broses ymgeisio a chyfweld yn hygyrch, gan gynnwys opsiynau ymgeisio amgen a chyfweliadau hyblyg.

Dywedodd Carys Evans, cyfranogwr a gwblhaodd y cynllun yn y gorffennol:
Roedd y cyfleoedd a gefais wrth fod yn rhan o Cyfle yn amhrisiadwy. Yn sicr, roedd y profiadau wedi fy helpu i benderfynu fy mod am weithio o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â ffermydd ar hyd a lled Cymru yn gwneud gwaith ymarferol. Yn ogystal, roedd cael y profiad o fod yn rhan o dîm gweithgar yn un cadarnhaol, fe wnes i fwynhau pob eiliad.