Adeiladu Mentera cryfach i Gymru gyfan
Gan Llŷr Roberts, Prif Weithredwr
Ym Mentera, rydyn ni wedi bod yn gyrru llwyddiant busnesau Cymru ers dros 35 mlynedd. Fel Menter a Busnes gynt, mae ein hesblygiad i Mentera yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i rymuso busnesau Cymru nid yn unig i ffynnu’n lleol, ond hefyd i fentro a chyrraedd safonau rhyngwladol.
Rydyn ni’n credu ym mhotensial aruthrol ysbryd entrepreneuraidd Cymru. Fel cwmni nid-er-elw, ein cenhadaeth yw meithrin economi lewyrchus yng Nghymru drwy roi cyngor a chymorth o’r radd flaenaf i fusnesau ledled y wlad.
Mae hon yn adeg hollbwysig i Mentera. Mae tirwedd fusnes Cymru yn esblygu’n barhaus, ac mae angen Bwrdd arnon ni sy’n adlewyrchu’r ddeinameg hon. Rydyn ni am benodi hyd at dri chyfarwyddwr anweithredol newydd i gryfhau ein harweinyddiaeth a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu rhaglenni effeithiol sy’n diwallu anghenion newidiol busnesau Cymru.
Adeiladu Bwrdd amrywiol ac arbenigol ar gyfer y dyfodol
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn denu unigolion sydd â dealltwriaeth ddofn o’r prif sectorau sy’n llywio twf economaidd Cymru:
- Technolegau Digidol: Mae'r chwyldro digidol yn trawsnewid pob agwedd ar fusnes ac rydyn ni’n chwilio am arbenigedd mewn meysydd fel seiberddiogelwch, dadansoddi data, a deallusrwydd artiffisial.
- Bwyd a Diod: Mae gan Gymru sector bwyd a diod ffyniannus, sy’n enwog am ei safon a’i arloesedd. Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd â phrofiad yn y sector hwn, gan gynnwys cynhyrchu, marchnata, a rheoli cadwyn gyflenwi.
- Twristiaeth: Fel cenedl o harddwch naturiol syfrdanol, mae twristiaeth yn chwarae rhan fawr yn economi Cymru. Rydyn ni’n awyddus i groesawu unigolion sydd ag arbenigedd mewn lletygarwch, hamdden, a phrofiad yr ymwelydd.
- Cyllid: Mae mynediad at gyllid yn hollbwysig i dwf busnes ac rydyn ni’n chwilio am arbenigedd mewn meysydd fel buddsoddi, cyllid, a chynllunio ariannol.
- Arloesedd: Mae meithrin diwylliant o arloesi yn hanfodol i lwyddiant hirdymor busnesau Cymru. Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd â phrofiad mewn ymchwil a datblygu, trosglwyddo technoleg, a masnacheiddio syniadau newydd.
Ond rydyn ni hefyd yn chwilio am fwy na dim ond arbenigedd sy’n ymwneud â sector. Rydyn ni am wella amrywiaeth ein Bwrdd, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu ac yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru yn well. Rydyn ni hefyd am gynyddu cynrychiolaeth o ogledd Cymru. Bydd Bwrdd amrywiol, a chanddo amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau, yn dod â safbwyntiau newydd ac yn cryfhau ein gallu i ddarparu rhaglenni cymorth effeithiol ar gyfer holl fusnesau Cymru.
Rhyddhau ysbryd entrepreneuraidd Cymru gyda'n gilydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â sefydliad uchel ei barch sydd â hanes hir o lwyddiant. Os ydych chi’n angerddol am gefnogi busnesau Cymru ac yn rhannu ein gweledigaeth o economi ffyniannus i Gymru wedi’i gyrru gan fusnesau o safon ryngwladol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais. Gall eich sgiliau a’ch profiad fod yn allweddol wrth lunio dyfodol Mentera a grymuso’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd cyffrous hyn ac i wneud cais, cliciwch yma.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn canol dydd, 7 Chwefror 2025.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Llŷr Roberts
Prif Weithredwr Mentera