Manylion
Sioe Frenhinol Cymru 2025: Ymrwymiad Mentera i Economi Wledig Ffyniannus

Sioe Frenhinol Cymru 2025: Ymrwymiad Mentera i Economi Wledig Ffyniannus

By gwenan

Heddiw, cyhoeddodd Mentera ei raglen amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau yn Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir rhwng 21 a 24 Gorffennaf 2025 yn Llanelwedd. Gyda 35 mlynedd o brofiad yn cefnogi entrepreneuriaid a busnesau ledled Cymru a thu hwnt, bydd Mentera yn dathlu ei amrywiaeth o wasanaethau sy’n ceisio meithrin economi lewyrchus i Gymru. Cred … Continued

Mentera yn Dathlu Codi £17,500 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru Dros Ddwy Flynedd o Godi Arian Ymroddedig

By gwenan

Mae Mentera, sefydliad blaenllaw sy’n cynnig gwasanaethau cymorth busnes a datblygu busnesau, yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi codi £17,500 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru dros ddwy flynedd o godi arian ymroddedig. Mae’r cyflawniad arwyddocaol hwn yn atgyfnerthu ymrwymiad diysgog Mentera i gefnogi ymchwil hanfodol i ganser yng Nghymru. Mae Ymchwil Canser Cymru … Continued

Dau Gyfarwyddwr Anweithredol Newydd i Gryfhau Bwrdd Mentera

By gwenan

Heddiw, fe gyhoeddodd Mentera (Menter a Busnes cynt), y cwmni nid-er-elw sy’n cefnogi a galluogi busnesau Cymru ers 35 mlynedd, ei fod wedi penodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd. Bydd cael Owen Davies ac Emily Rees ar y Bwrdd yn cryfhau ymhellach arweinyddiaeth Mentera. Daw hefyd â chyfoeth o brofiad amrywiol i’r cwmni wrth … Continued

Mentera yn Arwain Consortiwm gan Sicrhau £2 Filiwn i Hybu Brwydr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru

By gwenan

Mae Mentera, prif gwmni datblygu economaidd annibynnol Cymru, yn falch o gyhoeddi ei gais llwyddiannus i barhau i arwain buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £2 filiwn i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ym maes iechyd anifeiliaid a’r amgylchedd. Bydd y cyllid sylweddol hwn yn cefnogi cam nesaf rhaglen Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol), gan … Continued

Galw am ffermwyr i gyfrannu at y broses o gyflawni sero net

By gwenan

Mae angen ffermwyr defaid ac eidion masnachol o Gymru i gymryd rhan mewn prosiect sy’n ceisio datblygu strategaethau bridio a fydd yn lleihau nwyon tŷ gwydr. Nod y prosiect ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff’ yw helpu cynhyrchwyr cig coch y DU i wneud gwell penderfyniadau bridio sydd hefyd yn ymarferol a … Continued