Manylion
Blog Alex: Meithrin Llwyddiant: Sut mae Cywain yn Ffurfio Dyfodol Bwyd a Diod Cymru

Blog Alex: Meithrin Llwyddiant: Sut mae Cywain yn Ffurfio Dyfodol Bwyd a Diod Cymru

Mae enw da Cymru am gynhyrchu bwyd a diod o’r radd flaenaf bellach yn cael ei gydnabod yn eang ac mae’r sector yn werth swm syfrdanol i economi Cymru. Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod GYG sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru dros £1.7bn. Ond dim ond y dechrau yw hyn, ac mae gan Gymru lawer mwy i’w gynnig.

Mae Cywain wedi bod yn rym allweddol wrth alluogi busnesau i oroesi a ffynnu yn y dirwedd ddeinamig hon – tirwedd a gaiff ei nodweddu gan bwysau economaidd amrywiol, pwysigrwydd cynyddol cynaliadwyedd, a’r angen i fusnesau addasu i reoliadau sy’n newid a gwerthoedd defnyddwyr sy’n esblygu. Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cywain, ac rydyn ni’n cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod micro, bach a chanolig yng Nghymru i dyfu eu busnesau drwy gynnig cymorth wedi’i dargedu drwy ein tîm ledled Cymru. Mae ein Rheolwyr Twf Rhanbarthol yn gweithio gyda busnesau i ddeall eu huchelgeisiau, i asesu eu hanghenion, ac i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gyda nhw a’u helpu i ddatgloi eu potensial am dwf.

Ond er mwyn parhau i wthio’r sector yn ei flaen, ac i gael effaith ym marchnadoedd bwyd a diod Cymru, mae Cywain yn ceisio’n gyson i adnabod a chefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod addawol a sicrhau piblinell o fusnesau sy’n tyfu a sêr newydd y dyfodol!

Felly sut rydyn ni’n gwneud hyn?

Yn gyntaf oll, mae ein staff yn selogion bwyd go iawn ac yn angerddol am gefnogi busnesau bach a chanolig a thyfu’r economi wledig yng Nghymru. Mae llawer o’r tîm yn dod o gefndiroedd amaethyddol, ac mae gan bob un ohonyn nhw brofiad helaeth o weithio yn y sector bwyd. Felly, os oes egin fragwr neu bobydd newydd cyffrous yn gwneud ei farc, yna mae’r tîm wrth law i weld lle gallwn gynnig cefnogaeth a helpu i yrru ei syniadau busnes tuag at lwyddiant. Ac mae gan y tîm ei fys ar y pwls, gan weithio’n agos iawn gyda rhaglenni cymorth eraill, ynghyd â’r Llywodraeth a sefydliadau academaidd, i sicrhau bod busnesau’n gallu manteisio ar yr holl gymorth sydd yna iddyn nhw.

Unwaith mae’r cyswllt wedi’i wneud, mae’n bwysig mesur ble mae’r busnes arni a byddwn yn cael cipolwg ar berfformiad a sefyllfa gyfredol y busnes, fel bod modd asesu ei anghenion. Ar y pwynt hwn, bydd ein Rheolwyr Twf yn creu cynllun datblygu pwrpasol ar gyfer y busnes hwnnw. A lle bo’n berthnasol, bydd hefyd yn cynnig rhywfaint o waith wedi’i dargedu fel mentora a hyfforddiant arbenigol personol gan ein staff. Ond mae cymaint o gymorth ar fwydlen Cywain. Gall busnes fanteisio ar y cymorth hwnnw gymaint neu gyn lleied ag y maen nhw’n dymuno, gan wybod bod yna bob amser rywun ar ben arall y ffôn i helpu.

 

Mae Fungi Foods yn un enghraifft ddiweddar. Fe wnaeth y cwmni droi at raglen Cywain am gymorth gyda’r gwaith brandio...

“Weithiau, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw help i’ch cael chi dros y llinell, a dyna beth wnaeth yr help gyda’r brandio i Fungi Foods.” Gareth Griffith-Swain, sylfaenydd Fungi Foods.

 

A beth sy’n gyrru llwyddiant ymhlith cynhyrchwyr bwyd a diod?

Mae angerdd yn allweddol a’r grym hwnnw sy’n gyrru’r rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr llwyddiannus rydyn ni’n gweithio â nhw. Y busnesau sy’n llwyddo bron bob amser yw’r rhai sydd wrth eu bodd yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud. Dyma’r hyn sy’n eu cadw i symud ymlaen, gan fod yna gymaint o heriau a rhwystrau yn ffordd unrhyw berchennog busnes, yn enwedig y rhai sy’n rhedeg busnes bwyd neu ddiod. Ond yr angerdd hwn yw’r rheswm pam mae Cymru yn cynhyrchu cynnyrch mor wych – pobl angerddol sydd â chariad at greu cynnyrch da. Ac mae gan ein staff yr un egni; maen nhw hefyd yr un mor ymroddedig i helpu pobl, busnesau a chymunedau i lwyddo.

Ochr yn ochr â hyn, credwn yn gryf mewn rhoi sylfeini cadarn i fusnesau – sylfeini y gall brandiau cryf a busnesau cynaliadwy adeiladu a ffynnu arnyn nhw.

Er mwyn adeiladu busnes a allai ehangu’n gyflym o’r dechrau’n deg, mae ein hymagwedd yn canolbwyntio ar sefydlu arferion sylfaenol cadarn. Mae hyn yn cynnwys:

  • Datblygu arferion ‘dringadwy’ ar gyfer twf hyblyg;
  • Datblygu dealltwriaeth dda o bwysigrwydd marchnata strategol;
  • Sicrhau llythrennedd masnachol ac ariannol o’r dechrau’n deg, gan gynnwys rhagolygon llif arian a dealltwriaeth drylwyr o gostau ac elw’r busnes.

Gyda’r hanfodion hyn ochr yn ochr â’n harbenigedd, caiff busnesau sylfeini cadarn i gyflawni eu huchelgeisiau o ran twf.

Sut rydyn ni’n mesur ein heffaith ar dirwedd BBaCh Cymru?

Mae Cywain wedi cefnogi dros 1,400 o fusnesau ers 2018, gan eu helpu i dyfu. Rydyn ni wedi creu dros 1,100 o farchnadoedd newydd, gan gynhyrchu dros £1.3 miliwn mewn gwerth yn 2024 yn unig.

Y mis hwn, fe aethon ni â 22 o fusnesau i Sioe Siop Fferm a Deli fel rhan o bafiliwn Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru. Un o brif sioeau masnach y DU yw’r Sioe Siop Fferm a Deli, ac mae’n gyfle gwych i gynhyrchwyr fasnachu. Mae’n rhoi llwyfan iddyn nhw gwrdd â phrynwyr a sicrhau rhestriadau ledled y DU, gan gynhyrchu masnach am fisoedd a blynyddoedd i ddod.

Fe gafodd y cynhyrchwyr eu cefnogi gan ein tîm gwybodus a phrofiadol gyda’r paratoadau cyn y sioe. Fe gawson nhw awgrymiadau ar hyrwyddo; syniadau am sut i gyflwyno eu cynhyrchion; sut i adnabod arweinwyr allweddol; sut i gael sgyrsiau ystyrlon gyda phrynwyr; a’r holl gyfathrebu pwysig ar ôl y sioe i droi’r cysylltiadau masnach newydd hynny yn rhestriadau.

Beth nesaf i ni yn rhaglen Cywain?

Byddwn yn parhau i ffurfio dyfodol y diwydiant, gan chwarae rhan hanfodol yn natblygiad Cymru yn y sector bwyd a diod. Gyda chynlluniau cyffrous ar y gorwel, rydyn ni’n barod i wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth: arddangos busnesau newydd, arloesol yn neuadd fwyd enwog y Sioe Frenhinol, gan gyrraedd defnyddwyr a marchnadoedd masnach pwysig. Yn ogystal â hyn, byddwn yn dathlu ein Sêr Newydd yn nigwyddiad Blas Cymru yng Nghasnewydd – cyfle gwych i gysylltu â phrynwyr allweddol. Bydd ein tîm profiadol o Reolwyr Twf yn parhau i fod yn gatalyddion ar gyfer twf busnes, gan adeiladu mentrau cryf a gwydn sy’n gosod Bwyd a Diod Cymru yn gadarn ar y llwyfan fyd-eang.

 

Explore our latest posts‘Cyfle’ – Interniaeth Mentera: Cyfle i gychwyn eich gyrfa ym myd amaethyddiaeth. Mentera yn Arwain Consortiwm gan Sicrhau £2 Filiwn i Hybu Brwydr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru Blog – Pontio’r Cenhedlaethau: Cynllunio dyfodol eich fferm
Explore our latest posts‘Cyfle’ – Interniaeth Mentera: Cyfle i gychwyn eich gyrfa ym myd amaethyddiaeth. Mentera yn Arwain Consortiwm gan Sicrhau £2 Filiwn i Hybu Brwydr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru Blog – Pontio’r Cenhedlaethau: Cynllunio dyfodol eich fferm