
Blog Llio: Fy mhrofiad i fel intern Cyswllt Ffermio
Fy mhrofiad i fel intern Cyswllt Ffermio
Helo! Llio Davies ydw i—merch ffarm o Lannefydd yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd, rwy’n astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn ystod yr haf cefais gyfle arbennig i weithio fel intern gyda Cyswllt Ffermio drwy Mentera.
Y Cyfle
Gwelais yr hysbyseb ar gyfryngau cymdeithasol, a chefais fy nenu ar unwaith. Roedd y broses ymgeisio yn heriol—o lenwi’r ffurflen gais i’r cyfweliad ei hun—ond cefais gefnogaeth wych drwy’r broses, ac roedd y cyfweliad yn brofiad gwerthfawr ynddo’i hun. Roeddwn yn hynod falch o gael fy newis, ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle.
Profiad Gwaith Amhrisiadwy
Roeddwn yn gobeithio cael profiad ymarferol o weithio gyda thîm gweithgar, ac yn wir, cefais gyfle i ddysgu am brosiectau amrywiol a’r gwaith caled sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. Bu’r wythnosau’n amrywiol—o fynychu cyfarfodydd tîm, casglu data, cynorthwyo mewn digwyddiadau, i helpu cwmni Innovis a mynd i Sioe Dinbych a Fflint. Yn ogystal, cefais gyfle i helpu adrannau gwahanol o fewn Cyswllt Ffermio, gan gynnwys yr Adran Gynghori, lle cefais gyfraniad i gynlluniau busnes. Mae cymaint o waith amrywiol yn digwydd i roi’r gefnogaeth orau i ni fel ffermwyr. Roedd pob wythnos yn wahanol, ac roedd hynny’n un o’r agweddau mwyaf pleserus.
Yr Hyn a Ddysgais
Dysgais llawer yn ystod fy nghyfnod o weithio. Cyn yr interniaeth, doedd fy ngwybodaeth am ddefaid ddim yn fanwl, ond bellach rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu’n aruthrol. Dysgais am bwysigrwydd porfa, pwysau byw dyddiol, a thriniaethau wedi’u targedu yn seiliedig ar ganlyniadau FEC—ymarferion hynod werthfawr. Roedd y cyfarfod post-mortem yn agoriad llygad go iawn, gan ddangos sut mae deall achosion marwolaeth yn hanfodol i reoli’r ddiadell yn effeithiol.
Cefais hefyd fy nghyflwyno i dechnolegau newydd fel AgriNet, sy’n galluogi ffermwyr i gadw cofnodion unigol ar bob anifail. Mae hyn yn helpu i adnabod problemau’n gynnar ac yn cyfrannu at greu diadell fwy effeithlon yn y tymor hir—nod craidd Cyswllt Ffermio.
Sgiliau Personol a Phroffesiynol
Datblygais nifer o sgiliau personol hefyd yn ystod fy nghyfnod gyda Cyswllt Ffermio a cyfarfod nifer o bobl profiadol iawn. Wrth fynd i gyfarfodydd, dysgais am flaenoriaethau tîm, pwysigrwydd cyfathrebu, cydweithio, a datrys problemau. Cefais gyfle hefyd i helpu gyda digwyddiadau Ein Ffermydd drwy ffonio ffermwyr a chynorthwyo ar gyfer y diwrnod mawr. Roedd y profiad yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a dealltwriaeth ddyfnach o’r diwydiant amaethyddol.
Argymhelliad a Diolch
Byddwn yn argymell y cyfle hwn yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn amaeth. Mae’n ffordd wych o ddatblygu’n bersonol a phroffesiynol, ac o ddarganfod pa feysydd sy’n tanio dy frwdfrydedd ar gyfer agor drysau i’r dyfodol. Mae gweithio gyda thîm gweithgar a phrofiadol wedi bod yn brofiad cadarnhaol a hwylus iawn, ac rwy’n ddiolchgar iawn am bob cyfle a chefnogaeth a gefais.
Diolch o galon i’r tîm am bopeth—rwyf wedi mwynhau pob eiliad. Rydyn ni fel ffermwyr yn lwcus iawn i gael cefnogaeth mor werthfawr a llewyrchus.
Os bydd y cyfle’n codi i wneud cais am interniaeth gyda Cyswllt Ffermio, ewch amdani - mae’r cyfle yma yn un i’w fanteisio arno!