Manylion
Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.

Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.

Taith i Wlad y Basg: Dysgu o brofiadau eraill

Cyfle. Cyfle i elwa o brofiad ymarferol strategaethau a phrosiectau sydd ar waith. Cyfle i greu cysylltiadau er mwyn cydweithio ymhellach mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin rhwng y ddwy wlad. A chyfle i gael mewnwelediad a datblygu dealltwriaeth o statws yr iaith Fasgeg yng nghyd-destun arloesedd ac entrepreneuriaeth. Roedd hon yn daith ymchwil i griw o ddeg o unigolion a gefnogwyd gan raglen ARFOR. A’r pwrpas? I ymweld â sefydliadau, asiantaethau, cynghorau a busnesau sy’n gweithredu ym maes iaith ac economi. Roedd hefyd yn daith i ddysgu a chael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd ym maes ieithoedd lleiafrifol mewn gwlad arall ynghyd â deall y cysylltiad rhwng yr iaith a’r economi mewn gwlad wahanol.

Ysbrydoliaeth gan Euskal Jaiak: Dathlu diwylliant Basgaidd

Ymweliad cyntaf y daith oedd gŵyl Euskal Jaiak yn nhref Zarautz. Dyma ŵyl sy’n dod â’r goreuon o ran diwylliant, chwaraeon, y celfyddydau, llên gwerin a thraddodiadau Basgaidd at ei gilydd. Môr o Fasgwyr i gyd wedi’u haddurno yn eu gwisgoedd traddodiadol yn dathlu. Ac awyrgylch hudolus yn gorchuddio strydoedd tref Zarautz. Braf oedd gweld pobl o bob oed yn eu gwisgoedd traddodiadol; babis a phlant ifanc, pobl ifanc a’r henoed i gyd wedi’u haddurno o’u corun i’w sawdl! Roedd hi’n Ŵyl y Banc i drigolion y dref, gyda busnesau ac ysgolion ynghau er mwyn i bawb gael manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y dawnsio traddodiadol, y bwyta a’r yfed! Tybed a fyddai hyn i’w weld ar hyd strydoedd trefi yng Nghymru? Gallech gymharu’r ŵyl â’n heisteddfodau rhanbarthol ni – er, roedd hon ar raddfa fwy o lawer ac yn teimlo’n llawer mwy cynhwysol. Braint oedd cael blas o’r dathlu a chyfle i fwynhau cyffro’r ŵyl cyn cyfarfod â gweddill criw ARFOR yn ôl yn Donostia.

Arloesi ac Iaith: Ymweld â Tabakalera

Fe dreulion ni gryn dipyn o amser yn cyfarfod ag amryw o sefydliadau, gan gynnwys Olatukoop a Bada Lab yn Tabakalera, hen ffatri sigaréts ar lan yr afon yn Donostia. Erbyn heddiw, mae’n ganolfan menter ac arloesi ym maes y diwydiannau creadigol ac yn gartref i lawer o gydweithfeydd, sefydliadau a busnesau. Roedd cysylltiad amlwg rhwng Cronfa Her ARFOR a gwaith Olatokoop lle gwelir cydweithfeydd yn dod at ei gilydd i adnabod her, a chreu cynlluniau peilot i’w datrys ar y cyd.

 

Cysylltu â'r Gymuned: Profiadau yn Andoain

Yn nhref Andoain, fe ymwelon ni â Pharc Busnes Martin Ugalde lle mae dros 20 o fusnesau. Asiantaethau a sefydliadau yw’r rhain sy’n arbenigo mewn iaith a’r economi – Berria (y papur newydd Basgeg lleol), Soziolinguistika Klusterra, Emun a Kontseilua, sef cymdeithas llywodraeth leol ardaloedd Basgeg.

 

Heriau a Chyfleoedd: Cymharu Cymru â Gwlad y Basg

Cafwyd trafodaethau gwerthfawr a dwys gyda Soziolinguistika Klusterra, sef clwstwr sosioieithyddol sy’n gweithio gyda phrifysgolion, gweithleoedd, mentrau, busnesau, ysgolion, asiantaethau eraill a llywodraethau lleol a rhanbarthol Gwlad y Basg ar brosiectau i gryfhau’r iaith Fasgeg. Mae’r clwstwr yn rhedeg 20–30 o gynlluniau yn y maes. Roedd rhannu enghreifftiau o gynlluniau ac ystyried y tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng cynlluniau iaith Cymru a Gwlad y Basg yn brofiad gwerthfawr.

Mae heriau amlwg a thebyg yn bodoli yn y ddwy iaith. Mae’r daith wedi ein galluogi i ymchwilio’n ddyfnach i’r modd y mae’r ddwy wlad yn ymateb i’r heriau hynny. Mae’r defnydd o fentrau cymdeithasol yng Ngwlad y Basg yn amlwg ac maen nhw’n sicr ar flaen y gad. Dyma wersi gwerthfawr wrth i ni yng Nghymru ddatblygu strategaethau i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg. Roedd ymweliadau â sefydliadau fel UEMA, Kontseilua (cyngor iaith Basgeg), Prifysgol Mondragon yn Bilbao a Chyngor Tref a Maer Hernani, Xabier Lertxundi, yn brawf o hyn.

Fe wnaethon ni glywed am lawer o enghreifftiau o ofodau Basgeg yn ffynnu yng Ngwlad y Basg gan Kike Amonarriz. Mae Kike yn gyflwynydd teledu sydd wedi creu rhaglen ddogfen ac arwain ar nifer fawr o fentrau sy’n hybu ac adfywio’r iaith a gofodau Basgeg. Yn y gofodau hyn, gwelir dwysedd uchel o siaradwyr Basgeg sydd, yn ei dro, yn arwain at gryfhau hunaniaeth y cymunedau hynny. Yn amlwg, roedd cael deall mwy am y cymunedau hyn yn werthfawr wrth ystyried mai cryfhau hunaniaeth cymunedau Cymraeg yw un o brif amcanion rhaglen ARFOR.

Mae ardal Tolosa yn enghraifft amlwg o’r ymdrechion i adfywio’r iaith yn y blynyddoedd diwethaf.  Trwy dreialu dull a methodoleg arloesol yr ‘arolwg stryd’, lle cesglir ymchwil ar nifer y siaradwyr Basgeg yn glywedol, dangoswyd mai’r Fasgeg oedd yr iaith fwyafrifol yn glywedol yn 2021. Mae’n fethodoleg sy’n cael ei ddefnyddio’n flynyddol ac yn wirfoddol. Mae’n ddull effeithiol a rhad sy’n arwain at godi proffil yr iaith Fasgeg a’r ymwybyddiaeth ohoni.

Dwedwyd mai’r tri phrif beth sydd wedi arwain at lwyddiant cynnydd yr iaith yn yr ardal yw:

  1. Datblygiad yn y system addysg;
  2. Cymdeithasau sydd o blaid yr iaith;
  3. Cyngor y dref – ac yn benodol yr hyn mae’n ei wneud i hybu’r iaith.

Mae’r technegau hyn wedi bod yn llwyddiant ac wedi sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Basgeg yn Tolosa – er, dyw hyn ddim wedi’i brofi i’r un graddau mewn ardaloedd eraill. Mae ffactorau allanol megis lleoliad daearyddol Tolosa wedi cyfrannu at y llwyddiant. Mae’r ysgolion wedi’u profi i fod yn ganolog i’r adfywiad yn ogystal â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau.  Gwelwyd mewnbwn a chefnogaeth gref gan y Cyngor Lleol a Neuadd y Dref wrth sicrhau bod pob gwasanaeth a gynigir i bobl ifanc yn trosi i fod yn fwy Basgeg o flwyddyn i flwyddyn. Penderfynwyd hefyd i drosi iaith yr ŵyl fwyaf yng Ngwlad y Basg i blant a phobl ifanc yn Fasgeg yn hytrach na Sbaeneg. Mae tebygrwydd amlwg yma gyda gwyliau Cymreig yng Nghymru; Yr Eisteddfod, Y Sioe Frenhinol, Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl ayyb.

O safbwynt cynlluniau grant yng Ngwlad y Basg, mae canllawiau llym ac amodau ieithyddol mewn lle sy’n sicrhau bod cynlluniau’n cyfrannu at yr iaith ac yn ymrwymo i’r iaith Fasgeg. Mae’r rhain hefyd yn cael eu hystyried fesul ardal i sicrhau ystyriaeth i’r rhanbarth. Eto, gwelwyd tebygrwydd amlwg yma gyda chynlluniau grant ARFOR, sef Cymunedau Mentrus a’r Gronfa Her, lle mae pwyslais ar gryfhau’r cysylltiad rhwng yr Economi a’r Gymraeg.

 

Adeiladu Partneriaethau: Y Dyfodol

Mae ymweld â gwlad arall a dod i ddeall a dysgu sut mae’r wlad honno yn gweithredu ym maes iaith ac economi yn ein gorfodi i herio ein ffordd o feddwl ac i ailystyried ein sefyllfa ni yng Nghymru.  Mae’n rhoi’r cyfle i adeiladu ar bartneriaethau a chreu cysylltiadau o’r newydd. Mae’n ffordd effeithiol o gyfnewid syniadau a phrofiadau, yn enwedig wrth i ni hefyd ddod o wlad sy’n siarad iaith leiafrifol. Gyda hyn, daw sylfaen gadarn i fod yn agored i ddysgu a rhannu syniadau.

Felly, beth mae taith o’r fath yn ei olygu o safbwynt rhaglen ARFOR a’r dyfodol? Mae’r elfen o rannu dysg a chanfyddiadau yn allweddol i raglen ARFOR ac mae’r gwersi a ddysgwyd yn fodd o lywio dyfodol y rhaglen. Yn sgil y daith, mae cynlluniau bellach ar y gweill i wahodd unigolion o amryw sefydliadau i ymuno â ni yma yng Nghymru. Mae creu cysylltiadau cryf yn y maes a’r gallu i ddysgu a rhannu gwersi gan arbenigwyr o wledydd gwahanol yn ffordd werthfawr o sicrhau traweffaith a chynaliadwyedd rhaglenni.

 

Cliciwch yma i wylio fideo sy'n crynhoi'r daith.

[caption id="attachment_5316" align="aligncenter" width="1024"] UEMA – cymdeithas llywodraeth leol ar gyfer ardaloedd lle mae canran uchel o siaradwyr Basgeg.[/caption]

 

Explore our latest postsBlog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024 Bragwyr Cymreig wedi’u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â’u bragdai i’r lefel nesaf Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf
Explore our latest postsBlog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024 Bragwyr Cymreig wedi’u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â’u bragdai i’r lefel nesaf Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf