Manylion

Cadeirydd newydd y Bwrdd

Cyfle arweinyddiaeth uwch i helpu i siapio dyfodol economi Cymru

Mae Mentera yn recriwtio Cadeirydd Anweithredol newydd i arwain y Bwrdd drwy bennod nesaf datblygiad y sefydliad, wrth i gyfnod y Cadeirydd presennol ddod i ben. Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth arwyddocaol i ddarparu arweiniad strategol a goruchwyliaeth annibynnol ar adeg hynod gyffrous i Mentera.

Cyfnod ymgeisio ar agor nawr.

Am Mentera

Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn cefnogi busnesau a chymunedau ledled Cymru i fentro a ffynnu, yn lleol ac yn fyd-eang.

Gyda throsiant blynyddol o tua £20 miliwn, mae Mentera yn cyflawni ystod o raglenni cymorth busnes sylweddol ar ran Llywodraeth Cymru ac eraill, ochr yn ochr â phortffolio cynyddol o wasanaethau masnachol.

Yn 2025, lansiodd Mentera enw a brand newydd, ynghyd â strategaeth uchelgeisiol hyd at 2030. Ein gweledigaeth yw economi lewyrchus i Gymru sy’n cael ei gyrru gan symudiad o fusnesau ffyniannus sy’n sefyll yn hyderus ochr yn ochr â’r gorau yn y byd.

Fel Menter a Busnes gynt, mae gan Mentera dros 35 mlynedd o brofiad, dros 160 o staff ledled Cymru, a hanes cryf o ddarparu gwasanaethau o safon uchel yn ddwyieithog.

Rôl y Cadeirydd

Mae Cadeirydd Mentera yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y sefydliad, gan arwain Bwrdd deinamig a phrofiadol o Gyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol.
person-presenting.svg
Arweinyddiaeth

Darparu arweinyddiaeth strategol i’r Bwrdd

person-laptop.svg
Llywodraethiant

Sicrhau safonau uchel o lywodraethu ac atebolrwydd

people-desk-2.svg
Gwaith tîm

Gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr a’r Tîm Arweinyddiaeth

Ffeithiau Allweddol

 

Ffeithiau Allweddol

 

  • Penodiad gwirfoddol (gyda chostau teithio a chynhaliaeth yn cael eu talu)
  • Tua pedwar cyfarfod Bwrdd y flwyddyn
  • Cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol ac wyneb yn wyneb ledled Cymru
  • Tymor cychwynnol o dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail dymor

Pam ystyried y rôl hon?

 

Pam ystyried y rôl hon?

 

  • Cyfle i arwain sefydliad sefydledig a dylanwadol ar adeg allweddol
  • Effaith strategol wirioneddol ar fusnesau, cymunedau ac economi Cymru
  • Gweithio gyda Bwrdd ymrwymedig a thîm gweithredol profiadol
  • Rôl sy’n cyfuno pwrpas, dylanwad ac arweinyddiaeth

Sut i ymgeisio?

Mae ceisiadau ar gyfer rôl Cadeirydd Mentera ar agor nawr.
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn ymgeiswyr, sy’n cynnwys:
  • manylion llawn y rôl a’r cyfrifoldebau
  • y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen
  • gwybodaeth am y broses ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw:

17 Ebrill

 

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 4 Mai.
I drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: llyr.roberts@mentera.cymru

Lawrlwytho pecyn ymgeiswyr

Pecyn Ymgeiswyr