
Mentera yn Chwilio am Gyfarwyddwr Anweithredol Iau Newydd: Eich Cyfle i Ffurfio Dyfodol Cymru
Mae Mentera, y cwmni nid-er-elw blaenllaw sy’n cefnogi datblygiad economaidd, unwaith eto’n cynnig cyfle gwych i unigolyn ifanc uchelgeisiol ennill profiad ym maes llywodraethu trwy fod yn aelod o fwrdd y cwmni fel Cyfarwyddwr Anweithredol Iau. Dyma’ch cyfle chi i ddod â’ch llais i’r bwrdd ac, o bosibl, ffurfio’r dyfodol fel arweinydd.
Mae croeso i unigolion dan 30 oed ymgeisio, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â bwrdd Mentera, gan fynd ati i gyfrannu at gyfeiriad strategol a thwf y sefydliad. Mae’r fenter hon yn tanlinellu ymrwymiad Mentera i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes yng Nghymru ac adeiladu bwrdd sy’n adlewyrchu’r cymunedau amrywiol y mae’n eu gwasanaethu.
Mae gan Mentera 35 mlynedd o brofiad o gynnig cymorth teilwredig i fusnesau newydd a busnesau sy’n ehangu ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r busnesau hyn yn rhychwantu sectorau allweddol fel amaethyddiaeth, datblygu sgiliau, a bwyd a diod. Mae’r cwmni’n rheoli sawl rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys elfennau o Cyswllt Ffermio a Cywain.
Mae Bwrdd Mentera yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol profiadol o amrywiol gefndiroedd, megis y byd busnes, academaidd a mentrau cymdeithasol. Mae Mentera wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ei fwrdd ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir er mwyn sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn cael eu cynrychioli. Dywedodd Fflur Jones, Cadeirydd Bwrdd Mentera a Phartner Rheoli yn y cwmni cyfreithiol, Darwin Gray, yng Nghaerdydd:
“Mae Mentera wedi ymrwymo i feithrin arweinwyr y dyfodol. Rydyn ni’n cydnabod y gall ennill profiad ar lefel bwrdd fod yn rhwystr mawr, yn enwedig i weithwyr proffesiynol ifanc. Bwriad rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol Iau yw mynd i’r afael â hyn, gan gynnig tymor o ddwy flynedd lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad uniongyrchol o ffurfio dyfodol Mentera a chyfrannu at ffyniant Cymru.”
Mae deiliaid blaenorol rôl y Cyfarwyddwr Iau wedi tynnu sylw at effaith ddofn y profiad. Mae Elin Havard bellach wedi dod yn aelod llawn o fwrdd Mentera, a dywedodd:
“Bu’r profiad o fod ar Fwrdd Mentera dros y tair blynedd diwethaf yn hynod werthfawr a dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Byddwn i’n annog unrhyw un i wneud cais i fod yn rhan o gwmni gwirioneddol flaengar a chyffrous – chewch chi ddim cyfle tebyg i ddysgu a meithrin sgiliau wrth wneud cyfraniad cadarnhaol at les a ffyniant Cymru.”
Mae Erin Thomas, cyn-Gyfarwyddwr Anweithredol Iau arall, yn llawn clod am ei chyfnod ar y bwrdd hefyd:
“Mae bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Iau ar fwrdd Mentera wedi bod yn gyfle gwych i ddatblygu fy sgiliau proffesiynol, deall llywodraethu, a dysgu gan unigolion ysbrydoledig. Dwi bellach yn teimlo’n fwy hyderus i gyfrannu’n strategol a byddwn i’n annog unrhyw un sy’n angerddol am ddatblygu Cymru i ymgeisio am y cyfle.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Mentera, Llŷr Roberts:
“Rydyn ni’n awyddus i groesawu person ifanc newydd i’n bwrdd sydd â brwdfrydedd, yn chwaraewr tîm cryf, ac a fydd yn dod â safbwyntiau ffres i’n trafodaethau strategol. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ledled Cymru, gan adlewyrchu natur amrywiol y cymunedau a wasanaethwn. Mae hwn yn gyfle unigryw i rywun sy’n awyddus i wneud cyfraniad go iawn a datblygu ei yrfa ar lefel uwch.”
Ynghyd â’r Prif Weithredwr a’r tîm Rheoli Gweithredol, mae’r Bwrdd yn gyfrifol am osod strategaeth y cwmni a goruchwylio ei chyflawniad. Swyddi gwirfoddol fel cyfarwyddwyr anweithredol yw’r rhain, gyda’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae rhywfaint o sgiliau dwyieithog yn hanfodol gan fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth am rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol Iau a sut i wneud cais, cliciwch yma. Y dyddiad cau yw 25 Mehefin 2025.