Menter a Busnes yn datgelu brand a gweledigaeth newydd – i helpu busnesau Cymru i gyrraedd llwyfan fyd-eang.
Mae Menter a Busnes, sydd wedi bod yn cefnogi busnesau ac unigolion yng Nghymru i sefydlu a thyfu ers mwy na thri degawd, heddiw wedi datgelu ei frand a’i strategaeth newydd i helpu busnesau Cymru i gyrraedd llwyfan fyd-eang.
O dan enw newydd uchelgeisiol, datgelodd – Mentera – ei wedd a’i gynllun strategol newydd i bartneriaid allweddol, swyddogion y Llywodraeth ac arweinwyr diwydiant yng Ngwinllan Llanerch – enghraifft o fusnes yng Nghymru sydd wedi arallgyfeirio o dir fferm i ddod yn winllan a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Wrth i’r cwmni ddathlu ei ben-blwydd yn 35 oed, bydd Mentera (a elwid gynt yn Menter a Busnes) a’i 170 o staff sy’n gweithio ledled Cymru, yn parhau i ddarparu buddsoddiad a chefnogaeth ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth a bwyd a diod, drwy gyfrwng ei weledigaeth, ‘O’r Fro i’r Byd’.
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:
“Mae gan Gymru gyfoeth o dalent, arloesedd a chynnyrch unigryw sy’n haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol. Trwy ein hymagwedd newydd feiddgar, rydym wedi ymrwymo i drawsnewid mentrau lleol yn straeon llwyddiant ar y llwyfan ryngwladol. Rydym yn credu ym mhotensial a phŵer busnesau Cymru i gystadlu a ffynnu yn y farchnad fyd-eang. Mae’r ailfrandio hwn yn arwydd o’n hymroddiad diwyro i feithrin eu datblygiad a gwireddu’r weledigaeth hon – a hyn oll wrth gyfrannu at economi lewyrchus yng Nghymru heddiw, ac am genedlaethau i ddod.”
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Mentera, Fflur Jones:
“Ers sefydlu'r cwmni am y tro cyntaf ym 1989, rydym yn falch o fod wedi cefnogi miloedd o fusnesau ac wedi chwarae rhan bwysig yn hwyluso twf economaidd ledled Cymru. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein bod yn ehangu ein gweithrediadau trwy agor tair swyddfa newydd, o dan arweiniad ein Prif Weithredwr newydd ar y pryd. Fis diwethaf, fe wnaethom gryfhau ein Bwrdd gyda phedwar penodiad strategol newydd. A heddiw, rydym yn dathlu ein brand newydd, ac yn bwysicach fyth, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae Mentera a’i dîm o 170 o staff yn fwy uchelgeisiol nag erioed ac edrychwn ymlaen at barhau i rymuso arloesedd ledled Cymru am 35 mlynedd arall a mwy.”
Un busnes yng Nghymru sydd wedi elwa o gefnogaeth Mentera yw'r brand diodydd meddal, Radnor Hills, a dderbyniodd arian grant a chymorth datblygu sgiliau.
Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata’r cwmni, Chris Sanders:
“Mae cefnogaeth Mentera – yn arbennig y mentora a ddarperir trwy Raglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru – wedi helpu i sicrhau twf sylweddol. Yn dyst i arbenigedd a safon uchel y gefnogaeth a ddarperir trwy’r cynllun, mae ein hymgynghorydd wedi’i benodi’n ddiweddar yn Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.”