
Dau Gyfarwyddwr Anweithredol Newydd i Gryfhau Bwrdd Mentera
Heddiw, fe gyhoeddodd Mentera (Menter a Busnes cynt), y cwmni nid-er-elw sy’n cefnogi a galluogi busnesau Cymru ers 35 mlynedd, ei fod wedi penodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd. Bydd cael Owen Davies ac Emily Rees ar y Bwrdd yn cryfhau ymhellach arweinyddiaeth Mentera. Daw hefyd â chyfoeth o brofiad amrywiol i’r cwmni wrth iddo barhau â’i genhadaeth i rymuso busnesau Cymru i gyrraedd safon fyd-eang.
Mae Owen Davies, sy’n wreiddiol o Abertawe ond bellach yn byw yn Llundain, yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera. Owen yw sylfaenydd a Chadeirydd Enthuse Holdings Ltd, busnes blaenllaw sy’n arbenigo yn y cyfryngau ar gyfer defnyddwyr a busnesau (B2B) ac sy’n gweithredu yn y DU ac UDA. Mae’n entrepreneur ac yn arweinydd busnes uchel ei barch, ac yn 2019 fe gafodd ei enwi’n un o 50 entrepreneur gorau’r DU. Daw ei brofiad helaeth yn y maes corfforaethol o ddal swyddi yn Unilever plc, Bass plc, a DMGT plc. Mae Owen yn frwd dros gyfrannu at ecosystem fusnes Cymru ac mae’n awyddus i gefnogi cyfeiriad strategol Mentera.
Yn ôl Owen:
“A minnau wedi cael fy ngeni a’m haddysgu yng Nghymru, dwi’n awyddus iawn i gyfrannu at dwf a datblygiad busnesau Cymru. Mae ymroddiad Mentera i rymuso’r mentrau hyn yn apelio’n fawr ata i, a dwi’n awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad i gefnogi cyfeiriad strategol y cwmni.”
Mae Emily Rees yn byw yng Nghricieth ac mae wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers tair blynedd. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Swyddog Ariannol (CFO) Cyberfort Group Limited. Daw Emily â chryn dipyn o arbenigedd ym meysydd cyllid, adnoddau dynol, a llywodraethiant corfforaethol, a gafwyd trwy ei phrofiad o weithio i amrywiol sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys ECCO Shoes, Pizza Express, a Tesco. Yn fwyaf diweddar, hi oedd Prif Swyddog Ariannol Quartix Technologies plc, busnes sydd wedi’i restru ar AIM ers 3 blynedd ac sydd â’i bencadlys gweithredol yn y Drenewydd. Bydd set sgiliau amrywiol Emily yn ased gwerthfawr i Fwrdd Mentera.
Yn ôl Emily Rees:
“Ers symud i Gymru, dwi wedi cael fy ysbrydoli gan weledigaeth Mentera i greu newid cadarnhaol yng nghymunedau Cymru a’r dirwedd fusnes. Dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy arbenigedd ariannol ac ym maes llywodraethiant i gyfrannu at nodau uchelgeisiol y cwmni a chefnogi llwyddiant mentrau sy’n cael eu harwain gan bwrpas ledled Cymru.”
Llŷr Roberts, CEO of Mentera, commented on the appointments:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Owen ac Emily i Fwrdd Mentera. Bydd eu henw da a’u harbenigedd amrywiol yn amhrisiadwy wrth gyfoethogi ein meddwl strategol ac wrth iddyn nhw gynnig safbwyntiau ffres. Bydd ysbryd entrepreneuraidd Owen a’i ddealltwriaeth o’r amgylchedd busnes ehangach, ochr yn ochr ag arbenigedd ariannol Emily a’i phwyslais ar lywodraethiant cadarn, yn asedau allweddol wrth i ni gyflawni ein gweledigaeth o gefnogi busnesau Cymru i ffynnu.”
Fflur Jones, Chair of Mentera, added:
“Following a rigorous and successful recruitment process, we are thrilled to have secured such high-calibre individuals to join our Board. Both Owen and Emily bring a genuine commitment to Wales and a passion for fostering business success. Their insights and guidance will be crucial as Mentera continues to empower Welsh entrepreneurs and businesses, strengthening the foundations of our economy and contributing to a more prosperous future for Wales.