Manylion
Blog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024

Blog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024

Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn helpu i wneud i bethau ddigwydd. O’r fro i’r byd, rydym yn rhoi’r cyfle i fusnesau fod o safon ryngwladol. Gyda phecynnau cymorth wedi'u teilwra, mynediad at gyfleoedd, a gwerth 35 mlynedd o arbenigedd, profiad a chysylltiadau, byddwn yn sicrhau bod eich busnes y gorau y gall fod.

Eleni, cymerodd 76% o staff Mentera ran yn ein harolwg staff blynyddol. Fel Prif Weithredwr Mentera, rwy'n ddiolchgar i aelodau’r tîm am gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg ac am fod yn onest gyda'u hatebion. Er bod y canlyniadau'n rhoi digon o achos i ni ddathlu a bod yn optimistaidd yn eu cylch, maen nhw hefyd yn rhoi adborth amhrisiadwy inni i adeiladu a gwella arno.

Pam cynnal arolwg blynyddol?

I arweinwyr unrhyw gwmni, gall yr arolwg staff blynyddol fod yn gyfnod nerfus. Ond nid yw poeni am yr hyn y mae eich tîm yn ei feddwl mewn gwirionedd yn ddim rheswm i beidio â gofyn y cwestiynau pwysig. Heb y mewnwelediad y mae eich canlyniadau'n ei roi i chi, sut gallwch chi wybod ble i ganolbwyntio'ch ymdrechion a ble mae angen i chi wella?

Mae canlyniadau eich arolwg yn rhoi cipolwg hollbwysig i chi o ddiwylliant eich cwmni – ac mae diwylliant y cwmni yr un mor bwysig ag unrhyw un o’r dangosyddion perfformiad eraill. Gall wneud neu dorri'ch cwmni – os cewch chi’r diwylliant yn iawn, mae gennych chi gynhyrchiant uchel, morâl da, timau ymgysylltiedig a gweithwyr hapus. Os cewch chi’r diwylliant yn anghywir, neu os methwch â chreu’r amgylchedd cywir i adael i’r diwylliant cywir ffynnu, gall fwrw’ch strategaeth fusnes i gyd oddi ar y cledrau!

Achos i ddathlu

Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn fuan ar ôl i ni lansio ein strategaeth newydd – O'r Fro i'r Byd – a’r enw a’r brand newydd (Menter a Busnes oeddem yn flaenorol), felly mae'r ffaith bod 91% o'r tîm wedi dweud eu bod yn deall ein pwrpas, ein gweledigaeth a'n hegwyddorion yn wych.

Yr un mor gadarnhaol yw'r ffaith bod 90% wedi dweud eu bod yn falch o weithio yma a byddai 87% yn ei argymell fel lle da i weithio. Mae enw da mor bwysig y dyddiau hyn. Mae newyddion da am ddiwylliant eich busnes yn lledaenu'n gyflym; i'r gwrthwyneb, mae newyddion drwg yn teithio hyd yn oed yn gyflymach!


Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyflwyno polisïau gweithio hybrid a gweithio hyblyg newydd, gan annog mwy o amser yn y swyddfa i feithrin cydweithrediad agosach. Rydym hefyd yn caniatáu gweithio hyblyg i gynorthwyo gyda bywyd y tu hwnt i’r gwaith. Felly mae gweld bod 91% yn cymeradwyo’r polisi gweithio hyblyg a 89% yn dweud bod ganddyn nhw gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn anhygoel i'w weld – ac mae'n awgrymu ein bod ar y trywydd cywir.

Darparwr yw Mentera – ac ymfalchïwn mewn 35 mlynedd o ddarparu gwasanaethau o safon uchel i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a ffynnu. Felly efallai mai'r ystadegyn gorau oll yw bod 97% o'r tîm yn meddwl ein bod yn cynnig gwasanaethau o safon uchel.

Dim lle i hunanfodloni

Nid yw casglu adborth ac ymgysylltu â staff yn ddigwyddiad a wneir ond unwaith, ac rwy'n gwybod nad oes lle i hunanfodloni yma. Mae'n rhaid i ni wrando ar bob darn o adborth a chymryd camau pan nad yw'r canlyniadau lle rydym am iddyn nhw fod.

Eleni, mae aelodau’r tîm wedi dweud bod angen i ni wneud mwy i'w helpu i gyrraedd eu dyheadau gyrfa ac i'w helpu i dyfu. Mae 73% o'r farn ein bod yn gwneud digon a'u bod yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, ac mae 63% yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, sydd wedi gostwng o 70% y llynedd. Felly mae'n amlwg bod angen i ni wneud mwy gyda’n pecyn hyfforddi a sicrhau bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw.

Mae'r niferoedd sy’n gweithio oriau anghymdeithasol sawl gwaith yr wythnos wedi cynyddu ychydig ers y llynedd, o chwarter i draean. Er bod cyfran dda o hynny yn ddewis unigol, roedd llawer ohono yn sgil natur ein gwaith a’r angen i fynychu digwyddiadau, ac felly mae angen i ni gadw llygad barcud ar les staff a sicrhau bod pobl yn cymryd amser i adennill eu hegni mewn cyfnodau tawelach.

Mae gennym waith i'w wneud hefyd ar rai agweddau ar gynhwysiant. Er mai barn ein staff yn gyffredinol yw ein bod yn weithle cynhwysol i bobl â nodweddion gwarchodedig, gwelwyd gostyngiad o 13% o'r llynedd hyd eleni yn nifer y staff sy'n cytuno ein bod yn gynhwysol ar gyfer pobl anabl. Dyma'r union fath o adborth sy'n gwneud i mi eisiau archwilio'r rhesymau y tu ôl iddo, ac i weithio i wella ein cwmni trwy wneud newidiadau bywyd go iawn i sut rydym yn gweithredu a chyfathrebu ein hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol. Roeddem yn falch o gadw ein hachrediad Safon Aur Ymrwymedig i Gydraddoldeb (C2E) eleni, ond nid da lle gellir gwell.

Dyfodol disglair

Mae cwmni'n dibynnu ar ei dîm am lwyddiant. Mae Mentera yn cyflogi dros 170 o bobl. Y bobl yma sy'n ymdrechu'n galed bob dydd i gyflawni ein gweledigaeth a'n strategaeth, gan alluogi a grymuso busnesau Cymru i fentro a ffynnu ‘o’r fro i’r byd’, er mwyn creu economi ffyniannus.

Wrth i ni adeiladu ar gyfer y dyfodol, byddaf yn parhau i wrando a dysgu o adborth ein staff yn fy ymrwymiad i ragoriaeth a dysgu’n barhaus ym mhopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau a fydd yn arwain at newid cadarnhaol yn ein cwmni; er mwyn gwneud ein gweithle yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mewn blwyddyn lle rydym wedi datblygu a lansio strategaeth, brand ac enw newydd i’r cwmni, rwy'n hynod falch bod y tîm yn gefnogol i'n cyfeiriad a'n huchelgais.

 

 

Explore our latest postsBragwyr Cymreig wedi’u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â’u bragdai i’r lefel nesaf Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf Menter a Busnes yn datgelu brand a gweledigaeth newydd – i helpu busnesau Cymru i gyrraedd llwyfan fyd-eang.
Explore our latest postsBragwyr Cymreig wedi’u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â’u bragdai i’r lefel nesaf Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf Menter a Busnes yn datgelu brand a gweledigaeth newydd – i helpu busnesau Cymru i gyrraedd llwyfan fyd-eang.