Manylion
Menter a Busnes yn Codi £7,000 i Ymchwil Canser Cymru ac yn Cyhoeddi Cefnogaeth Barhaus

Menter a Busnes yn Codi £7,000 i Ymchwil Canser Cymru ac yn Cyhoeddi Cefnogaeth Barhaus

Mae’n bleser gan Menter a Busnes, sefydliad blaenllaw sy’n cynnig gwasanaethau cymorth a datblygu i fusnesau Cymru, gyhoeddi ei fod wedi codi £7,000 i Ymchwil Canser Cymru drwy gydol blwyddyn ariannol 2023/24, fel rhan o’i bartneriaeth ‘elusen y flwyddyn’. Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen Gymreig annibynol a’r unig elusen sy’n llwyr ymroddedig i ariannu ymchwil canser yng Nghymru i Gymru. Codwyd yr arian drwy amrywiaeth o weithgareddau codi arian a gyflawnwyd gan staff drwy gydol y flwyddyn.

Mae Menter a Busnes hefyd yn falch o gyhoeddi cefnogaeth i Ymchwil Canser Cymru am flwyddyn arall. Daw’r penderfyniad hwn wrth i aelod gwerthfawr o’n tîm, Elan Davies, dderbyn triniaeth am ganser y fron ar hyn o bryd.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth fy nghyd-weithwyr ym Menter a Busnes drwy gydol fy nhriniaeth, ac rwy’n falch ac yn ffodus iawn o weithio i gwmni sy’n cefnogi ei weithwyr a chael effaith gadarnhaol yn y gymuned. Mae cyfrannu at ymchwil sy’n mynd i fod o fudd i bobl yma yng Nghymru, sy’n wynebu diagnosis tebyg i fy un i, yn fy ysgogi hyd yn oed yn fwy yn fy mrwydr fy hun.”

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Menter a Busnes:

“Rydym yn hynod falch o ymdrechion codi arian ein staff trwy gydol y flwyddyn. Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen sy’n agos at ein calonnau, ac rydym wedi ein cyffwrdd yn arbennig gan ddewrder a phositifrwydd Elan yn wyneb ei diagnosis. Drwy barhau â’n cefnogaeth, rydym yn gobeithio chwarae rhan fach wrth ddod o hyd i driniaethau newydd a helpu rhai, fel Elan, a gaiff eu heffeithio gan ganser, gan gyfrannu yn y pen draw at Gymru iachach.”

Aeth gweithwyr Menter a Busnes ati i drefnu digwyddiadau amrywiol i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys tîm o 20 aelod o staff yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, trefnu diwrnod siwmper Nadoligaidd, a chynnal noson bingo hwyliog.

Dywedodd Iwan Rhys Roberts, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Ymchwil Canser Cymru:

“Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus a hael Menter a Busnes. Diolch i roddion caredig fel y rhain, gallwn barhau i ariannu’r ymchwilwyr, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i wthio ffiniau darganfyddiadau ymchwil canser yma yng Nghymru. Mae’r rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n gwaith.”

Mae Menter a Busnes yn cydnabod pwysigrwydd poblogaeth iach i Gymru lewyrchus. Drwy gefnogi Ymchwil Canser Cymru, mae’r cwmni’n mynd y tu hwnt i’w weithgareddau craidd, gan gyfrannu’n weithredol at lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r ymrwymiad hwn yn cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd y cwmni a’i weledigaeth ar gyfer Cymru iachach a mwy llewyrchus.

Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf
Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf