Manylion
Mentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu

Mentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu

Mae Mentera yn falch o gyhoeddi ei fod bellach yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu. Mae hyn yn golygu ei fod wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr maeth a’r plant yn eu gofal yn ogystal â gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i’w weithwyr ei hun ar yr un pryd. 
Picture of Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru; Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd Mentera; Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera. Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru; Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd Mentera; Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera.

Mae Mentera wedi addo cefnogi ei weithwyr, sydd hefyd yn darparu gofal maeth, drwy gynnig mwy o absenoldeb â thâl ar gyfer eu hymrwymiadau maethu. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ofalwyr ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi mewn perthynas â maethu ac i fynychu cyfarfodydd a hyfforddiant a sicrhau bod person ifanc yn setlo yn ei gartref newydd.

Gyda thros 5,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru, mae galw ar gyflogwyr i gynnig hyblygrwydd i ofalwyr maeth gyfuno maethu â gwaith arall.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu Cenedlaethol, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno’r ddau beth hyn. Mae cael cyflogwr cefnogol, felly, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i deuluoedd maeth, gan eu galluogi i gydbwyso gwaith a maethu plant.

Mae cefnogaeth eu cyflogwyr hefyd yn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn maethu i gymryd y cam cyntaf.

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:

“Fel cwmni sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yng nghymunedau Cymru, rydyn ni’n falch o gefnogi gofalwyr maeth. Trwy ddod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu, rydyn ni’n cyd-fynd â’n hegwyddor graidd o wneud gwahaniaeth.Rydyn ni’n grymuso ein gweithwyr i gael effaith gadarnhaol yn ein cwmni ac ym mywydau plant mewn angen. Mae’r fenter hon yn cefnogi ein gweledigaeth o gael Cymru lewyrchus, lle mae busnesau a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i greu dyfodol mwy disglair i bawb.”

Ychwanegodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru:

“Mae dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono a hoffwn ddiolch i Mentera am ei ymrwymiad i gefnogi gofal maeth yng Nghymru.“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i gynyddu, mae annog a chefnogi cyflogwyr lleol i fod yn gefnogol o faethu yn un o’r pethau rydyn ni’n ei wneud i gefnogi gofalwyr maeth yng Nghymru."Pan fo plant yn cadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau, yn aros yn lleol, ac yn cael rhywun i’w cefnogi am yr hirdymor, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell. Felly, os yw cyflogwyr yng Nghymru yn gallu cefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, mae awdurdodau lleol yn gallu helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac, yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”

Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar i’w hun o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i gynnig cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc leol.

Am ragor o wybodaeth am sut i ddod yn ofalwr maeth, ewch i maethucymru.llyw.cymru

Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.
Explore our latest postsMentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.