
Mentera yn cefnogi busnesau Ceredigion drwy gronfa Cynnal y Cardi (Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU)
Mae Mentera, cwmni cymorth busnes nid-er-elw blaenllaw, a chanddo werth 35 mlynedd o brofiad o rymuso entrepreneuriaid Cymru, yn falch o fod yn un o saith partner cyflawni Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y gronfa Cynnal y Cardi newydd. Nod y gronfa hollbwysig hon, a lansiwyd gan y Cyngor ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025–2026, yw ysgogi twf economaidd a meithrin cymunedau ffyniannus ledled yr ardal.
Fel darparwr cymorth busnes rhestredig, bydd Mentera yn allweddol wrth arwain busnesau drwy’r broses ymgeisio am gyfle grant sylweddol: Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi, sy’n cynnig rhwng £5,000 a £50,000 yn seiliedig ar 50% o’r costau cymwys.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera:
“Mae Cymru’n llawn entrepreneuriaid arloesol, a chenhadaeth Mentera yw eu hannog a’u cefnogi i adeiladu busnesau o safon ryngwladol. Busnesau llwyddiannus yw sylfaen economi ffyniannus, a thrwy rannu ein harbenigedd a’n cymorth, gallwn sicrhau eu bod yn mynd o nerth i nerth. Mae bod yn rhan o gronfa Cynnal y Cardi yn cyd-fynd yn uniongyrchol â’n hymrwymiad i greu Cymru ffyniannus, wedi’i gyrru gan fusnesau sy’n sefyll ysgwydd yn ysgwydd ac yn hyderus â goreuon y byd.”
Bydd tîm Mentera yn cynnig cyngor a chymorth, gan dynnu ar brofiad a chysylltiadau’r cwmni o fewn y diwydiant, y Llywodraeth, a phartneriaethau eraill. Dylai busnesau sydd â diddordeb yn grantiau Cynnal y Cardi gysylltu â Mentera yn uniongyrchol.
Mae’r broses i fusnesau sydd â diddordeb yn syml:
- Ymholiad Cyntaf: Gall busnesau ddangos diddordeb yn y gronfa drwy gysylltu â Mentera ar busnes@mentera.cymru
- Canllawiau a Chymorth: Bydd ein tîm yn asesu eich anghenion ac yn darparu cyngor wedi’i deilwra i’ch helpu gyda’ch cais.
Y cyntaf i’r felin yw hi o ran derbyn ceisiadau, a hynny o 16 Mehefin 2025 tan 30 Medi 2025, neu hyd nes bod y gronfa wedi’i dyrannu’n llawn. Rhaid cwblhau a hawlio am yr holl weithgareddau a ariennir erbyn 31 Ionawr 2026.
Ychwanegodd Eirwen:
“Credwn y dylai pob busnes gael y cyfle i gyrraedd safon ryngwladol yn yr hyn y mae’n ei wneud. Mae gweithio’n agos gyda busnesau i’w helpu i dyfu yn dda i fentrau unigol, yn dda i Geredigion, ac yn dda i Gymru gyfan. Rydyn ni’n annog busnesau cymwys yng Ngheredigion i fanteisio ar y cyfle hwn a chysylltu â ni i weld sut gall cronfa Cynnal y Cardi gefnogi eu huchelgeisiau.”
Am ragor o wybodaeth am gronfa Cynnal y Cardi, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a sut gall Mentera gynorthwyo eich busnes, anfonwch e-bost at busnes@mentera.cymru.