
Mentera yn Dathlu Codi £17,500 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru Dros Ddwy Flynedd o Godi Arian Ymroddedig
Mae Mentera, sefydliad blaenllaw sy'n cynnig gwasanaethau cymorth busnes a datblygu busnesau, yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi codi £17,500 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru dros ddwy flynedd o godi arian ymroddedig. Mae'r cyflawniad arwyddocaol hwn yn atgyfnerthu ymrwymiad diysgog Mentera i gefnogi ymchwil hanfodol i ganser yng Nghymru.
Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen annibynnol yng Nghymru a'r unig elusen sy'n ymroddedig i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Codwyd y swm trawiadol drwy ystod amrywiol o weithgareddau codi arian a gynhaliwyd gan staff Mentera.
Gwnaed y penderfyniad i ymestyn y bartneriaeth elusennol am ail flwyddyn yn dilyn brwydr ddewr aelod gwerthfawr o'r tîm, Elan Davies, a oedd yn cael triniaeth am ganser y fron. Rydym wrth ein bodd yn awr i rannu bod Elan wedi cwblhau ei thriniaeth yn llwyddiannus a bod ei symptomau wedi lleddfu. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am haelioni a chefnogaeth teulu a ffrindiau Elan, ynghyd â’r gymuned ehangach, y rhoddodd eu cyfraniadau hwb mawr i'n hymdrechion codi arian.
Rhannodd Elan Davies,
“Rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth ddiysgog fy nghydweithwyr yn Mentera drwy gydol fy nhaith driniaeth, ac rwy’n hynod falch ac yn ffodus i weithio i sefydliad sy’n dangos ymrwymiad mor ddwfn i’w weithwyr ac yn gwneud effaith gadarnhaol yn y gymuned. Mae gweld ein hymdrechion ar y cyd yn cyrraedd uchafbwynt yn y cyfanswm rhyfeddol hwn ar gyfer Ymchwil Canser Cymru yn wirioneddol ysbrydoledig. Nawr bod y symptomau wedi lleddfu, mae cyfrannu at ymchwil a allai fod o fudd i bobl yma yng Nghymru, sy'n wynebu diagnosis tebyg i fy un i, yn golygu hyd yn oed yn fwy i mi."
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:
"Rydym yn hynod falch o ymroddiad parhaus ac ymdrechion codi arian ein staff. Mae codi £17,500 ar y cyd ar gyfer Ymchwil Canser Cymru yn dyst i'w hymrwymiad a'u haelioni. Mae'r elusen hon yn parhau i fod yn agos iawn at ein calonnau, ac rydym yn parhau i gael ein hysbrydoli gan ddewrder, gwydnwch a phositifrwydd Elan drwy gydol ei thriniaeth. Mae'n anrhydedd i ni chwarae rhan mewn ariannu ymchwil hanfodol, dod o hyd i driniaethau newydd, a chefnogi'r rhai, fel Elan, sy'n cael eu heffeithio gan ganser, gan gyfrannu yn y pen draw at Gymru iachach."
Cododd gweithwyr Mentera yr arian hanfodol hwn yn ddiwyd am ddwy flynedd yn olynol. Roedd eu hymdrechion amrywiol yn cynnwys tîm o 20 aelod o staff, ynghyd â gŵr Elan, Iwan, yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, yn trefnu diwrnodau siwmperi Nadolig, yn cynnal nosweithiau bingo llawn hwyl, arwerthiannau, rafflau ac amryw o fentrau eraill.
Dywedodd Iwan Rhys Roberts, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Ymchwil Canser Cymru:
"Rydym yn hynod ddiolchgar am ymroddiad a chefnogaeth barhaus tîm Mentera i Ymchwil Canser Cymru. Fel elusen ymchwil canser Cymru, rydym yn dibynnu ar garedigrwydd pobl Cymru am eu rhoddion sy'n ein galluogi i ariannu'r ymchwil arloesol i ganser yr ydym yn ei chefnogi yma yng Nghymru. Bydd cyfraniad Mentera – swm anhygoel o £17,500, yn ein helpu i barhau i ariannu’r ymchwilwyr, y clinigwyr a’r gweithwyr iechyd proffesiynol mwyaf disglair sy’n gwthio ffiniau darganfyddiadau ymchwil canser yma yng Nghymru er budd pobl Cymru.”
Mae Mentera yn cydnabod pwysigrwydd poblogaeth iach ar gyfer Cymru ffyniannus. Drwy gefnogi Ymchwil Canser Cymru, mae Mentera yn mynd y tu hwnt i'w gweithgareddau craidd, gan gyfrannu'n weithredol at lesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae'r ymrwymiad hirhoedlog hwn yn cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd Mentera a'i weledigaeth ar gyfer Cymru iachach a mwy llewyrchus.