Manylion
Mentera yn recriwtio Cadeirydd newydd – ac yn derbyn ceisiadau nawr!

Mentera yn recriwtio Cadeirydd newydd – ac yn derbyn ceisiadau nawr!

Mae Mentera yn recriwtio Cadeirydd newydd, wrth i gyfnod y Cadeirydd presennol, Fflur Jones, ddod i ben ym mis Mai.

Yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd, mae Fflur Jones wedi chwarae rhan allweddol wrth arwain Mentera drwy gyfnod o newid a datblygiad, gan adeiladu ar sylfeini cadarn y cwmni a chefnogi ei gyfeiriad strategol newydd.

Mae Mentera bellach yn gwahodd ceisiadau gan unigolion profiadol i arwain y cwmni drwy bennod nesaf ei ddatblygiad.

Wrth fyfyrio ar ei chyfnod fel Cadeirydd, dywedodd Fflur Jones:

“Mae wedi bod yn fraint cael bod yn Gadeirydd Mentera mewn cyfnod mor bwysig yn natblygiad y cwmni. Yr hyn sydd wedi sefyll allan i mi yw ymrwymiad ac arbenigedd y bobl sy’n gweithio i Mentera, a’r effaith gadarnhaol mae’r gwaith hwnnw’n ei chael ar fusnesau a chymunedau ledled Cymru. Mae’r cwmni mewn sefyllfa gref iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y Cadeirydd nesaf yn adeiladu ar y momentwm hwnnw.”

Mae Mentera yn gwmni nid-er-elw sy’n cefnogi ac yn galluogi busnesau a chymunedau ledled Cymru i fentro a ffynnu, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae gan Mentera dros 35 mlynedd o brofiad o weithio gyda busnesau (fel Menter a Busnes cynt) ac mae’n darparu cyngor a chymorth o’r radd flaenaf, a hynny drwy arbenigedd ei staff, ei bresenoldeb daearyddol, a’i gysylltiadau cryf ag arweinwyr diwydiant, y Llywodraeth a phartneriaid eraill.

Wrth sôn am recriwtio Cadeirydd newydd, dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:

“Mae hwn yn gyfle pwysig i arweinydd profiadol ymuno â Mentera ar adeg gyffrous iawn ar ein taith. Mae gennym uchelgais glir i gefnogi busnesau Cymru i gyflawni eu llawn botensial, ac i greu economi lewyrchus a chynaliadwy i Gymru. Bydd swydd y Cadeirydd yn allweddol wrth yrru’r weledigaeth honno ymlaen.”

Prif nod Mentera yw creu economi lewyrchus i Gymru drwy rymuso busnesau i fod o safon fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n gweithio’n bennaf yn y sectorau amaeth, bwyd a diod, a’r Gymraeg, ac mae’n bwriadu ehangu i sectorau eraill dros y blynyddoedd nesaf.

Gallwch bellach ymgeisio ar gyfer swydd Cadeirydd Mentera, a cheir manylion llawn y swydd a’r broses ymgeisio ar wefan Mentera.

Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio, cliciwch yma.

Explore our latest postsRhaglen Geneteg Defaid Cymru yn Profi’n Drawsnewidiol: Cynnydd o £50,000 mewn Elw a Ffermwyr Cymru ar Flaen y Gad Y Gymraeg: Ased Busnes, Nid Rhwystr Golwg o Gymru: Beth Mae Busnes Cymru Ei Angen o Gyllideb y DU
Explore our latest postsRhaglen Geneteg Defaid Cymru yn Profi’n Drawsnewidiol: Cynnydd o £50,000 mewn Elw a Ffermwyr Cymru ar Flaen y Gad Y Gymraeg: Ased Busnes, Nid Rhwystr Golwg o Gymru: Beth Mae Busnes Cymru Ei Angen o Gyllideb y DU