Manylion
Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff

Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff

Mae Mentera, cwmni nid-er-elw sy'n ymroddedig i rymuso busnesau Cymru i fod o safon fyd-eang, wedi ymuno â Farm Dynamics i sicrhau contract newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r contract hwn yn cynnwys cyflawni rhaglen arloesol gyda'r nod o fynd i’r afael â chloffni mewn gwartheg bîff. Bydd y fenter, o’r enw "Carnau Cadarn – Beefed-Up Mobility" yn rhoi'r offer a'r wybodaeth i ffermwyr wella iechyd, lles a chynhyrchiant eu hanifeiliaid.

Mae mynd i'r afael â phroblemau cloffni a symudedd yn y diwydiant bîff yn gwella cynhyrchiant a lles anifeiliaid yn sylweddol. Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Lerpwl yn ddiweddar, mae 8.3% o wartheg tew a 14.2% o wartheg sugno yn gloff ar unrhyw adeg benodol. Yn dwysáu’r her hon mae’r diffyg cymorth penodol sydd ar gael i ffermwyr bîff, yn wahanol i'w cymheiriaid llaeth a defaid.

Bydd rhaglen newydd Mentera yn mynd i'r afael â'r angen hollbwysig hwn trwy gynnig hyfforddiant a chymorth cynhwysfawr i ffermwyr. Mae prif elfennau’r rhaglen yn cynnwys:

  • Bioddiogelwch: Gweithredu arferion gorau i atal clefydau heintus rhag lledaenu.
  • Siediau a’r Amgylchedd: Gwneud y mwyaf o amodau siediau i leihau peryglon cloffni.
  • Trin a Lles: Hyrwyddo technegau trin dyngarol i leihau anafiadau sy'n gysylltiedig â straen.
  • Maeth: Sicrhau maeth priodol i gefnogi iechyd carnau.
  • Atal a Thrin Cloffni: Rhoi arweiniad ymarferol ar ddarganfod cloffni’n gynnar, ei gadarnhau, a’i drin.

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:

"Mae'r rhaglen newydd hon yn dangos ymrwymiad Mentera i gynnig atebion arloesol i'r heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol. Gyda’n harbenigedd ym maes iechyd anifeiliaid a'n rhwydwaith helaeth o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, rydyn ni mewn sefyllfa dda i wella iechyd a lles da byw yng Nghymru."

Ychwanegodd Dewi Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid Mentera:

"Mae Mentera yn falch o hyrwyddo iechyd a lles da i anifeiliaid yng Nghymru. Trwy gefnogi ffermwyr bîff a milfeddygon Cymru i gynyddu cynhyrchiant a gwella iechyd a lles anifeiliaid, gallwn greu diwydiant iachach, mwy cynaliadwy a mwy proffidiol."

Mae arbenigedd Mentera mewn iechyd anifeiliaid, ynghyd â'i rwydwaith cryf o weithwyr milfeddygol, yn sicrhau bod ffermwyr yn cael cymorth a chyngor o safon uchel. Trwy fuddsoddi yn iechyd a lles eu gwartheg, mae ffermwyr yn gallu gwella cynaliadwyedd a chystadleurwydd eu busnesau.

Dywedodd Sara Pedersen, ymgynghorydd milfeddygol gyda Farm Dynamics:

“Dwi’n falch iawn o fod yn bartner gyda Mentera ar y prosiect cyffrous hwn. Mae cynlluniau peilot diweddar y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid wedi tynnu sylw at gloffni fel maes allweddol yr hoffai ffermwyr bîff Cymru, a'u milfeddygon, ganolbwyntio arno. Nod y prosiect hwn yw mynd i'r afael â'r angen am ragor o gymorth ac adnoddau yn y maes hwn, a fydd yn cael eu creu'n uniongyrchol mewn ymateb i ofynion penodol diwydiant bîff Cymru."

Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.
Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.