Manylion
Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf

Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf

Bydd Mentera, cwmni nid-er-elw blaenllaw sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru, yn dangos ei gefnogaeth i'r sector gwledig yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru (25 – 26 Tachwedd 2024). Trwy arddangos y rhaglenni amrywiol y mae'n eu rhedeg ar ran Llywodraeth Cymru, bydd Mentera yn cynnig adnoddau gwerthfawr, digwyddiadau diddorol, a llwyfan i fusnesau bwyd a diod newydd ddisgleirio.

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:

"Mae Mentera wedi ymrwymo'n ddwfn i rymuso busnesau Cymru i gyrraedd eu llawn botensial, a’r sectorau amaeth a bwyd a diod yw conglfeini ein heconomi wledig. Mae ein presenoldeb yn y Ffair Aeaf yn adlewyrchu ein hymroddiad i roi'r offer a'r cymorth sydd eu hangen ar ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i ffynnu."

 

Dyma rai o raglenni Mentera a fydd yn bresennol yn y digwyddiad:

  • Cyswllt Ffermio: Bydd gan Cyswllt Ffermio stondin ar y balconi uwchben cylch y gwartheg. Bydd yn cynnal derbyniad Academi Amaeth ddydd Llun, 25 Tachwedd am 10:30am, a derbyniad 'Ein Ffermydd' ar yr un diwrnod am 12:30pm (trwy wahoddiad yn unig).
  • Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: Bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) yn lansio'r ail lyfr yn ei chyfres Diolch Byth am Bob ddydd Mawrth, 26 Tachwedd am 10:30am. Nod y digwyddiad hwn yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn diogelwch fferm trwy’r cymeriad hwyliog ac addysgol, Bob y Ci Defaid. Drwy dargedu plant, mae WFSP yn gobeithio dylanwadu ar ffermwyr y dyfodol a hyrwyddo arferion mwy diogel ar ffermydd Cymru.
  • Cywain: Bydd dyfodol bwyd a diod Cymru yn cael ei arddangos drwy stondinau prawf fasnachu pwrpasol yn y Neuadd Fwyd sy'n cynnwys y busnesau newydd gorau.
  • Arwain DGC: Gall ymwelwyr sgwrsio â chynrychiolwyr Arwain DGC ar y balconi uwchben cylch y gwartheg i gael cyngor ac arweiniad arbenigol ar leihau’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd yn y sector amaethyddol.
  • Sgiliau Bwyd a Diod Cymru: Bydd y rhaglen hon yn lansio pecyn addysgol newydd ar stondin Hybu Cig Cymru ddydd Llun am 11am.

.

Yn ôl Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera sydd hefyd yn gyfrifol am bortffolio gwledig y cwmni:

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at sgwrsio â ffermwyr a busnesau bwyd yn y Ffair Aeaf. Mae Mentera yn falch o helpu twf y busnesau sy’n cynhyrchu bwyd lleol. Trwy fuddsoddi yn ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd, rydyn ni’n buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau. Mae ein cymorth yn helpu i gryfhau economïau gwledig, creu swyddi, a sicrhau cyflenwad bwyd cynaliadwy am genedlaethau i ddod."

Ychwanegodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:

"Mae ein presenoldeb yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn tanlinellu ein hymrwymiad diwyro i gefnogi economi wledig Cymru. Trwy gynnig adnoddau gwerthfawr a meithrin cysylltiadau, rydyn ni’n chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru wledig ac economi ehangach Cymru."

 

Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.
Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Blog Sara: O Gymru i Wlad y Basg – taith ymchwil ARFOR 2024.