
Myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn dechrau interniaeth gyda Mentera a rhaglen Cyswllt Ffermio dros gyfnod yr haf
Mae Mentera yn hynod falch o gyhoeddi bod Chloe a Llio, dwy fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, wedi dechrau ar eu hinterniaeth gyda Mentera dros gyfnod yr haf. Roedd y broses ymgeisio yn un heriol ond yn un sydd wedi talu ar ei chanfed i Chloe a Llio. Bydd hwn yn gyfle unigryw iddyn nhw ymdrochi eu hunain yn niwydiant amaethyddol Cymru. Byddan nhw hefyd yn cael dysgu ac ennill profiad gwerthfawr wrth weithio ar un o raglenni allweddol Mentera, sef Cyswllt Ffermio.
Dywedodd Dr Cennydd Owen Jones FHEA, darlithydd Rheoli Glaswelltiroedd Amaethyddol, Prifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn falch o weld dwy o’n myfyrwyr Amaethyddiaeth yn cael y cyfle gwerthfawr hwn dros fisoedd yr haf i weithio gyda Mentera. Mae’n gynllun gwych a fydd yn galluogi Chloe a Llio i gael profiad o weithio gyda’r tîm technegol, ac yn gyfle iddynt weld a rhoi ar waith eu gwybodaeth a’u sgiliau sy’n cael eu datblygu yn y brifysgol.”
Bydd Chloe a Llio’n treulio rhan helaeth o’u hamser gyda Thîm Technegol Cyswllt Ffermio, gan gymryd rhan mewn gwaith ymarferol ar ffermydd ledled Cymru. Bydd hwn yn gyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau ymarferol a chael dealltwriaeth ddofn o heriau a chyfleoedd y sector amaethyddol.
Yn ogystal â’r gwaith ar y fferm, bydd eu profiad yn cynnwys:
- Mynychu digwyddiadau amaethyddol, a fydd yn cynnig mewnwelediad ehangach i’r diwydiant iddyn nhw a chyfle i rwydweithio â phobl broffesiynol;
- Cefnogi gwaith timau amrywiol Cyswllt Ffermio, gan ehangu eu dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y prosiect; a
- Chymryd rhan yng nghyfarfodydd Mentera, gan ddysgu am raglenni eraill y cwmni a’r gwaith pwysig a wneir ar draws amrywiaeth o sectorau.
Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i Chloe a Llio fod yn rhan o dîm cefnogol, gan ddysgu gan aelodau staff profiadol y cwmni a chael cyfleoedd newydd.
Dywedodd Llio:
“Dwi’n edrych ymlaen at y profiad o weithio i Mentera ar brosiect Cyswllt Ffermio dros yr haf, yr union gyfle roeddwn i wedi gobeithio ei gael. Cyfle anhygoel i ddysgu wrth weithio.”
Ychwanegodd Chloe:
“Dwi’n dysgu mwy a mwy bob dydd ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod er mwyn datblygu fy sgiliau ymhellach yn y diwydiant amaethyddol.”
Esboniodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera:
“Mae’r cyfle hwn yn fwy na lleoliad haf yn unig; mae’n fuddsoddiad yn nyfodol amaethyddiaeth Cymru. Mae Mentera’n parhau â’i ymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr amaethyddol, gan sicrhau bod y diwydiant yn parhau i ffynnu gydag unigolion arloesol a medrus fel Chloe a Llio ynddo.”
Mae Mentera wedi ymrwymo i feithrin doniau newydd ac mae’r profiad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gefnogi dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.