
Penodi Cyfarwyddwr Iau Newydd i Fwrdd Mentera
Mae Mentera wedi penodi Lois Wynne yn Gyfarwyddwr Iau newydd. Mae Lois, sydd o Gorwen, yn ymuno â’r Bwrdd ar ôl proses recriwtio gystadleuol, gan ddod â chyfoeth o arbenigedd strategol a masnachol wedi bron i saith mlynedd yn gweithio i’r cawr gweithgynhyrchu byd-eang, Ifor Williams Trailers.
Mae penodiad Lois yn gam arwyddocaol yn ymrwymiad Mentera i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes yng Nghymru. Yn ei rôl newydd, bydd hi’n cynnig persbectif ffres ac yn cyfrannu at genhadaeth graidd y cwmni o helpu busnesau a chymunedau Cymru i ffynnu, yn lleol ac ar lwyfan y byd.
Yn ystod ei chyfnod yn Ifor Williams Trailers, mae Lois wedi dal amryw o swyddi, gan gynnwys Rheoli Newid ac, yn fwyaf diweddar, Rheolwr Cyfrifon a Gwerthiant. Roedd hi’n rhan annatod o’r tîm a addasodd i’r heriau a ddaeth yn sgil Brexit ac yna’r pandemig, gan ennill profiad helaeth ar draws pob agwedd ar weithgynhyrchu byd-eang.
Dywedodd Lois Wynne:
“Ar ôl treulio fy ngyrfa hyd yn hyn mewn busnes byd-eang, dwi wedi gweld â’m llygaid fy hun bwysigrwydd addasu a meddwl yn strategol. Edrychaf ymlaen at ddod â’r profiad hwn i Mentera a chyfrannu at genhadaeth y cwmni o rymuso busnesau Cymru i gystadlu ar lwyfan y byd. Fel gweithiwr proffesiynol ifanc a ddychwelodd i Gymru, dwi’n frwd dros sicrhau bod economi a diwydiannau ein gwlad yn parhau i ddatblygu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd i helpu i sicrhau bod busnesau Cymru wedi’u cyfarparu i ffynnu yma gartref ac ar lwyfan y byd.”
Ychwanegodd Fflur Jones, Cadeirydd Mentera:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Lois i fwrdd Mentera. Mae ei phrofiad helaeth ym meysydd rheoli newid, gwerthiant a rheoli cyfrifon mewn cwmni mawr sy’n gweithredu’n fyd-eang yn amhrisiadwy. Mae gan Lois allu profedig i lywio heriau cymhleth, i ysgogi twf, ac i arwain gyda meddylfryd strategol, sy’n ategu’n berffaith ein gweledigaeth o greu economi lewyrchus i Gymru.”