Manylion
Ffermio ar gyfer y dyfodol

Ffermio ar gyfer y dyfodol

Ffermio ar gyfer y dyfodol

Beth rydyn ni’n chwilio amdano?

Rydym yn edrych am ffermwyr o sectorau ffermio a mathau fferm amrywiol ledled Cymru i rannu eu barn a phrofiadau o ffermio mewn hinsawdd sy’n newid. Ariennir yr astudiaeth hon gan Lywodraeth Cymru. 

Disgwyliadau a manteision o gymryd rhan:

Gwahoddir chi i fynychu a chyfrannu mewn un gweithdy dwy awr a hanner wyneb-i-wyneb yn Chwefror fel rhan o gyfres o weithdai ledled Cymru, gan roi eich barn a rhannu gwybodaeth am eich technegau amaethyddol. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth ar newidiadau i arferion eich fferm mewn ymateb i newidiadau i’r sector amaethyddiaeth neu yn benodol i addasu ar gyfer newid hinsawdd. Bydd yr holl ddata a gesglir fel rhan o’r gweithdai yn gwbl ddienw.

Bydd union leoliadau’r  gweithdai yn cael eu cadarnhau ar ôl i’r cyfnod ymgeisio gau  er mwyn sicrhau lleoliad canolog ym mhob rhanbarth yng Nghymru (Gogledd Orllewin Cymru, Gogledd Ddwyrain Cymru, Canol Gorllewin Cymru, Canol Dwyrain  Cymru, De Orllewin Cymru, De Ddwyrain Cymru) ar gyfer y ffermwyr sydd yn cymryd rhan.

Darperir lluniaeth a thaleb £50 ar gyfer cyflenwr amaethyddol i chi fel cydnabyddiaeth am eich ymrwymiad amser.

Cynhelir gweithdy ar-lein i’r rhai sydd â diddordeb cymryd rhan ond ddim yn gallu mynychu gweithdy wyneb-yn-wyneb. Darperir taleb £25 ar gyfer cyflenwr amaethyddol i chi fel cydnabyddiaeth o’ch amser.

Croesawir ceisiadau gan holl ffermwyr Cymru. Manteisiwch ar y cyfle i gyfrannu eich gwybodaeth a fydd o fudd i ddatblygiad polisi yn y dyfodol, ac arddangos beth mae ffermwyr Cymru eisoes yn ei wneud i addasu i hinsawdd sy’n newid.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Non Williams – non.williams@mentera.cymru / 07960 261 226