Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Rhaglen gefnogaeth newydd ar gyfer busnesau bwyd a diod yng Nghymru
Cenhadaeth:
Bydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ac i hybu arloesedd a thwf cynaliadwy yng Nghymru.
Sut gallwn ni eich cefnogi:
Byddwn yn cefnogi busnesau bwyd a diod gyda ffocws ar ddiwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach.
Sut bydd eich cyflogeion yn elwa:
Byddwn yn annog gweithwyr i rannu gwybodaeth a phrofiadau gyda chyfoedion tra hefyd yn cynyddu hyder a hyblygrwydd yn y gweithle er mwyn gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Cydweithio er budd y sector bwyd a diod yng Nghymru:
Ein nod yw paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu i newidiadau a chyfleoedd ym maes gweithgynhyrchu bwyd gan gynnwys heriau technegol, busnes ac amgylcheddol. Bydd gweithlu medrus yn gallu datblygu gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd ym mhob rhan o Gymru.
Meysydd ffocws:
Bydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn categoreiddio’r ddarpariaeth hyfforddiant yn chwe philer sy’n cyd-fynd â’r prif sectorau o fewn y diwydiant – gan ganiatáu mynediad symlach i gyfleoedd uwchsgilio:
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Marchnata a Gwerthiant
- Cynhyrchu a Gweithgynhyrchu
- Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio
- Cydymffurfiaeth a Statudol ar gyfer Twf (Sgiliau Diwydiant / Sgiliau Gweithlu / Tu Hwnt i’r Sylfaenol)
- Pwrpasol / Arweinir gan Fusnes
Bydd busnesau cymwys yn gallu:
- Cwblhau Diagnostig Sgiliau gyda Rheolwr Gweithlu i nodi bylchau sgiliau
- Cael mynediad i’n Cyfeiriadur Hyfforddiant sector-benodol i adnabod darparwyr hyfforddiant a chyrsiau
- Cyflwyno ceisiadau am arian i sicrhau cefnogaeth tuag at gost cyrsiau hyfforddi
I gael manylion am weithdai a hyfforddiant cyfredol, cliciwch yma gwelwch yn dda.
Bydd y tîm hefyd yn darparu gwasanaethau gan ganolbwyntio ar:
Ymgysylltu â phobl ifanc a phrentisiaethau
Gweithlu bwyd Cymru (hysbysfwrdd swyddi, pasbortau gyrfaoedd)
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â sgiliau-cymru@menterabusnes.co.uk neu llenwch y FFURFLEN a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.
Fel arall, i gofrestru ar gyfer Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, CLICIWCH YMA i gwblhau’r ffurflen gofrestru fer.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru (LlC) sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant Bwyd a Diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog.