Rhaglenni
Rydym yn falch o gynnig llu o raglenni a gwasanaethau creadigol ac ymarferol sy’n cefnogi busnesau i gyrraedd eu llawn botensial.
O fenter, i arloesi, datblygu polisi a chynnyrch, gyda’n cymorth ni gall eich busnes dyfu a ffynnu.


Ffermio ar gyfer y dyfodol
Cyfle i ffermwyr ledled Cymru i gyfrannu eu gwybodaeth a fydd o fudd i ddatblygiad polisi yn y dyfodol, ac arddangos beth maent eisoes yn ei wneud i addasu i hinsawdd sy'n newid.


Tystysgrif Uwchraddedig mewn Arwain Newid
Dewch i ddatgloi eich potensial arweinyddiaeth gyda'n Modiwlau Ôl-raddedig


Partneriaeth Bwyd Ceredigion
Gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo system fwyd gynaliadwy, iach a theg yng Ngheredigion.


SBARC Ceredigion
Pecyn cynhwysfawr i ddarpar berchnogion busnes ac entrepreneuriaid yn cyfuno gwybodaeth diwydiant a phrofiad ymarferol.


Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Cefnogi busnesau bwyd a diod yng Nghymru i ddatblygu gweithlu medrus a galluog i danio arloesedd a thwf cynaliadwy.


Marchnata Bwyd Cyfan
Cefnogi cwmnïau bwyd a diod o Gymru i dyfu a ffynnu drwy gymorth wedi’i deilwra gan gynnwys mentora busnes, marchnata a hyfforddiant.


Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid
Gweithio gyda milfeddygon lleol i ddarparu gwasanaethau milfeddygol o ansawdd uchel i gymunedau ffermio ar draws gogledd Cymru.


Cywain
Darparu cefnogaeth arbenigol i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru er mwyn sicrhau eu bod mor arloesol, cystadleuol a chynaliadwy â phosib.


ARFOR
Menter ar y cyd rhwng Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n ariannu mentergarwch a datblygiad economaidd er mwyn cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg.


Clwstwr Bwyd Môr
Dod â physgotwyr, gwerthwyr pysgod a busnesau dyframaeth o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddysgu, rhannu, tyfu a ffynnu.


