Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Manylion
Disgyblion yn cael blas ar yrfaoedd yn y sector bwyd a diod ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru

Disgyblion yn cael blas ar yrfaoedd yn y sector bwyd a diod ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru

Dysgodd ddisgyblion o dair ysgol yn Ne Cymru am gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ar 23-24 Ionawr 2024, fel rhan o Daith Ysgolion a drefnwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales i ddod a disgyblion i Bencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd (ICC Wales).

Mynychodd cyfanswm o 95 disgybl o Ysgol Uwchradd Casnewydd, Ysgol Gymraeg Plasmawr, Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd y digwyddiad. Yn ystod y diwrnod, cafodd y disgyblion gyfle i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno, iaith y corff a sgiliau chyfathrebu efo Rob Hookman o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a cyflwynwyd nhw i’r byd technolegwyr bwyd gan Leanne Ellis o Ganolfan Ddiwydiant Bwyd Zero2Five. Roedd cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau megis plygu napcyn, gwneud omlet a chymysgu moctêls.

Trefnwyd y digwyddiad i gyd-fynd â Phencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, oedd yn cynnal cystadlaethau Cogydd Ifanc Cymru, Cogydd Cenedlaethol Cymru a Chigydd Cymreig y Flwyddyn, yn ogystal â dosbarthiadau sgiliau, pob un yn cael eu rhedeg gan Culinary Association of Wales.

Dywedodd Arwyn Watkins OBE, Llywydd Culinary Association of Wales:

“Symudon ni’r Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru i greu digwyddiad arddangos lletygarwch tri diwrnod. Am y tro cyntaf mae Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru wedi dod a chogyddion Cymreig, cigyddion, prensitiaid lletygarwch a sector bwyd a diod Cymru at eu gilydd i rwydweithio ac adeiladu perthnasau busnes.

“Rydym yn falch i weithio mewn partneriaeth efo Sgiliau Bwyd a Diod Cymru/Food & Drink Skills Wales i groesawu disgyblion technoleg bwyd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru. Cafodd y disgyblion gyfle i roi cynnig ar rai o’n dosbarthiadau sgiliau a dysgu’n uniongyrchol am y sector lletygarwch a chyfleoedd gyrfa yn ein diwydiant yn y dyfodol.”

Dywedodd Elen Rebeca Jones, Rheolwr Ymgysylltu Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales:

“Roedd yn bleser pur cynnig y digwyddiad yma a chael gweld disgyblion yn cael amser da. Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod anhygoel o fywiog sydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd swyddi cyffrous.

“Roedd y disgyblion wedi eu hysbrydoli ac wedi cael cyfle i rwydweithio a dod i adnabod pa gyfleoedd a gwahanol adnoddau hyfforddi sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod. Er na fydd pob disgybl a fynychodd yn ymuno â’r diwydiant bwyd a diod, gobeithiwn y bydd rhai ohonynt yn dilyn y llwybr hwn – a dysgodd pob un ohonynt rhywbeth newydd yn ystod y diwrnod. Rhoddodd foddhad mawr i mi fel Rheolwr Ymgysylltu i gyfrannu at gyflawni hynny iddynt.

Explore our latest postsMentera yn Arwain Consortiwm gan Sicrhau £2 Filiwn i Hybu Brwydr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru Blog – Pontio’r Cenhedlaethau: Cynllunio dyfodol eich fferm Galw am ffermwyr i gyfrannu at y broses o gyflawni sero net
Explore our latest postsMentera yn Arwain Consortiwm gan Sicrhau £2 Filiwn i Hybu Brwydr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru Blog – Pontio’r Cenhedlaethau: Cynllunio dyfodol eich fferm Galw am ffermwyr i gyfrannu at y broses o gyflawni sero net