Manylion
Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn Profi’n Drawsnewidiol: Cynnydd o £50,000 mewn Elw a Ffermwyr Cymru ar Flaen y Gad

Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn Profi’n Drawsnewidiol: Cynnydd o £50,000 mewn Elw a Ffermwyr Cymru ar Flaen y Gad

Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru (WSGP), a ddarperir gan gwmni Mentera drwy raglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn dathlu cyfnod o lwyddiant digyffelyb. Mae hyn yn pwysleisio rôl geneteg fel arf pwerus a defnyddiol wrth sicrhau dyfodol economaidd ac amgylcheddol ffermio defaid yng Nghymru.

Mae adolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar (2025), a ddefnyddiodd ddata a gasglwyd drwy’r rhaglen, yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol mewn elw a datblygiadau gwyddonol, gan gadarnhau pwysigrwydd gwella geneteg diadelloedd defaid yng Nghymru.

Llwyddiant Ariannol a Chyd-weithio â Ffermwyr

Mae gan Raglen Geneteg Defaid Cymru 87 o ddiadelloedd sy’n cofnodi perfformiad ledled Cymru, sy’n cwmpasu dros 14,500 o famogiaid. Mae’r lefel hon o ymgysylltiad gan ffermwyr yn trosi’n uniongyrchol i fuddion ariannol y gellir eu mesur:

  • Cynnydd o £50,750 mewn elw: Mae’r adolygiad yn dangos gwelliant ar gyfradd gronnus gyfartalog o £0.91 y famog fesul blwyddyn. Mae hyn wedi arwain, ar gyfartaledd, at gynnydd mewn elw o £3.50 y famog i’r ffermwyr sy’n cymryd rhan.
  • Llawer mwy o gynhyrchiant: Mae diadelloedd sy’n rhan o’r rhaglen hefyd wedi gweld pwysau ŵyn yn cynyddu 1kg ar gyfartaledd, a chynnydd o 3% yng ngoroesiad yr ŵyn, gan ddod â mwy o fanteision ariannol i fusnesau fferm Cymru.

Dywedodd Will Sawday, ffermwr defaid o Gelli Gandryll sy’n cymryd rhan yn y rhaglen,

“Rydyn ni wedi bod yn cofnodi perfformiad defaid ers 30 mlynedd ac mae wedi dod yn offeryn hollbwysig wrth wella ein geneteg. Ar gyfer nodweddion mamol, rydyn ni wedi canfod nad yw defnyddio eich llygaid yn unig i fesur yn ddigon da.

“Dwi mor falch ac yn ddiolchgar o fod yn rhan o’r rhaglen hon. Mae wedi dod â chymaint o werth i’n busnes, gan ganiatáu inni gofnodi llawer mwy o nodweddion a chasglu llawer mwy o ddata na fyddwn wedi’i wneud fel arall. Dwi eisoes yn gallu gweld y gwelliannau genetig.

“Mae’r rhaglen wedi caniatáu inni fynd â’n gwaith cofnodi perfformiad i lefel arall.  Nid yn unig rydyn ni’n casglu mwy o’r un data, gan wella ein cynnydd o ran ein nodweddion presennol; ond rydyn ni hefyd yn casglu data ar nodweddion newydd fel allyriadau methan, a fydd yn gwella gwydnwch y busnes yn y dyfodol i’n cwsmeriaid."

Cymru ar Flaen y Gad ym Maes Geneteg

Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru wedi sefydlu Cymru fel arweinydd ym maes arloesedd da byw, gan gyfrannu’n uniongyrchol at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran lliniaru newid hinsawdd a mabwysiadu arloesedd a thechnoleg.

  • Y cyntaf yn y byd i ddefnyddio genomeg: Cyflwynodd y rhaglen Werthoedd Bridio Tybiedig Genomig (GEBVs) i ddiadelloedd ym mis Mehefin 2023, gan ddynodi’r tro cyntaf i enomeg gael ei defnyddio ymhlith defaid yn y byd.
  • Effaith genedlaethol: Mae llwyddiant Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn ased cenedlaethol, ac mae data a ddarparwyd gan y rhaglen yn cyfrif am 70% (77,000) o enoteipiau cenedlaethol (defaid) y DU hyd yn hyn.
  • Atebion cynaliadwy: Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn mynd i’r afael â heriau mawr yn y diwydiant, gan ddatblygu offer genetig newydd i ddewis anifeiliaid sy’n llai agored i barasitiaid gastroberfeddol (trwy’r EBV, ‘Parasite Plus’), yn ogystal ag archwilio’r potensial i fridio anifeiliaid sy’n allyrru llai o fethan.

Dathlu’r llwyddiannau, a pharatoi’r ffordd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Er bod y rhaglen wedi cyflawni cryn lwyddiant ar y dechrau, mae gwella geneteg diadelloedd yn strategaeth hirdymor sy’n gofyn am ymrwymiad parhaus er mwyn gwireddu’r manteision llawn. Mae’r diadelloedd newydd a recriwtiwyd ar ddechrau’r rhaglen bellach yn y cyfnod hollbwysig o weld y manteision cyntaf wrth i ŵyn a gofnodwyd yn gynnar ymuno â’r ddiadell fridio.

Mae Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau (Rhaglenni Gwledig) Mentera, yn falch o lwyddiant y rhaglen, a thynnodd sylw at beth mae hyn yn ei olygu i ffermwyr defaid Cymru yn y dyfodol:

“Mae gwelliant genetig yn ffordd brofedig ac effeithiol o wella cynaliadwyedd ein diadelloedd mynydd a mamol. Mae’r cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Cyswllt Ffermio wedi golygu bod ein tîm wedi gallu helpu ffermwyr Cymru i wneud camau blaengar ymlaen ym maes geneteg defaid. Mae hyn, yn ei dro, wedi amlygu manteision cofnodi perfformiad craidd, yn ogystal â harneisio technolegau arloesol a allai drawsnewid y diwydiant yma yng Nghymru.”

Ychwanegodd Eirwen: “Mae’r cynnydd a wnaed o ran cydweithio â ffermwyr, casglu data, a chyflwyno offer genomig arloesol yn dyst i effeithiolrwydd Rhaglen Geneteg Defaid Cymru. Drwy gydweithio’n agos ag Innovis ac AHDB-Signet drwy gydol y rhaglen, gwnaed datblygiadau a fydd yn helpu i ddatgloi potensial economaidd, amgylcheddol a lles llawn gwelliant genetig. Bydd hefyd yn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad yn hyn o beth.”

Explore our latest postsY Gymraeg: Ased Busnes, Nid Rhwystr Golwg o Gymru: Beth Mae Busnes Cymru Ei Angen o Gyllideb y DU SBARC Ceredigion yn croesawu 20 o entrepreneuriaid newydd
Explore our latest postsY Gymraeg: Ased Busnes, Nid Rhwystr Golwg o Gymru: Beth Mae Busnes Cymru Ei Angen o Gyllideb y DU SBARC Ceredigion yn croesawu 20 o entrepreneuriaid newydd