
SBARC Ceredigion yn croesawu 20 o entrepreneuriaid newydd
Yn dilyn llwyddiant mawr ei raglen gyntaf, mae Mentera – cwmni sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau Cymru – yn hynod falch o gyhoeddi lansiad swyddogol SBARC Ceredigion. Mae ugain o entrepreneuriaid uchelgeisiol wedi cael eu dewis ar gyfer rhaglenni pwrpasol Tyfu a Ffynnu ac eisoes wedi dechrau ar eu hyfforddiant dwys.
Nod y fenter entrepreneuriaeth uwch hon, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac a weinyddir gan Dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion, yw darparu cymorth o safon ryngwladol i fusnesau yn y sir.
Tyfu: Dechrau’r daith o ddysgu
Fe wnaeth carfan Tyfu, sydd wedi’i hanelu at unigolion sydd ag egin syniadau busnes, gwblhau’n llwyddiannus ei phenwythnos preswyl cyntaf yn Aberteifi. Elwodd y cyfranogwyr o weithdai ymdrochol a chyfle i rwydweithio, gan eu paratoi ar gyfer y daith sydd o’u blaen. Mae’r garfan bellach yn edrych ymlaen at daith astudio ysbrydoledig i Iwerddon i gael persbectif rhyngwladol gan fusnesau llewyrchus, ac yna ail benwythnos preswyl yng Ngheredigion.
Ffynnu yn canolbwyntio ar dwf
Yn ddiweddar, cynhaliodd carfan Ffynnu, sydd wedi’i theilwra ar gyfer perchnogion busnes sefydledig sy’n ystyried ehangu, ei diwrnod dwys cyntaf yn Nhŷ Glyn ger Aberaeron. Roedd y sesiwn undydd yn cynnwys sgyrsiau diddorol gan arbenigwyr busnes, a nod y diwrnod oedd helpu cyfranogwyr i ddiffinio eu hamcanion twf strategol – a allai fod yn ariannol, gweithredol, neu’n seiliedig ar effaith. Dros yr wythnosau nesaf, bydd yr entrepreneuriaid yn cael sesiynau mentora 1:1 pwrpasol i yrru eu cynlluniau twf personol.
Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf
Mae Mentera hefyd yn dal i wahodd ceisiadau ar gyfer rhaglen Sbarduno, a fydd yn darparu gweithdai entrepreneuriaeth unigryw i bobl ifanc. Mae gan ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Ceredigion tan fis Rhagfyr i ymgeisio.
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera, am y lansiad:
“Rydyn ni’n hynod falch o weld SBARC Ceredigion yn cael ei lansio’n swyddogol a bod yr 20 o entrepreneuriaid wedi cychwyn ar eu taith. Mae’r ymrwymiad rydyn ni wedi’i weld gan garfannau Tyfu a Ffynnu yn ysbrydoledig. Nid yw SBARC yn ymwneud â chymorth lleol yn unig; mae’n ymwneud â rhoi’r offer, yr hyder, a’r persbectif rhyngwladol i’r busnesau hyn – fel y dangosir gan y daith sydd ar ddod i Iwerddon – i ddod yn fusnesau o safon ryngwladol. Mae hwn yn fuddsoddiad hollbwysig yn nyfodol economaidd Ceredigion, ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth Mentera i alluogi busnesau Cymru i fentro a ffynnu.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Clive Davies, yr Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio:
“Mae’n wych gweld bod carfannau SBARC Ceredigion wedi gwthio’r cwch i’r dŵr. Mae’r rhaglen hon, a ddarperir mewn partneriaeth â Mentera a Thîm Cynnal y Cardi, yn rhan hanfodol o’n strategaeth i ddatblygu cyflogwyr y dyfodol a chryfhau’r gadwyn gyflenwi leol. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd lle gall talent lleol ffynnu, ac mae’r gweithgareddau sydd eisoes wedi’u gwneud gan yr entrepreneuriaid hyn yn dangos addewid mawr i economi a chymunedau Ceredigion.”