
Sioe Frenhinol Cymru 2025: Ymrwymiad Mentera i Economi Wledig Ffyniannus
Heddiw, cyhoeddodd Mentera ei raglen amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau yn Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir rhwng 21 a 24 Gorffennaf 2025 yn Llanelwedd. Gyda 35 mlynedd o brofiad yn cefnogi entrepreneuriaid a busnesau ledled Cymru a thu hwnt, bydd Mentera yn dathlu ei amrywiaeth o wasanaethau sy’n ceisio meithrin economi lewyrchus i Gymru.
Cred Mentera fod busnesau llwyddiannus yn allweddol i economi ffyniannus, a’i nod yw ysbrydoli a grymuso mentrau Cymreig am ddyfodol llewyrchus. Mae’r cwmni’n cynnig cyngor a chymorth o’r radd flaenaf trwy gyfrwng ei staff arbenigol, presenoldeb daearyddol cryf, a chysylltiadau cadarn ag arweinwyr y diwydiant, y Llywodraeth a phartneriaid eraill.
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:
“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn llwyfan anhygoel i arddangos a dathlu economi wledig Cymru. Rydyn ni yma i gysylltu â busnesau, cynnig ein harbenigedd, a thynnu sylw at werth y rhaglenni rydyn ni’n eu rheoli ar ran Llywodraeth Cymru – o arweiniad amaethyddol i gyngor i gynhyrchwyr bwyd a diod – er mwyn helpu busnesau i dyfu a ffynnu.”
Bydd y rheini fydd yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn cael sawl cyfle i ymwneud ag amrywiaeth o raglenni a reolir gan Mentera ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd gan raglen Cyswllt Ffermio – sy’n cynnig arweiniad, hyfforddiant ac ymchwil i ffermwyr Cymru – gynghorwyr, hyfforddwyr a mentoriaid wrth law ar ei stondin drwy gydol yr wythnos. Bydd gan raglen Arwain DGC hefyd, sy’n canolbwyntio ar Ddefnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol, bresenoldeb yn ardal CFfI Cymru bob dydd.
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn elwa o raglen Cywain, gyda chymorth arbenigol yn cael ei roi ar stondin brawf-fasnachu yn y Neuadd Fwyd. Bydd y stondin hon yn arddangos hyd at 16 o gynhyrchwyr bwyd a diod llawn addewid dros bedwar diwrnod y sioe. Ar lawr cyntaf y Neuadd Fwyd, mae Lolfa Fusnes ac Arddangosfa Bwyd a Diod Cymru wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Mentera. Mae’r Lolfa Fusnes yn cynnig arddangosfa gynnyrch i dros 300 o gynhyrchwyr bwyd a diod gysylltu â phrynwyr masnachol gwadd. Yn ogystal, bydd rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn hwyluso Taith Astudio’r Lolfa Fusnes. Bydd y daith hon yn cynnig cipolwg gwerthfawr i bobl ifanc ar y byd masnachol, gan roi cyfleoedd iddyn nhw rwydweithio a chysylltu â chynhyrchwyr a phrynwyr.
Nod Mentera yw creu economi lewyrchus i Gymru, wedi’i gyrru gan fusnesau ffyniannus sy’n sefyll yn hyderus ochr yn ochr â goreuon y byd. Disgwylir i lwyddiant y busnesau hyn arwain at dwf economaidd cynaliadwy, codi safonau byw, creu cymunedau mwy cydlynol, a diogelu’r amgylchedd.