Manylion
Arbenigedd staff yn rhoi menter a busnes ar lwyfan y byd

Arbenigedd staff yn rhoi menter a busnes ar lwyfan y byd

Mae arbenigedd Menter a Busnes mewn ffermio ac iechyd anifeiliaid wedi denu cydnabyddiaeth fyd-eang, gydag aelodau o staff yn barod i gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol gartref a thramor.

Bydd arbenigwyr o raglen arobryn Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol / Responsible Antimicrobial Use) a’r rhaglen gymorth amaethyddol flaenllaw, Cyswllt Ffermio, yn cyflwyno cyflwyniadau allweddol i gynulleidfaoedd arbenigol cyn belled ag Awstria ac Awstralia.

Mae’r ddwy raglen yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu darparu gan Menter a Busnes. Mae’r gwahoddiad i fynychu digwyddiadau mor uchel eu proffil yn dangos pwysigrwydd rhyngwladol y gweithgareddau a’r ymchwil a wneir gan dimau Menter a Busnes.

Bydd gwaith arloesol rhaglen Arwain DGC yn cael ei amlygu mewn cynhadledd ryngwladol yn Awstralia yn ddiweddarach y mis hwn (20-22 Tachwedd).

Bydd rheolwr y rhaglen, Dewi Hughes, yn annerch cynrychiolwyr yr Australian Veterinary Antimicrobial Stewardship Conference 2023 ac yn dweud wrthynt am waith Arwain DGC i helpu milfeddygon, ffermwyr a pherchnogion ceffylau i fynd i’r afael â lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) drwy leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau.

Cyhoeddwyd y gwahoddiad i gymryd rhan yn y gynhadledd yn dilyn llwyddiant Arwain DGC yn yr Antibiotic Guardian 2022 Shared Learning & Awards, a welodd waith y rhaglen arloesol yn cael ei gydnabod ochr yn ochr â gwaith sefydliadau a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dywedodd Dewi,

“Mae’n wych bod Arwain DGC yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am y gwaith arloesol y mae ffermwyr, milfeddygon a chynrychiolwyr diwydiant o Gymru wedi’i gyflawni gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

“Heb os, un o gryfderau allweddol y rhaglen yw dod â phobl ac arbenigedd ynghyd i ddarparu dull cydgysylltiedig i leihau’r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Yn ogystal â rhannu ein gwybodaeth, byddwn hefyd yn dysgu gan eraill ledled y byd sut i leihau’r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd, sy’n cael ei gydnabod fel bygythiad iechyd dynol ac anifeiliaid byd-eang mawr.”

Y mis nesaf, bydd Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio, yn gwneud cyflwyniad yng Nghynhadledd Flynyddol ar y Cyd y British Society of Soil Science a’r Soil Science Society of Ireland yn Belfast (4 a 5 Rhagfyr).

Thema gyffredinol y gynhadledd yw ‘Rheoli a Monitro Pridd’, a bydd Non yn siarad am waith Prosiect Pridd Cymru Cyswllt Ffermio wrth amcangyfrif y stociau carbon pridd ar ffermydd Cymru.

Nod y prosiect parhaus hwn, sydd yn ei ail flwyddyn, yw ymchwilio i ba raddau o amrywioldeb mewn stociau carbon pridd o fewn un system ffermio, yn ogystal â rhwng gwahanol systemau ffermio.

Dywedodd Non,

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050, a bydd canfyddiadau’r prosiect Cymru gyfan hwn yn berthnasol i’r her hon.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod ein hastudiaeth gyda chyd-gynrychiolwyr cynhadledd o wledydd eraill a dangos sut yng Nghymru, mae Cyswllt Ffermio yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr i ddarparu data gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio fel meincnod yn y dyfodol, fesul fferm. Hefyd, i ddefnyddio’r cyfoeth o wybodaeth o fewn y cymunedau ffermio a gwyddonol i leihau’r bwlch rhwng ymchwil arbrofol a chymhwyso ymarferol o fewn y diwydiant amaethyddol mewn perthynas â charbon pridd.”

Yn y flwyddyn newydd, bydd yn dro i Hwylusydd Olyniaeth Cyswllt Ffermio, Dr Eiry Williams gamu i’r llwyfan pan fydd hi’n cymryd rhan mewn panel arbenigol yn yr Oxford Real Farming Conference (4 a 5 Ionawr).

Mae’n gyfrifol am hyrwyddo’r angen am drafodaethau agored ar olyniaeth, cydlynu sefydlu mentrau ar y cyd, a chynorthwyo’r rhai sydd am ddechrau ffermio a’r rhai sy’n dymuno camu’n ôl o’r diwydiant.

Dywedodd Eiry, “Mae’r Oxford Real Farming Conference yn gyfle gwych i gyfleu’r neges am y cyfleoedd sy’n bodoli i ddod â’r ffermwyr hynny sy’n dymuno camu’n ôl o’u busnesau ffermio at ei gilydd, a hefyd i newydd-ddyfodiaid sydd am ddechrau eu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth.

I Eiry, sydd wedi cymryd rhan mewn nifer o gynadleddau tra’n astudio ar gyfer ei Doethuriaeth, mae cael gwahoddiad eleni fel aelod o’r panel yn garreg filltir bersonol, ac mae’n canmol Menter a Busnes am ei galluogi i ddatblygu ei sgiliau.

Dywedodd, “Mae galluogi aelodau’r tîm i gymryd rhan mewn digwyddiadau mor bwysig yn y diwydiant yn dangos ymhellach enw da Menter a Busnes fel canolbwynt arbenigedd yn y sector amaethyddol.”

Ym mis Chwefror, bydd Rheolwr Datblygu Milfeddygol Arwain DGC, Dr Gwen Rees, yn mynd i Awstria i roi’r cyflwyniad gwadd yn un o’r prif gynadleddau ar ddefnyddio gwrthfiotigau yn Ewrop.

Cynhelir cynhadledd AACTING (Network on quantification of veterinary Antimicrobial usage at herd level and Analysis, CommunicaTion and BenchmarkING to improve responsible usage) yn Fienna ar 1 a 2 Chwefror.

Dywedodd Gwen,

“Bydd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar feintioli, meincnodi, a stiwardiaeth defnydd gwrthficrobaidd milfeddygol – felly bydd yn gynulleidfa bwysig i rannu llwyddiannau gwaith arobryn Arwain DGC â hi, gan gynnwys y Rhwydwaith Pencampwyr Presgripsiynu Milfeddygol.

“Bydd hefyd yn gyfle gwych i glywed am y byd yn y maes hwn ynghyd â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein cydweithwyr ledled Ewrop.”

Explore our latest postsBlog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024 Bragwyr Cymreig wedi’u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â’u bragdai i’r lefel nesaf Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf
Explore our latest postsBlog Llŷr – Canlyniadau Arolwg Staff 2024 Bragwyr Cymreig wedi’u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â’u bragdai i’r lefel nesaf Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf