Manylion

O’r fro i’r byd

Mentera 2024-2030

Cyflwyniad

Mae Mentera wedi bod yn ysbrydoli a chefnogi pobl a busnesau ledled Cymru ers 1989. Dros y cyfnod hwnnw, rydym wedi ennill enw da am greadigrwydd a rhagoriaeth. Rydym yn cael ein cydnabod fel arbenigwyr, ac yn ddarparwr blaenllaw o gyngor a chymorth i entrepreneuriaid a busnesau.

 

Rydym yn ddigyffelyb yn ein gallu i ddarparu ystod eang o wasanaethau yn ddwyieithog. Yn ogystal, mae ein staff, sy’n wybodus ac egnïol, wedi eu gwreiddio’n lleol, sy’n ein galluogi i ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd darpar entrepreneuriaid a pherchnogion busnes yn eu milltir sgŵar eu hunain.

Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein hanes o weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a darparu gwasanaethau, gan gynnwys rheoli ymyriadau eang ar ran arianwyr mewn ffordd drylwyr.

Yn dilyn penodi aelodau newydd i’r Bwrdd, penodi prif weithredwr newydd, a newidiadau sylweddol i’r dirwedd ariannu, dyma gyfle i osod cyfeiriad clir i’n cwmni ar gyfer y cyfnod nesaf. Gyda hyn mewn golwg, cynhaliwyd adolygiad o hyd a lled ein gwaith, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n berthnasol i’n cleientiaid, ac yn parhau i feithrin a chefnogi busnesau gwydn a chynaliadwy ledled Cymru.

O ganlyniad, mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein pwrpas, ein gweledigaeth a’r egwyddorion craidd hynny a fydd yn sail i’n holl waith dros y chwe blynedd nesaf.

Pwrpas

Pwrpas

Rydym ni’n ysbrydoli busnesau a chymunedau i fod yn fentrus, ac yn eu galluogi i ffynnu – yn lleol ac yn rhyngwladol.

Rydym yn helpu busnesau bach a mawr i dyfu a ffynnu wrth annog a chefnogi pobl i sefydlu busnesau newydd, arloesol. Rydym yn cyflawni hyn ledled Cymru wrth deilwra gwasanaethau o safon uchel, a chan fanteisio ar arbenigedd ein pobol, ein presenoldeb daearyddol a’n cysylltiadau cryf ag arweinwyr diwydiant, llywodraeth a phartneriaid eraill.

Gweledigaeth

Gweledigaeth

Economi lewyrchus i Gymru sy’n cael ei gyrru gan gymuned gref o fusnesau llwyddiannus, o safon ryngwladol.

Wrth ddarparu cefnogaeth fusnes o’r radd flaenaf, byddwn yn ysbrydoli a chefnogi pobl i sefydlu ac arwain busnesau llwyddiannus, arloesol ac uchelgeisiol. Bydd llwyddiant y busnesau hyn yn arwain at dwf economaidd cynaliadwy yng Nghymru, gan godi safonau byw, creu cymunedau mwy cydlynus a gwarchod yr amgylchedd.

Egwyddorion Craidd

Mae ein gwaith a’n gwasanaethau oll yn seiliedig ar yr egwyddion craidd canlynol:
person-vr.svg
Meithrin Arloesedd

Rydym yn uchelgeisiol, yn angerddol ac yn ysbrydoli eraill wrth gynnig datrysiadau creadigol, ymarferol a chynaliadwy o’r safon uchaf.

people-meeting.svg
Gweithredu’n Ddeinamig

Rydym yn ystwyth ac yn flaengar, yn frwdfrydig, ac yn addasu’n bositif i farchnadoedd a chyfleoedd sy'n newid yn barhaus.

person-presenting-2.svg
Gwneud Gwahaniaeth

Rydym yn rhoi pobl wrth galon ein gwaith, ac yn sicrhau gwahaniaeth hirdymor drwy weithio mewn modd cynhwysol a phwrpasol.

Sut rydym yn gweithio

Mae’r ffordd rydym yn gweithio wedi ei siapio gan egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym bob amser yn gweithio yn y modd canlynol:
person-presenting.svg
Canolbwyntio ar y cleient

Rydym yn gweithio i sefydlu perthynas adeiladol â busnesau, gan ddod i ddeall eu hanghenion a’u huchelgais, a defnyddio ein deallusrwydd a’n cysylltiadau i’w helpu i ddod o hyd i atebion. Rydym bob amser eisiau’r gorau i’n cleientiaid ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i'w helpu i arloesi, datblygu a thyfu.

people-desk.svg
Cydweithredol

Rydym yn gweithio gydag eraill pan all hynny ychwanegu gwerth i’n cleientiaid neu agor drysau ar arbenigedd neu farchnadoedd newydd.

person-gardening.svg
Cynaliadwy

Rydym yn edrych y tu hwnt i allbynnau uniongyrchol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac effeithiau hirdymor yr hyn a wnawn. Defnyddiwn ein hadnoddau’n effeithlon ac yn gymesur wrth gynllunio a darparu.

person-tractor.svg
Cymreig

Rydym wedi ein gwreiddio yng Nghymru ac yn angerddol am yr iaith Gymraeg a diwylliant ein gwlad. Rydym yn defnyddio a hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg yn feunyddiol ac yn hybu brand a busnesau Cymru.

Ymrwymo i ragoriaeth a gwella’n barhaus

Rydym yn ymrwymo i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol a fydd yn ysgogi newid cadarnhaol o fewn ein cwmni, er mwyn ei wneud yn weithle mwy effeithiol ac effeithlon. Credwn fod ein gallu i weithredu’n effeithiol yn seiliedig ar y canlynol:

team meeting at board with post it notes

Llywodraethiant

Rydym yn sefydliad sy'n gweithredu ar sail gwerthoedd, ac yn anelu i fodloni'r safonau proffesiynol a moesegol uchaf bob amser. Rydym yn gwerthuso ac yn diweddaru ein strwythurau a’n ffordd o weithio yn rheolaidd, ac yn datblygu systemau llywodraethu cadarn a thryloyw sy’n golygu bod gennym ganllaw gref ar gyfer ymddygiad a gwneud penderfyniadau. Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn yn datblygu dull gweithredu sy’n mynd ar drywydd cynaliadwyedd, cynhwysiant, a thwf economaidd.

Pobl

Rydym yn ymwybodol bod llwyddiant yn dibynnu ar ein hadnodd mwyaf hanfodol, sef ein pobl, ein staff. Ein pobl sy’n cael syniadau, yn datrys problemau, yn gwneud penderfyniadau ac yn gweld cyfleoedd i wella’r sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd datblygu i staff er mwyn creu gweithlu sydd, nid yn unig â sgiliau cryf, ond hefyd yn meddu ar brofiad ymarferol yn eu maes gwaith. Bydd gweithlu amrywiol, a gwasgariad daearyddol staff, hefyd yn allweddol wrth i ni gefnogi twf busnesau a chleientiaid.

Technoleg

Ein nod yw gwreiddio technoleg ddigidol ym mhob maes o'n cwmni, gan newid yn sylfaenol sut rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau i'n cleientiaid. Byddwn yn gwneud hyn wrth herio’r drefn yn barhaus, ac wrth arbrofi â dulliau newydd a gwahanol er mwyn dod yn sefydliad mwy effeithlon ac effeithiol. Rydym yn awyddus i ddatblygu’r sgiliau, y systemau a'r bobl angenrheidiol er mwyn addasu i ddatblygiadau technolegol a thueddiadau'r dyfodol.

Delwedd

Wrth i ni osod sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol economi Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio mewn modd cydweithredol i ddatblygu delwedd ein cwmni a delwedd Cymru. Mae sicrhau delwedd allanol bositif ymysg y cyhoedd, cleientiaid, ymwelwyr a rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd. Byddwn yn cyfoethogi a chryfhau delwedd y cwmni ac yn gweithredu ar ran y gymuned fusnes i ddylawnadu ar gefnogaeth y dyfodol.
team meeting at board with post it notes

Cyd-destun Strategol

Dros y chwe blynedd nesaf, bydd amryw o ddatblygiadau byd-eang yn effeithio ar gymdeithas ac economi Cymru. Bydd rhai datblygiadau yn cynnig cyfleoedd cyffrous i unigolion a busnesau, tra bod eraill yn debygol o greu heriau.

Dyma rai o’r datblygiadau a all effeithio ar fusnesau ac, felly, ar ein gwaith ni:

Cymdeithasol-Economaidd


  • Poblogaeth sy’n heneiddio, sydd wedyn â goblygiadau o ran maint a sgiliau’r gweithlu.
  • Amodau economaidd ansicr, megis effeithiau Brexit, pandemig Covid, tensiynau gwleidyddol byd-eang, chwyddiant a chostau benthyg uchel.

Technolegol


  • Mae technoleg yn arf a all drawsnewid y ffordd y mae busnesau'n gweithredu. Gall leihau costau, gwella cynhyrchiant, cynnig mynediad at farchnadoedd newydd, a gwella profiad y cwsmer.
  • Nid ydym eto wedi deall yn llawn oblygiadau dyfodiad Deallusrwydd Artiffisial (AI), ond mae’n debygol o gynnig cyfleoedd a heriau i fusnesau.
  • Mae’r galw a’r gystadleuaeth am sgiliau technolegol yn debygol o gynyddu.

Amgylcheddol


  • Yn gynyddol, mae materion amgylcheddol yn dod i’r amlwg ac yn dylanwadu fwyfwy ar benderfyniadau ac ymddygiad busnesau ac unigolion.
  • Mae sectorau amaethyddiaeth, prosesu bwyd a diod, ac ynni gwyrdd yn sectorau allweddol bwysig i economi Cymru, ac wedi eu nodi fel rhai a all chwarae rhan bwysig wrth helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Iaith


  • Mae posibilrwydd y bydd yn dod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau bod eu staff yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwleidyddol


  • Llywodraeth Cymru o dan bwysau ariannol ac, yn sgil hynny, yn gorfod blaenoriaethu, a hynny o bosib mewn meysydd lle nad ydym yn gweithredu.
  • Gostyngiad yn yr arian cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi busnesau a chymunedau.
  • Gostyngiad sylweddol yn y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fusnesau a chymunedau gwledig

Ysbrydoli: Rhyddhau ysbryd entrepreneuraidd Cymru

Quote

Rydym ni'n ysbrydoli pobol a busnesau yn frwdfrydig wrth adrodd straeon real a chymhellol

Quote

Dyma sut byddwn yn gwneud hyn:

  • Meithrin agweddau mentrus ymhlith pobl ifanc trwy weithio gyda’r sector addysg i gynnig gweithdai i bobl ifanc, dod â nhw i gysylltiad â busnesau a’u cefnogi i ddatblygu eu syniadau busnes eu hunain.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Creu cymuned o entrepreneuriaid sy’n awyddus i ddysgu wrth ei gilydd a gyda’i gilydd, er mwyn sbarduno syniadau ac arloesedd.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Gweithio gyda phartneriaid i sefydlu hybiau menter sydd ag awyrgylch cyffrous a chydweithredol, ble gellir cael mynediad at wasanaethau a chyngor busnes safonol ac amserol.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Cynllunio a rhoi ar waith strategaeth gyfathrebu i ysbrydoli pobl a busnesau, gan greu bwrlwm am fentro, a sefydlu ein hunain fel y corff sy’n cynrychioli mentergarwch mewn cymunedau ledled Cymru.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Manteisio ar bwêr partneriaethau strategol er mwyn cynyddu effaith, cynnig arbedion effeithlonrwydd a chyfleoedd arloesol.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Rhannu arfer da a thynnu sylw at bynciau allweddol trwy gyfres o ddigwyddiadau cyfoes a chyffrous gyda’r gymuned fusnes, ein partneriaid, a’n rhanddeiliaid.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd

Darparu: cefnogi ffyniant pobl a busnesau

Quote

Rydym ni'n angerddol dros gefnogi busnesau Cymru i arloesi, tyfu a ffynnu, drwy rannu ein harbenigedd, creu cysylltiadau a darparu cymorth pwrpaso

Quote

Dyma sut byddwn yn gwneud hyn:

  • Helpu i lansio ac egnïo’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid wrth ddarparu cyngor arbenigol, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio a chymorth i gael gafael ar fenthyciadau a chyllid grant.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Helpu busnesau sefydledig i ehangu a thyfu wrth ddarparu cymorth wedi'i deilwra, mentora pwrpasol a mynediad at arbenigwyr yn eu diwydiant
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Sicrhau bod adnoddau digidol sy’n benodol i’r sector ar gael ac annog y defnydd ohonynt i gynorthwyo datblygiad a thwf busnes, gan fanteisio ar ein harbenigedd, ein profiad a’n cysylltiadau.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i redeg rhaglenni cronfa her a chynlluniau grant sy’n ymgysylltu ag unigolion, busnesau a chymunedau, ac yn ysgogi arloesedd a menter.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Sicrhau darpariaeth gyson, gyfartal ac o safon wrth gefnogi unigolion a busnesau mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd

Arloesi: torri tir newydd i greu dyfodol gwell

Quote

Rydym ni’n arloesi, gan ddatblygu ein harbenigedd presennol a chryfhau ein dealltwriaeth, ein darpariaeth a'n dulliau.

Quote

Dyma sut byddwn yn gwneud hyn:

  • Datblygu ein cryfderau a’n cysylltiadau presennol er mwyn sefydlu gwasanaethau newydd mewn meysydd neu sectorau sy’n ychwanegu at ein harbenigedd.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Ymchwilio marchnadoedd newydd a chyfleoedd i arloesi, gan weithio gyda’n partneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol, lle gall hynny ychwanegu gwerth.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Archwilio sut gallwn ddefnyddio technoleg er mwyn cysylltu â'n cwsmeriaid, a’u gwasanaethu yn fwy effeithiol, ac i wneud gwell defnydd o'n hadnoddau.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Dylunio a threialu pecynnau cymorth trawiadol sy’n mynd i’r afael â heriau busnes penodol, i’w ddarparu mewn ffordd gyson ac o safon, yn rhithwir ac mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Datblygu a gwella gwasanaethau ymgynghori busnes arbenigol i'w darparu ar sail fasnachol, gan ddatblygu ein harbenigedd mewn sectorau busnes allweddol.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd

Eirioli: Dylanwadu ar bolisi ac ymarfer

Quote

Rydym ni’n chwaraewr allweddol ym maes cymorth busnes yng Nghymru ac rydym yn awyddus i gydweithio â'n partneriaid i rannu, dysgu a gwella'r ffordd y caiff busnesau eu cefnogi.

Quote

Dyma sut byddwn yn gwneud hyn:

  • Ymyrryd ar ran busnes trwy rannu adborth a gwybodaeth am faterion sy'n effeithio arnynt gyda llunwyr polisi.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i helpu i lunio polisïau a rhaglenni sy'n mynd i'r afael ac anghenion busnesau.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Gweithio gyda’n partneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol i adnabod a rhannu arferion da o ran cynghori a chefnogi busnesau er mwyn gwella gwasanaethau a darparu’r hyn mae busnesau ei angen.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd
  • Cyhoeddi asesiad o effaith economaidd a chymdeithasol y cwmni.
Heb
ei
gyflawni
ar
waith
cwblhawyd

Mesur Llwyddiant

Rydym yn ymrwymo i adolygu ac adrodd ar ein perfformiad yn flynyddol. Byddwn hefyd yn mesur effaith ein gweithgareddau ar yr unigolion a’r busnesau rydym yn eu cefnogi.Dyma’r prif fesurau y byddwn yn eu defnyddio i asesu ein perfformiad rhwng nawr a 2030, gyda fframwaith perfformiad llawnach i olrhain effeithiolrwydd ac effeithiau rhaglenni a gweithgareddau unigol.

Gwasanaethau

Darparu gwasanaeth o ansawdd aruchel i'n cleientiaid a'n cwsmeriaid.

Perfformiad

Cryfhau ein perfformiad masnachol fel cwmni.

Cynaliadwyedd

Sicrhau dyfodol ffyniannus i'r cwmni - a gorged y gellid ei ail-fuddsoddi er lles.

Delwedd

Codi ein statws fel prif ddarparwr gwasanaethau busnes Cymru. Cwmni y gellid ymddiried ynddo.

Dylanwad

Cynyddu ein impact economaidd a chymdeithasol

Lawrlwythwch y ddogfen strategaeth

Lawrlwythwch ein dogfen strategaeth fel PDF

Lawrlwythwch