Manylion

Treialon IoT Amaethyddiaeth Glyfar

Oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio mwy o dechnoleg i gefnogi eich gwaith o ddydd i ddydd ar y fferm?

Mae ffermwyr ledled gogledd Cymru yn cael cyfle i dreialu yr arloesiadau a thechnolegau amaethyddol diweddaraf wrth i rwydwaith newydd yng ngogledd Cymru gael ei lansio dros yr haf.

Mae’r prosiect treialon IoT Amaethyddiaeth Glyfar wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a bydd yn cael ei gyflawni gan Mentera ar ran Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae Mentera bellach yn chwilio am 16 o ffermydd ledled gogledd Cymru i ymuno â’r rhwydwaith newydd.

Ydych Chi'n Barod i Arloesi Eich Fferm?

Gellir cyflwyno ceisiadau am ddatganiad o ddiddordeb yma.

Ymgeisiwch yma

Pwy rydyn ni’n chwilio amdano?

Pwy rydyn ni’n chwilio amdano?

Mae Mentera yn chwilio am geisiadau gan ffermwyr brwdfrydig, uchelgeisiol a blaengar yng ngogledd Cymru sydd eisiau datblygu eu busnesau a’u defnydd o dechnoleg.

Ydych chi’n ffermio yn un o’r ardaloedd hyn: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn neu Wrecsam?

Bydd ffermydd o’r sectorau llaeth, cig coch, moch, dofednod, ffermio âr a garddwriaeth o ardaloedd hyn yn gallu ymuno â’r rhwydwaith.

Pam Ymgeisio?

Pam Ymgeisio?

  • Ymunwch â rhwydwaith newydd, cyffrous a fydd yn ariannu treialon ‘ar y fferm’ gan ganolbwyntio ar dechnoleg amaeth glyfar.
  • Bydd y ffermydd a ddewisir yn elwa o gymorth prosiect sylweddol ac arweiniad gan arbenigwr Tech-Amaeth (a ariennir yn llawn).
  • Mae’r holl offer yn cael ei ddarparu a’i osod, gyda’r dewis i barhau i’w ddefnyddio os yw’r treial yn profi’n fuddiol.
  • Harneisio pŵer y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a LoRaWAN (Long Range Wide Area Network) i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd eich fferm, gan eich helpu i gyrraedd eich nodau busnes.

Straeon Llwyddiant o Dreialon Blaenorol

Mae ffermydd sydd wedi bod yn rhan o rwydweithiau tebyg a ddarparwyd gan Mentera yn flaenorol wedi dysgu pa dechnolegau sy’n gweithio’n dda i arwain at fuddion pendant. Mae enghreifftiau o dreialon blaenorol ar ffermydd gan ddefnyddio LoRaWAN trwy Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnwys:

 

 

Optimeiddio’r Defnydd o Slyri

Ar fferm arddangos ger Caergybi, defnyddiwyd synwyryddion LoRaWAN i fonitro lleithder a thymheredd y pridd mewn amser real. Galluogodd hyn y ffermwr i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata ynghylch pryd i daenu slyri a gwneud y mwyaf o’i effeithiolrwydd, gan leihau’r risg o faetholion yn llifo i ffwrdd a llygredd.

Gwell Rheolaeth ar Ddŵr

Mae synwyryddion LoRaWAN wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus i roi data amser real ar lefelau dŵr mewn cafnau a thanciau. Mae hyn nid yn unig yn rhoi tawelwch meddwl i ffermwyr, ond hefyd yn helpu i nodi gollyngiadau’n gyflym, gan arbed dŵr a lleihau costau.

Monitro Da Byw a Seilwaith

Mae treialon ar ffermydd wedi dangos sut mae modd defnyddio LoRaWAN i dracio da byw a monitro seilwaith fferm. Mae modd defnyddio’r dechnoleg hon i atal lladrad da byw, rheoli patrymau pori, a gwirio statws gatiau neu beiriannau o bell, gan arbed amser a gwaith.

Cnydio Manwl Gywir ac Iechyd y Pridd

Drwy ddefnyddio probiau pridd sy’n galluogi LoRaWAN, mae ffermwyr wedi cael gwybodaeth werthfawr ar iechyd y pridd, gan gynnwys lefelau lleithder, pH, a chyfansoddiad maetholion. Mae’r data yma’n caniatáu i ffermwyr ddefnyddio dŵr a gwrtaith yn fwy manwl gywir, gan arwain at fwy o gynnyrch, llai o wastraff, a phridd a chanddo ecosystem iachach.

Siwan Howaston, Pennaeth Technegol gyda Mentera

Quote

“Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr yng ngogledd Cymru fod ar flaen y gad o ran arloesi amaethyddol. Mae mabwysiadu technolegau fel LoRaWAN yn hanfodol i greu busnesau fferm mwy gwydn, cynhyrchiol a chynaliadwy. Rydyn ni’n annog pob ffermwr sydd â diddordeb i ymgeisio a’n helpu i adeiladu dyfodol mwy technolegol datblygedig i amaeth yng ngogledd Cymru.”

Quote

Y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Arweiniol Rhaglen Cysylltedd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Gwynedd

Quote

“Mae gan y prosiect hwn botensial trawsnewidiol sylweddol i’r ffermwyr sy’n cymryd rhan. Mae’r holl offer yn cael ei ddarparu a’i osod, gyda’r dewis i barhau i’w ddefnyddio os yw’r treial yn profi’n fuddiol – felly mae gwir botensial i elwa’n fawr."

Quote

Dyddiadau Pwysig

  • Ffenestr Ymgeisio: O ddydd Mercher, 30 Gorffennaf 2025, tan hanner nos ddydd Mercher, 27 Awst 2025.
  • Hysbysu Canlyniad Cais: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 1 Medi 2025.
  • Cynhelir y Treialon ar y Fferm: Rhwng mis Medi 2025 a 1 Chwefror 2026.

Ydych Chi'n Barod i Arloesi Eich Fferm?

Gellir cyflwyno ceisiadau am ddatganiad o ddiddordeb yma.

Ymgeisiwch yma