Manylion

Smart Agriculture IoT Trials

Mae 16 fferm ledled gogledd Cymru wedi cael cyfle i dreialu’r technolegau digidol diweddaraf sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael â rhai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Bydd pŵer y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thechnolegau LoRaWAN (Long Range Wide Area Network) yn ganolog i’r rhwydwaith cyffrous newydd hwn i ffermwyr. Ariennir y prosiect Treialon IoT Amaethyddiaeth Glyfar yn llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac fe’i darperir gan gwmni Mentera ar ran Uchelgais Gogledd Cymru drwy ei Raglen Ddigidol. 

Dyma fanylion y ffermydd sy’n rhan o’r cynllun:

Thomas Bletcher, Fferm Argoed Hall, Yr Wyddgrug

Thomas Bletcher, Fferm Argoed Hall, Yr Wyddgrug

Iechyd a Lles y Fuches: Amgylchedd a Dŵr Gwartheg Dan Do  

  •  Llaeth 
  • 300 hectar 
  • 450 o fuchod 
  • Mae’r busnes yn cadw ei anifeiliaid cyfnewid ei hun 
  • Mae’n tyfu ei wenith ac indrawn ei hun 

Cynnal iechyd a lles y fuches: 

Monitro amodau amgylcheddol siediau (tymheredd, lleithder a CO2) i sicrhau lle byw addas a chyfforddus er mwyn sicrhau bod yr anifeiliaid mor fodlon â phosibl.  

Monitro’r defnydd o’r tanc dŵr yn siediau’r fuches laeth i sicrhau bod dŵr glân yn cael ei gyflenwi’n barhaus – os yw’r defnydd o ddŵr yn lleihau’n sylweddol / yn stopio, gall cafnau gael eu baeddu. 

  •  Synwyryddion Tymheredd, Lleithder a CO2 (SenseCap S2103) 
  • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored ar gafnau (Dragino SW3L-LB/LS) 

 

Rhodri Jones,  Brynllech, Gwynedd

Rhodri Jones,  Brynllech, Gwynedd

Monitro’r System Ddŵr: Canfod Problemau Cyflenwi 

  • Fferm fynydd 
  • 265 hectar 
  • Biff a Defaid 

Mae’r busnes yn cadw ei anifeiliaid cyfnewid ei hun 

Mae’n gwella ei hunangynhaliaeth o ran protein ar gyfer y da byw drwy wneud y defnydd mwyaf o borthiant (glaswellt, meillion gwyn a choch) 

Mae’n monitro’r system ddŵr sydd newydd ei datblygu ar y fferm i ganfod problemau’n gynnar a mesur effeithlonrwydd ac argaeledd dŵr, gan gynnwys glawiad, er mwyn gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

  • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB/LS) 
  • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120) 
  • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010) 

David Williams, Fferm Clawdd Offa, Sir y Fflint

David Williams, Fferm Clawdd Offa, Sir y Fflint

Monitro’r Pridd a’r Tywydd i Optimeiddio’r Cynhyrchiant o Laswellt 

  • Fferm Laeth  
  • 150 hectar 
  • 260 o wartheg Jersey X yn lloia  
  • Godro unwaith y dydd   
  • System sy’n seiliedig ar borfa   

Monitro’r Pridd a’r Tywydd i Optimeiddio’r Cynhyrchiant o Laswellt 

Synhwyrydd tywydd i fonitro amodau amgylcheddol ledled y fferm, nodi patrymau a chydberthnasoedd â lleithder ac iechyd y pridd, ac wedi hynny gyda’r cynhyrchiant o laswellt. 

Mesur amodau’r pridd (tymheredd, lleithder ac EC) i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

  • Synhwyrydd Lleithder Pridd, Tymheredd ac EC 
  • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)   

David Round, Cwr Du, Llanfairpwll

David Round, Cwr Du, Llanfairpwll

Synhwyro Pridd Perllan i Gynhyrchu Ffrwythau yn Effeithlon 

  • Fferm 70 acer sy’n canolbwyntio ar arallgyfeirio  
  • Organig 
  • Diadell fechan o ddefaid brid prin 
  • Prif ffocws arallgyfeirio: coed ffrwythau arbenigol/uchel eu gwerth, sef eirin ysgaw a helyg y môr a chynhyrchion uniongyrchol i ddefnyddwyr (diodydd) 
  • Fferm solar fechan 

 Synhwyro pridd mewn perllan i gynhyrchu ffrwythau’n effeithlon. 

  • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB) 
  • Synhwyrydd pH Pridd (Dragino SPH01-LB) 

Llyr Jones, Derwydd, Llanfihangel Glyn Myfyr

Llyr Jones, Derwydd, Llanfihangel Glyn Myfyr

Canfod Problemau mewn Sied Ddofednod: Dŵr a Golau 

  • Llaeth, Biff a Defaid 
  • Ieir Dodwy Maes ac Organig  
  • Yn cyflenwi wyau i Tesco 
  • Fferm ucheldir 
  • 500 hectar 

Canfod problemau mewn sied ddofednod: dŵr a golau: 

Monitro’r dwyster golau yn y siediau dofednod. Anfonir rhybudd pan fydd yn wahanol i’r amodau gorau posibl, yn enwedig ar adegau pan nad yw staff yn bresennol (dros nos). 

Monitro argaeledd dŵr a nodi problemau cyflenwi dŵr yn brydlon er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus, glân o ddŵr ac atal cymhlethdodau posibl.  

  • Synhwyrydd Dwysedd Golau Di-wifr (SenseCap S2102)  
  • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB/LS) 
  • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB) 

Rhodri Wyn Jones, Fronalchen, Gwynedd

Rhodri Wyn Jones, Fronalchen, Gwynedd

Monitro’r System Ddŵr: Canfod Problemau Cyflenwi 

  • Fferm Biff a Defaid 
  • 120 hectar 
  • Fferm Iseldir ac Ucheldir  
  • Magu lloi  
  • Arallgyfeirio – Maes Gwersylla a Pharc Carafannau Fronalchen 

Monitro’r system ddŵr ar y fferm: 

Monitro’r system ddŵr ar y fferm i ganfod problemau’n gynnar a mesur argaeledd dŵr, gan gynnwys glawiad, a hygyrchedd mewn caeau ar wahân (dŵr mewn tanciau) er mwyn gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

Gorsaf dywydd i fonitro amodau amgylcheddol ledled y fferm, sy’n ddefnyddiol i sefydlu rhybuddion ar gyfer trothwy tymheredd o amgylch rhewi (rheoli pibellau rhewi). 

  • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB/LS) 
  • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120) 
  • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010) 

Huw Roberts, Fferm Hafod Wen, Wrecsam

Huw Roberts, Fferm Hafod Wen, Wrecsam

System Rybuddio ar gyfer Gweithrediadau a Diogeledd y Fferm 

  • Buchod Lim X Sugno  
  • Fferm 60 hectar  
  • Mae’r fferm yn cadw ei heffrod cyfnewid ei hun  
  • Mae’n tyfu 40 erw o ŷd bob blwyddyn  

System Rybuddio Gweithrediadau a Diogeledd y Fferm 

Monitro’r felin fwydo a’r cymysgydd i ddiffodd unwaith y bydd y bin storio yn llawn. 

Gwella system ddiogeledd y fferm gan ddefnyddio synwyryddion sy’n ymateb i symudiad cerbyd ar y lôn/iard. Bydd monitro o bell gan ddefnyddio system rybuddio yn rhoi tawelwch meddwl pan fydd staff i ffwrdd. 

  • Synhwyrydd Pellter Radar Microdon (Dragino MDS120-LB/LS) 
  • Synhwyrydd Torri Pelydryn Is-goch 

Phillip Hughes, Swyddfa Hendwr, Corwen

Phillip Hughes, Swyddfa Hendwr, Corwen

Giatiau Clyfar ar gyfer Diogelwch Da Byw 

  • Biff a Defaid  
  • > 400 hectar ar wasgar dros sawl parsel o dir  
  • 80 hectar o iseldir, 80 hectar o ffridd, 240 hectar o dir mynydd 
  • 1000 o famogiaid bridio wedi’u rhannu’n ddwy ddiadell 
  • Yn magu 280 o loi biff ar gontract 
  • Mae arallgyfeiriadau yn cynnwys safle gwersylla a gwaith treulio anaerobig  

Synwyryddion agor/cau giatiau: Mae trespaswyr yn achosi problemau’n gyson mewn ardaloedd bryniog anghysbell drwy adael gatiau ar agor 

  • Giât Awyr Agored LoRaWAN 4G/Solar  
  • Synhwyrydd Cau/Agor Drysau/Giatiau Awyr Agored (Dragino DS03A-LB/LS) 

Dylan Hughes, Llanllibio Groes 

Dylan Hughes, Llanllibio Groes 

Monitro’r Pridd a’r Tywydd i Optimeiddio’r Cynhyrchiant o Laswellt 

  • Biff a Defaid  
  • 240 o aceri yn un ar gyfer biff a defaid 
  • 350 o aceri ar gyfer pori yn y gaeaf 
  • 400 o famogiaid bridio ynghyd â 130 o loi stôr 
  • Ŵyn ym mis Rhagfyr, mis Chwefror a mis Mawrth, tewhau ŵyn gartref. 

Monitro’r pridd a’r tywydd i optimeiddio’r cynhyrchiant o laswellt 

  • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB)   
  • Synhwyrydd pH Pridd (Dragino SPH01-LB) 
  • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)   

James Gould, Meadow House, Wrecsam

James Gould, Meadow House, Wrecsam

Monitro’r System Ddŵr: Canfod Problemau Cyflenwi 

  • Ffermio defaid 
  • Fferm iseldir  
  • 52 hectar 
  • 110 o ddefaid 
  • Caeau pori is sy’n dueddol o gael llifogydd (mor isel â 10 troedfedd uwchben lefel y môr)  
  • Mae’r caeau wedi’u rhannu’n padogau ar gyfer pori cylchdro  

Monitro cyflenwad dŵr y prif gyflenwad i olrhain defnydd, pwysedd, a chanfod gollyngiadau posibl a phroblemau cyflenwi sy’n digwydd (mesuryddion llif dŵr, mesurydd pwysedd). 

  • Synhwyrydd Pwysedd Dŵr/Aer (Dragino PS-LB) 
  • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010)   
  • Mesurydd Dŵr Clamp a Synhwyrydd Gollyngiadau 

Sian a Llion Jones, Moelogan Fawr, Llanrwst

Sian a Llion Jones, Moelogan Fawr, Llanrwst

Monitro’r System Pwmp Dŵr Solar: Canfod Namau ac Olrhain Defnydd 

  • Dechreuwyd rheoli’r fferm yn 2018 
  • 150 o wartheg Stabiliser 
  • 800 o famogiaid mynydd Cymreig 
  • Fferm fynydd ag iddi fannau sydd wedi’u gwella’n sylweddol 
  • 330 hectar 

Monitro’r System Pwmp Dŵr Solar: Canfod Namau ac Olrhain Defnydd 

  • Synhwyrydd Pwysedd Aer/Dŵr – Math Trochi (PS-LB/LS-I) 
  • Synwyryddion Llif Dŵr Awyr Agored (Dragino SW3L-LB-010)   
  • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)     
  • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB) 

Sion Roberts, Pennant, Powys

Sion Roberts, Pennant, Powys

Gwella Iechyd a Chynhyrchiant Da Byw: Iechyd y Pridd, Dŵr, a Rheoli Siediau 

  • Fferm fynydd 
  • 325 hectar 
  • Biff a Defaid 
  • Yn magu lloi hyd nes eu bod yn 12 mis oed 
  • Cedwir diadell o ddefaid mynydd Cymreig a diadell groesfrid, a gwerthir ŵyn tewion yn fyw 
  • Arallgyfeirio’r busnes fferm: Cabanau gwyliau gwledig (Gwyliau Pennant Holidays) 

Gwella Iechyd a Chynhyrchiant Da Byw:  

Mesur argaeledd dŵr a nodi problemau o ran y cyflenwad dŵr os byddan nhw byth yn digwydd. 

Mesur a monitro amgylchedd siediau’r lloi er mwyn sicrhau’r iechyd a’r perfformiad gorau posibl. 

Mesur amodau’r pridd (tymheredd a lleithder) i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus. 

  • Synwyryddion Tymheredd, Lleithder a CO2 (SenseCap S2103)   
  • Synwyryddion Canfod Pellter Uwchsain (Dragino DDS75-LB)   
  • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB)   

Gareth Foulkes,  Pentrefelin, Dinbych

Gareth Foulkes,  Pentrefelin, Dinbych

Monitro Glaw, Iechyd Pridd, Dŵr Ffo a Chymylogrwydd Afon 

  • Godro ar Raddfa Fechan, Gwartheg Biff Llaeth, Garddwriaeth, Dofednod, Mêl 
  • 60 hectar  
  • Fferm iseldir  
  • Arallgyfeirio: Siop fferm sy’n gwerthu cynnyrch a chynhyrchion cartref  

Nodi patrymau a chydberthnasoedd â glawiad, lleithder pridd, dŵr ffo a dyddodion gwaddod a chymylogrwydd yr afon ar wahanol bwyntiau. 

  • Trawsnewidydd Synhwyrydd Ansawdd Dŵr/Cymylogrwydd (Dragino WQS-LB) 
  • Synhwyrydd Tywydd LoRaWAN ‘8 mewn 1’ (SenseCap S2120)   
  • Synhwyrydd pH Pridd (Dragino SPH01-LB) 
  • Trosglwyddydd Synhwyrydd Lleithder Pridd ac EC (Dragino SE0X-LB)   
  • Synhwyrydd Pwysedd Aer/Dŵr – Math Trochi (Dragino PS-LB/LS-I) 

Andrew Gresty, The Cloy, Wrecsam

 

Andrew Gresty, The Cloy, Wrecsam

 

Monitro Clyfar o Ffensys Trydan i Ymateb i Ddiffygion a’u Trwsio 

  • Fferm iseldir 
  • 75 hectar 
  • Gwartheg biff a sugno  
  • Henffordd X 

Monitro Clyfar o Ffensys Trydan i Ymateb i Ddiffygion a’u Trwsio ar unwaith: 

Monitro’r cyflenwad o bŵer ar hyd yr ardaloedd o ffensys trydan ledled y fferm i nodi diffygion ar unwaith a darparu rhybudd am foltedd isel neu broblemau posibl. Bydd hyn yn caniatáu atgyweiriadau prydlon, gan sicrhau bod y ffensys yn parhau i fod yn effeithiol, ac yn arbed amser o’i gymharu â gwiriadau â llaw. 

  • Synwyryddion Monitro Ffensys Trydan (FENCYBOY) 

Aled Lloyd Owen, Tyn y Bryn, Abergele 

Aled Lloyd Owen, Tyn y Bryn, Abergele 

Iechyd Anifeiliaid: Gwella Ffrwythlondeb y Fuches Sugno 

  • Defaid a buches sugno 
  • 56 hectar a thir comin 
  • 200 o famogiaid Cymreig ynghyd â 100 o famogiaid croesfrid a diadell fechan o ddefaid Wyneblas Caerlŷr pedigri 
  • 12 o heffrod sugno, gyda tharw ar log 

Iechyd Anifeiliaid: Gwella Ffrwythlondeb y Fuches Sugno: 

Monitro ymddygiad yr heffrod a gweithgarwch y tarw i sefydlu a yw’r tarw sydd ar log yn gweithio. 

  • LoRaWAN GPS/Olrhain Symudiad (MOKO LW001-BG PRO) 

Huw Jones, Fferm Pen-lan, Clwyd 

Huw Jones, Fferm Pen-lan, Clwyd 

System Rybuddio sy’n Olrhain Gweithrediadau ac Asedau’r Fferm. 

  • Fferm Defaid a Biff  
  • Fferm ucheldir 
  • 354 hectar 
  • System sy’n seiliedig ar laswelltir   
  • Arallgyfeirio – Coed Nadolig a Llety Gwyliau  

Gwella Diogeledd y Fferm gan Ddefnyddio Systemau Rhybuddio sy’n Olrhain Asedau a Gweithrediadau. 

Gwella system ddiogeledd y fferm gan ddefnyddio synwyryddion agor/cau a synwyryddion olrhain asedau. Bydd monitro o bell â system rybuddio yn rhoi tawelwch meddwl pan fydd staff i ffwrdd o’r fferm. 

  • LoRaWAN GPS/Olrhain Symudiad (MOKO LW001-BG PRO)   
  • Synwyryddion Monitro Ffensys Trydan (FENCYBOY)   
  • Synhwyrydd Cau/Agor Drysau/Giatiau Awyr Agored (Dragino DS03A-LB/LS)