Manylion
Trowch eich busnes bach yn swydd lawn amser gyda SBARC Ceredigion

Trowch eich busnes bach yn swydd lawn amser gyda SBARC Ceredigion

Os yw eich adduned blwyddyn newydd yn ymwneud â sefydlu neu ehangu eich busnes, mentro’n llawrydd neu droi eich busnes bach yn swydd lawn amser, yna gallai SBARC Ceredigion fod yr union raglen chi. Gallai’r cwrs wedi ei deilwra – sydd nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer rhaglen 2024 – fod yr hwb sydd ei angen arnoch i fynd â’ch busnes gam ymhellach eleni.

Mae SBARC Ceredigion yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion ac yn tanlinellu’r strategaeth economaidd ar gyfer Ceredigion am y 15 mlynedd nesaf. Mae’r strategaeth yn darparu fframwaith economaidd i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio:

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio prynhawn gyda’r co-hort cyntaf o entrepreneuriaid y llynedd, rhai syniadau creadigol iawn gyda gwir botensial yn cael eu cyflwyno. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniad a allai fod yn fusnes i ddod ymlaen a bod yn rhan o’r prosiect hwn a ariennir yn llawn. Byddant yn cael yr holl gefnogaeth a’r profiad sydd eu hangen i wireddu eu syniad busnes.”

Caiff SBARC Ceredigion ei ariannu gan Lywodraeth y DU, ei yrru gan Ffyniant Bro a’i reoli gan y cwmni datblygu economaidd blaenllaw, Menter a Busnes. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle unigryw i 12 unigolyn gael ystod o brofiadau dysgu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu busnes, gan gynnwys seminarau, gweithdai a chyfleoedd mentora, yn lleol a thu hwnt.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio dau benwythnos preswyl yng Ngheredigion, a thri diwrnod yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i’r unigolion ennill tystysgrif ôl-radd lefel 7 ar Arwain Newid drwy Brifysgol Aberystwyth. Er mwyn ymgeisio ar gyfer SBARC Ceredigion, mae’n rhaid bod yn byw neu’n gweithio yng Ngheredigion ac yn hyn na 18 oed.

Cynhaliwyd rownd gynta’r rhaglen gan Menter a Busnes y llynedd, gan dderbyn adolygiadau clodwiw gan y criw megis Sophia Morgan-Swinhoe, cydberchennog Dyfi Dairy sy’n dweud bod y rhaglen wedi creu ‘amgylchedd cefnogol i mi ehangu fy nealltwriaeth o fyd busnes,’. A Steff Rees sy’n byw yn Aberystwyth sy’n dweud bod SBARC Ceredigion wedi cynnig ‘sesiynau amrywiol a hynod ddifyr sydd wedi rhoi tân yn fy mol i fwrw ati gyda fy syniadau.’

Mae ceisiadau nawr yn cael eu derbyn ar gyfer yr ail rownd, gyda’r dyddiad cau Ddydd Sul, 18fed o Chwefror 2024.

“Mae dechrau’r flwyddyn yn gyfle perffaith i weithio tuag at eich amcanion, ac os yw eich amcanion yn ymwneud ac ehangu eich busnes, miniogi eich sgiliau busnes neu droi eich busnes bach yn swydd lawn amser, yna gallai SBARC Ceredigion fod y cyfle datblygu perffaith ar eich cyfer,” meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Datblygu a Gwledig Menter a Busnes.

“Ar raglen SBARC Ceredigion, bydd cyfle i unrhyw un sy’n byw neu weithio yng Ngheredigion glywed gan arbenigwyr yn y maes am yr hyn sydd ei angen i sefydlu busnes, y gorau a’r gwaethaf o redeg eich busnes eich hun, a sut i gymryd y camau nesaf hynny i ddatblygu eich cwmni neu eich menter gymdeithasol.

“Yn aml tydi pobl ddim yn gweld eu hunain fel entrepreneuriaid, ond gyda’r gefnogaeth iawn, gyda gwybodaeth, cysylltiadau ac anogaeth gall pethau anhygoel gael eu cyflawni. Ymhen amser, rydym yn gobeithio y bydd y criw yn buddsoddi’r sgiliau newydd hyn mewn busnesau a mentrau yma yng Ngheredigion, gan ei wneud yn le hyd yn oed yn well i fyw a gweithio.”

Cyn gwneud cais dylai ymgeiswyr wirio eu bod yn rhydd i fynychu tri chyfnod hyfforddi’r prosiect, a gynhelir ar y dyddiadau canlynol: 15-17 Mawrth (Ceredigion), 27-30 Ebrill (Gwlad yr Iâ) ac 7-9 Mehefin (Ceredigion).

Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf
Explore our latest postsMentera yn dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu Mentera yn camu i’r adwy i daclo cloffni mewn gwartheg bîff Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf