{"id":5205,"date":"2024-10-02T09:23:45","date_gmt":"2024-10-02T09:23:45","guid":{"rendered":"https:\/\/mentera.cymru\/?p=5205"},"modified":"2024-10-02T09:23:45","modified_gmt":"2024-10-02T09:23:45","slug":"llyrs-blog-staff-survey-results","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/","title":{"rendered":"Blog Ll\u0177r &#8211; Canlyniadau Arolwg Staff 2024"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-834 size-large\" src=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr-Roberts_Website-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" srcset=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr-Roberts_Website-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr-Roberts_Website-300x200.jpg 300w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr-Roberts_Website-768x512.jpg 768w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr-Roberts_Website-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr-Roberts_Website-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn helpu i wneud i bethau ddigwydd. O\u2019r fro i\u2019r byd, rydym yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau fod o safon ryngwladol. Gyda phecynnau cymorth wedi&#8217;u teilwra, mynediad at gyfleoedd, a gwerth 35 mlynedd o arbenigedd, profiad a chysylltiadau, byddwn yn sicrhau bod eich busnes y gorau y gall fod.<\/p>\n<p>Eleni, cymerodd 76% o staff Mentera ran yn ein harolwg staff blynyddol. Fel Prif Weithredwr Mentera, rwy&#8217;n ddiolchgar i aelodau\u2019r t\u00eem am gymryd yr amser i gwblhau&#8217;r arolwg ac am fod yn onest gyda&#8217;u hatebion. Er bod y canlyniadau&#8217;n rhoi digon o achos i ni ddathlu a bod yn optimistaidd yn eu cylch, maen nhw hefyd yn rhoi adborth amhrisiadwy inni i adeiladu a gwella arno.<\/p>\n<h3><strong>Pam cynnal arolwg blynyddol?<\/strong><\/h3>\n<p>I arweinwyr unrhyw gwmni, gall yr arolwg staff blynyddol fod yn gyfnod nerfus. Ond nid yw poeni am yr hyn y mae eich t\u00eem yn ei feddwl mewn gwirionedd yn ddim rheswm i beidio \u00e2 gofyn y cwestiynau pwysig. Heb y mewnwelediad y mae eich canlyniadau&#8217;n ei roi i chi, sut gallwch chi wybod ble i ganolbwyntio&#8217;ch ymdrechion a ble mae angen i chi wella?<\/p>\n<p>Mae canlyniadau eich arolwg yn rhoi cipolwg hollbwysig i chi o ddiwylliant eich cwmni \u2013 ac mae diwylliant y cwmni yr un mor bwysig ag unrhyw un o\u2019r dangosyddion perfformiad eraill. Gall wneud neu dorri&#8217;ch cwmni \u2013 os cewch chi\u2019r diwylliant yn iawn, mae gennych chi gynhyrchiant uchel, mor\u00e2l da, timau ymgysylltiedig a gweithwyr hapus. Os cewch chi\u2019r diwylliant yn anghywir, neu os methwch \u00e2 chreu\u2019r amgylchedd cywir i adael i\u2019r diwylliant cywir ffynnu, gall fwrw\u2019ch strategaeth fusnes i gyd oddi ar y cledrau!<\/p>\n<h3><strong>Achos i ddathlu<\/strong><\/h3>\n<p>Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn fuan ar \u00f4l i ni lansio ein strategaeth newydd \u2013 O&#8217;r Fro i&#8217;r Byd \u2013 a\u2019r enw a\u2019r brand newydd (Menter a Busnes oeddem yn flaenorol), felly mae&#8217;r ffaith bod 91% o&#8217;r t\u00eem wedi dweud eu bod yn deall ein pwrpas, ein gweledigaeth a&#8217;n hegwyddorion yn wych.<\/p>\n<p>Yr un mor gadarnhaol yw&#8217;r ffaith bod 90% wedi dweud eu bod yn falch o weithio yma a byddai 87% yn ei argymell fel lle da i weithio. Mae enw da mor bwysig y dyddiau hyn. Mae newyddion da am ddiwylliant eich busnes yn lledaenu&#8217;n gyflym; i&#8217;r gwrthwyneb, mae newyddion drwg yn teithio hyd yn oed yn gyflymach!<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-5217 size-large\" src=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-1024x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"1024\" srcset=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-300x300.jpg 300w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-150x150.jpg 150w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-768x768.jpg 768w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-1536x1536.jpg 1536w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-04-2048x2048.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><br \/>\nYn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyflwyno polis\u00efau gweithio hybrid a gweithio hyblyg newydd, gan annog mwy o amser yn y swyddfa i feithrin cydweithrediad agosach. Rydym hefyd yn caniat\u00e1u gweithio hyblyg i gynorthwyo gyda bywyd y tu hwnt i\u2019r gwaith. Felly mae gweld bod 91% yn cymeradwyo\u2019r polisi gweithio hyblyg a 89% yn dweud bod ganddyn nhw gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn anhygoel i&#8217;w weld \u2013 ac mae&#8217;n awgrymu ein bod ar y trywydd cywir.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-5225 size-large\" src=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-1024x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"1024\" srcset=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-300x300.jpg 300w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-150x150.jpg 150w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-768x768.jpg 768w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-1536x1536.jpg 1536w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-06-2048x2048.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Darparwr yw Mentera \u2013 ac ymfalch\u00efwn mewn 35 mlynedd o ddarparu gwasanaethau o safon uchel i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a ffynnu. Felly efallai mai&#8217;r ystadegyn gorau oll yw bod 97% o&#8217;r t\u00eem yn meddwl ein bod yn cynnig gwasanaethau o safon uchel.<\/p>\n<h3><strong>Dim lle i hunanfodloni<\/strong><\/h3>\n<p>Nid yw casglu adborth ac ymgysylltu \u00e2 staff yn ddigwyddiad a wneir ond unwaith, ac rwy&#8217;n gwybod nad oes lle i hunanfodloni yma. Mae&#8217;n rhaid i ni wrando ar bob darn o adborth a chymryd camau pan nad yw&#8217;r canlyniadau lle rydym am iddyn nhw fod.<\/p>\n<p>Eleni, mae aelodau\u2019r t\u00eem wedi dweud bod angen i ni wneud mwy i&#8217;w helpu i gyrraedd eu dyheadau gyrfa ac i&#8217;w helpu i dyfu. Mae 73% o&#8217;r farn ein bod yn gwneud digon a&#8217;u bod yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, ac mae 63% yn ymwybodol o&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, sydd wedi gostwng o 70% y llynedd. Felly mae&#8217;n amlwg bod angen i ni wneud mwy gyda\u2019n pecyn hyfforddi a sicrhau bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-5219 size-large\" src=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-1024x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"1024\" srcset=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-300x300.jpg 300w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-150x150.jpg 150w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-768x768.jpg 768w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-1536x1536.jpg 1536w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Feedback-Insta-Carousel-NAVY-09-2048x2048.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Mae&#8217;r niferoedd sy\u2019n gweithio oriau anghymdeithasol sawl gwaith yr wythnos wedi cynyddu ychydig ers y llynedd, o chwarter i draean. Er bod cyfran dda o hynny yn ddewis unigol, roedd llawer ohono yn sgil natur ein gwaith a\u2019r angen i fynychu digwyddiadau, ac felly mae angen i ni gadw llygad barcud ar les staff a sicrhau bod pobl yn cymryd amser i adennill eu hegni mewn cyfnodau tawelach.<\/p>\n<p>Mae gennym waith i&#8217;w wneud hefyd ar rai agweddau ar gynhwysiant. Er mai barn ein staff yn gyffredinol yw ein bod yn weithle cynhwysol i bobl \u00e2 nodweddion gwarchodedig, gwelwyd gostyngiad o 13% o&#8217;r llynedd hyd eleni yn nifer y staff sy&#8217;n cytuno ein bod yn gynhwysol ar gyfer pobl anabl. Dyma&#8217;r union fath o adborth sy&#8217;n gwneud i mi eisiau archwilio&#8217;r rhesymau y tu \u00f4l iddo, ac i weithio i wella ein cwmni trwy wneud newidiadau bywyd go iawn i sut rydym yn gweithredu a chyfathrebu ein hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol. Roeddem yn falch o gadw ein hachrediad Safon Aur Ymrwymedig i Gydraddoldeb (C2E) eleni, ond nid da lle gellir gwell.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-4640 size-large\" src=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team-1024x427.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"427\" srcset=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team-1024x427.jpg 1024w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team-300x125.jpg 300w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team-768x320.jpg 768w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team-1536x640.jpg 1536w, https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<h3><strong>Dyfodol disglair<\/strong><\/h3>\n<p>Mae cwmni&#8217;n dibynnu ar ei d\u00eem am lwyddiant. Mae Mentera yn cyflogi dros 170 o bobl. Y bobl yma sy&#8217;n ymdrechu&#8217;n galed bob dydd i gyflawni ein gweledigaeth a&#8217;n strategaeth, gan alluogi a grymuso busnesau Cymru i fentro a ffynnu \u2018o\u2019r fro i\u2019r byd\u2019, er mwyn creu economi ffyniannus.<\/p>\n<p>Wrth i ni adeiladu ar gyfer y dyfodol, byddaf yn parhau i wrando a dysgu o adborth ein staff yn fy ymrwymiad i ragoriaeth a dysgu\u2019n barhaus ym mhopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau a fydd yn arwain at newid cadarnhaol yn ein cwmni; er mwyn gwneud ein gweithle yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mewn blwyddyn lle rydym wedi datblygu a lansio strategaeth, brand ac enw newydd i\u2019r cwmni, rwy&#8217;n hynod falch bod y t\u00eem yn gefnogol i&#8217;n cyfeiriad a&#8217;n huchelgais.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn helpu i wneud i bethau ddigwydd. O\u2019r fro i\u2019r byd, rydym yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau fod o safon ryngwladol. Gyda phecynnau cymorth wedi&#8217;u teilwra, mynediad at gyfleoedd, a gwerth 35 mlynedd o arbenigedd, profiad a chysylltiadau, byddwn yn sicrhau bod eich busnes y gorau &hellip; <a href=\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4641,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-5205","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v22.8 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Blog Ll\u0177r - Canlyniadau Arolwg Staff 2024 - Mentera<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Blog Ll\u0177r - Canlyniadau Arolwg Staff 2024 - Mentera\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn helpu i wneud i bethau ddigwydd. O\u2019r fro i\u2019r byd, rydym yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau fod o safon ryngwladol. Gyda phecynnau cymorth wedi&#8217;u teilwra, mynediad at gyfleoedd, a gwerth 35 mlynedd o arbenigedd, profiad a chysylltiadau, byddwn yn sicrhau bod eich busnes y gorau &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Mentera\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-10-02T09:23:45+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr_lansiad_.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1297\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"865\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"gwenan\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"gwenan\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/\",\"url\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/\",\"name\":\"Blog Ll\u0177r - Canlyniadau Arolwg Staff 2024 - Mentera\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg\",\"datePublished\":\"2024-10-02T09:23:45+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-02T09:23:45+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/24f997ad2382d77487e1ccdd4c2fc15b\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg\",\"width\":1920,\"height\":800},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Blog Ll\u0177r &#8211; Canlyniadau Arolwg Staff 2024\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Mentera\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/24f997ad2382d77487e1ccdd4c2fc15b\",\"name\":\"gwenan\",\"url\":\"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/author\/gwenan\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Blog Ll\u0177r - Canlyniadau Arolwg Staff 2024 - Mentera","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Blog Ll\u0177r - Canlyniadau Arolwg Staff 2024 - Mentera","og_description":"Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn helpu i wneud i bethau ddigwydd. O\u2019r fro i\u2019r byd, rydym yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau fod o safon ryngwladol. Gyda phecynnau cymorth wedi&#8217;u teilwra, mynediad at gyfleoedd, a gwerth 35 mlynedd o arbenigedd, profiad a chysylltiadau, byddwn yn sicrhau bod eich busnes y gorau &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/","og_site_name":"Mentera","article_published_time":"2024-10-02T09:23:45+00:00","og_image":[{"width":1297,"height":865,"url":"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Llyr_lansiad_.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"gwenan","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"gwenan","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/","url":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/","name":"Blog Ll\u0177r - Canlyniadau Arolwg Staff 2024 - Mentera","isPartOf":{"@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg","datePublished":"2024-10-02T09:23:45+00:00","dateModified":"2024-10-02T09:23:45+00:00","author":{"@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/24f997ad2382d77487e1ccdd4c2fc15b"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#primaryimage","url":"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg","contentUrl":"https:\/\/mentera.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/meet-the-team.jpg","width":1920,"height":800},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/llyrs-blog-staff-survey-results\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Blog Ll\u0177r &#8211; Canlyniadau Arolwg Staff 2024"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/","name":"Mentera","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/24f997ad2382d77487e1ccdd4c2fc15b","name":"gwenan","url":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/author\/gwenan\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5205"}],"version-history":[{"count":32,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5249,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5205\/revisions\/5249"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4641"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/mentera.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}