Cronfa Her Adfer Covid
Cronfa Her Adfer Covid
Comisiynwyd Mentera gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru i reoli prosiectau a dosbarthu cyllid grant ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru, a adwaenir ar y cyd fel y Gronfa Her Adfer Covid.
Nod y grant oedd ariannu prosiectau a all gyflwyno atebion newydd ac arloesol mewn perthynas ag adferiad sector prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru sydd wedi’i effeithio’n andwyol gan y pandemig.
Nod y gronfa her oedd gwireddu gweledigaeth Bwyd a Diod Cymru;
I greu sector bwyd a diod Gymreig gryf a bywiog gydag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth, gydag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.
Datblygwyd y Gronfa Her Adfer Covid i hwyluso’r gwaith o gyflawni prosiectau arloesol a all gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Roedd disgwyliad i’r prosiectau fod yn gydweithredol, gyda’r hyn y gellid ei gyflawni yn dangos budd amlwg i ddatblygiad a thwf cynaliadwy sector bwyd a diod Cymru. Cafodd y sector ei effeithio’n sylweddol gan bandemig Covid-19, gyda chadwyni cyflenwi ac arferion siopa defnyddwyr yn newid yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae amcanion strategol a thematig y Gronfa Her Adfer Covid fel a ganlyn:
- Creu sector bwyd a diod Gymreig gryf a bywiog sydd ag enw byd-eang am ragoriaeth mewn cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol
- Cefnogi busnesau mewn modd arloesol i dyfu y tu hwnt i lefelau cyn-bandemig yn fasnachol
- Annog newid meddylfryd gan ymgorffori dulliau cynaliadwy o gynhyrchu
- Ysgogi twf ychwanegol yn y DU a marchnadoedd allforio allweddol
- Ysgogi gwariant arloesi ac ymchwil a datblygu ymhlith busnesau Bwyd a Diod yng Nghymru
- I’r sector bwyd a diod fod ar flaen y gad o ran adferiad Covid-19 yng Nghymru
Derbyniwyd cyfanswm o 21 o geisiadau a dyfarnwyd 8 prosiect llwyddiannus. Hyd y prosiect oedd 12 mis. Roeddent yn cynnwys ystod amrywiol o feintiau, sectorau a lleoliadau graffigol yng Nghymru.
Mae rhagor o fanylion am y gronfa a’r prosiectau unigol yn yr adnoddau canlynol: