
Cyfarwyddwyr Anweithredol
Rydym am recriwtio hyd at dri chyfarwyddwr anweithredol newydd i gynnig arweiniad strategol a phersbectif annibynnol ar adeg hynod gyffrous i’r cwmni.
Fflur Jones, Cadeirydd Mentera
Diolch yn fawr iawn am ddangos diddordeb mewn dod yn un o gyfarwyddwyr anweithredol Mentera. Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rhan allweddol mewn cwmni sydd wedi bod yn meithrin ac yn ysbrydoli busnesau ledled Cymru ers 35 mlynedd ac sydd â chynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n gyfle hynod ddiddorol sy'n gofyn am weledigaeth, uchelgais a brwdfrydedd dros ddatblygu'r economi yng Nghymru.
