SBARC Ceredigion
SBARC Ceredigion
Lansiwyd Prosiect SBARC Ceredigion, menter newydd sbon sy’n cael ei ariannu gan Llywodraeth y DU, wedi ei yrru gan Ffyniant Bro a’i rheoli gan Mentera mis Medi 2023. Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i 24 unigolyn lwcus o Geredigion ddysgu a chael profiadau arbennig yng nghwmni rhai o entrepreneuriaid gorau’r ardal, a thu hwnt.
Fel rhan o’r prosiect 18-mis, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio dau benwythnos preswyl yng Ngheredigion, a thri diwrnod ar daith astudiaeth. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i’r unigolion i gwblhau tystysgrif ôl-radd lefel 7 ar Arwain Newid drwy Brifysgol Aberystwyth. Er mwyn ymgeisio ar gyfer SBARC Ceredigion, mae’n rhaid bod yn byw neu weithio yng Ngheredigion ac yn hyn na 18 oed.
“Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Ngheredigion ac eisiau dechrau busnes eich hun, yn hoffi’r syniad o sefydlu menter gymdeithasol, neu efallai eich bod yn awyddus i arwain, yna gallai’r cyfle arbennig hwn fod yn berffaith ar eich cyfer chi,” meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Datblygu a Gwledig Mentera.
“Gyda phrosiect SBARC Ceredigion bydd 24 o bobl leol yn cael mynediad at becyn eang o wybodaeth o’r diwydiant a phrofiad ymarferol. Rydym yn credu y bydd SBARC hefyd yn ysbrydoli ac yn rhoi hyder, gan roi hwb i unigolion gymryd y cam cyntaf tuag at fod yn entrepreneuriaid neu’n arweinwyr. Gydag amser, rydym yn gobeithio y byddent yn buddsoddi’r sgiliau newydd hyn mewn busnesau a mentrau yma yng Ngheredigion, gan ei wneud yn le hyd yn oed yn well i fyw a gweithio.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae prosiect SBARC Ceredigion yn fenter newydd arbennig a byddwn yn annog unrhyw un sy’n byw yng Ngheredigion ac am ddatblygu eu sgiliau busnes i fanteisio ar y cyfle gwych hwn.
“Trwy weithio gyda Mentera, a gyda chymorth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rydym yn falch y bydd prosiect SBARC Ceredigion yn darparu cyfleoedd i ddatblygu perchnogion busnes a chyflogwyr y dyfodol ledled Ceredigion. Bydd hyn yn cyfrannu at un o flaenoriaethau corfforaethol allweddol y Cyngor, sef hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth.”
Am ragor o wybodaeth am brosiect SBARC Ceredigion cysylltwch â sbarc@mentera.cymru